Toglo gwelededd dewislen symudol

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored

Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.

Herbaceous border in Singleton Botanical Gardens

Ardal Amwynderau Bae Langland

Gerllaw traeth deniadol Bae Langland mae cyrtiau tenis, promenâd glan môr ger cytiau traeth sydd wedi eu hadnewyddu'n ddiweddar ac ardal ddymunol o lwyni a seddau.

Ardal Gêmau Amlddefnydd Mayhill

Mae'r parc gweithgareddau bach hwn drws nesaf i ganolfannau cymunedol a hamdden yr ardal.

Ardal Gêmau Amlddefnydd Townhill

Man agored yn Townhill.

Ardal Gêmau Amlddefnydd y Blaenymaes

Parc trefol yng nghanol Blaenymaes. Mae'n cynnig gweithgareddau gwych i blant ifanc a phlant hwn.

Ardal Gêmau Amlddefnydd y Clâs

Mae'r tir hamdden hwn yng ngogledd y ddinas mewn ardal tai cymunedol brysur ac mae'n darparu man agored i blant redeg o'i gwmpas.

Arfordir De Gŵyr, Rhosili i Oxwich

Mae'r darn hwn o arfordir yn doreithiog o fywyd gwyllt a hanes ac yn dirwedd amrywiol a thrawiadol o olygfeydd clogwyni, coetiroedd a thwyni tywod.

Ashlands/Bandfield

Dyma ddau safle, mae Ashlands a Bandfield gyferbyn â'i gilydd. Ceir meysydd pêl-droed a chaeau chwarae.

Bae Abertawe

Mae bywyd gwyllt a nodweddion naturiol a hanesyddol Bae Abertawe'n creu amgylchedd o safon eithriadol i fyw, gweithio a datblygu twristiaeth gynaliadwy ynddo.

Bae Bracelet

Bae Bracelet yw cartref Gorsaf Gwylwyr y Glannau a Goleudy'r Mwmbwls, gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.

Blaendraeth Llwchwr

Ardal laswelltog ddymunol yw hon, gyda llawer o goed ac, fel mae'r enw yn ei awgrymu, mae'n agos at Foryd Llwchwr.

Broughton, Hillend a Thwyni Llangynydd

Ardal helaeth o dwyni tywod ar hyd yr arfordir yw hon ac mae'n gynefin i sawl rhywogaeth warchodedig bywyd gwyllt. Mae'n agos at Draeth Llangynydd a Rhos Llangynydd sy'n safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC).

Bryn Llanmadog a Rhos Tankeylake

Mae'r ardal hon ym mhen gorllewinol penrhyn Gŵyr, rhwng pentrefi bach Llanmadog a Cheriton i'r gogledd-ddwyrain a Llangynydd i'r de-orllewin.

Camlas Abertawe

Mae Camlas Abertawe'n goridor gwyrdd deniadol ac yn lle hyfryd i fynd am dro.

Camlas Tennant

Mae camlas Tennant yn 8 milltir o hyd o Bort Tennant, Abertawe i'w chyffordd â Chamlas Nedd yn Aberdulais ac mae'n daith gerdded hyfryd a hamddenol drwy dirweddau heb eu difetha er gwaethaf ei chysylltiadau diwydiannol.

Castell Casllwchwr

Yn y parc bach hwn, sy'n llai na hectar, gellir gweld adfeilion Castell Casllwchwr.

Cefn Bryn

Mae Cefn Bryn yn grib o dir comin, pum milltir o hyd, a adnabyddir yn lleol fel asgwrn cefn Gŵyr. Un o brif atyniadau'r Bryn yw heneb Neolithig fawr o'r enw Maen Ceti, nid nepell o ben y crib.

Clogwyni Langland

Mae'r clogwyni hyn yn estyn o'r dwyrain o Fae Langland i Limeslade.

Clogwyni Newton a Chlogwyni Summerland

Mae'r tir comin 35 hectar hwn ar lethr y clogwyn rhwng Bae Langland a Bae Caswell.

Clogwyni a Thwyni Pennard (Bae'r Tri Chlogwyn)

Mae Clogwyni Pennard (ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bennaf) yn ddarn o arfordir hardd gwyllt a garw yn ne Gwyr, gyda Bae'r Tri Chlogwyn, sy'n destun poblogaidd mewn ffotograffau, ar un pen, a Bae Pwll Du, sydd yr un mor hardd, ar y pen arall. Mae tua 4 milltir rhwng y ddau.

Coed Cwm Penllergaer

Ar gyrion gogleddol Abertawe y mae Coed Cwm Penllergaer sy'n weladwy o draffordd yr M4.

Coed Hendrefoelan

Cymysgedd o goetir llydanddail a phlanhigfa sydd ar ôl ers clirio coedwig wreiddiol y cwm rai degawdau yn ôl i adeiladu'r safle tai a phentref y myfyrwyr gerllaw.

Coed Parc Sgeti

Mae Coed Parc Sgeti'n cwmpasu grŵp o bum coedwig fach leol yn ardal Sgeti yn Abertawe, y mae dwy ohonynt yn hawdd mynd iddynt.

Coed y Melin

Mae Coed y Melin yn ymestyn dros 126 hectar sy'n llydanddail yn bennaf.

Coed y Parc

Coetir poblogaidd yw Coed y Parc (164 hectar) yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.

Coedwig Chwarel Crymlyn

Coetir dail llydan bach a dôl yw Coedwig Chwarel Crymlyn.

Coedwig Penllergaer

Mae Coedwig Penllergaer, sy'n eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn ardal gymharol fawr (tua 193 hectar) o goetir, yr ystyrir ei bod o werth gymunedol sylweddol.

Coedwig y Cocyd

Parc dymunol gyda choed a choetir aeddfed gerllaw safle o bwysigrwydd cadwraeth natur o'r enw Coedwig a Pharc y Cocyd. Coetir derw yw prif nodwedd yr ardal hon heblaw am waelod y dyffryn lle gwelir gwern yn bennaf.

Coetir Cymunedol Shaw

Meithrinfa Goed Fictoraidd a Gardd Farchnad (1870-1918) oedd Coetir Shaw a sefydlwyd gan ddau frawd o Swydd Efrog, John a William Shaw.

Coetir Elba

Mae Coetir Elba yn ardal fach â choed naturiol sydd wedi tyfu mewn cornel o safle cae chwaraeon Elba.

Coetir West Cross

Parc coediog canolig ei faint yw hwn gyda nant ddymunol yn rhedeg drwyddo.

Comin Barlands

Comin bach (14.6 hectar) llonydd gyda llwybrau cerdded yn arwain at Gomin Fairwood a Chomin Clun. Mae'n agos at Gomin Barlands ar y B4436.

Comin Clun a Maes Mansel

Dyma ardal helaeth o dir comin (286 hectar) a groesir gan y B4436, gyda datblygiadau West Cross a Mayals ar ffin ddwyreiniol Comin Clun a phentref Murton nesaf i Faes Mansel i'r de-orllewin.

Comin Llangyfelach

Mae ffyrdd mawr yn torri trwy'r comin ychydig i'r gogledd o Gyffordd 46 yr M4 a gerllaw'r safle Parcio a Theithio.

Comin Mynydd Bach

Mae Comin Mynydd Bach ar gyrion trefol Abertawe i'r gogledd o Ysgol Mynydd Bach (Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw), dwy fynwent, tai a ffermdir.

Comin Mynydd Cadle

Mae Comin Mynydd Cadle ar gyrion trefol Penderi.

Comin Pengwern a Chomin Fairwood

Mae Pengwern a Fairwood yn ddwy ardal fawr o dir comin nesaf at ei gilydd (cyfanswm o 157 hectar a 462ha yn eu tro) sy'n cynnwys glaswelltir rhostirol llaith, glaswelltir corsiog a rhedyn a phrysgwydd ar y tir uchel.

Comin Stafford

Mae'r comin hwn yn glytwaith o rostir isel a glaswelltir corsiog. Mae'r gwair ar ran o'r safle'n cael ei dorri'n rheolaidd a cheir rhai meysydd chwaraeon.

Cors Llan-y-tair-mair (Knelston)

Mae Cors Llan-y-tair-mair yn ardal bwysig o borfeydd hesg o ansawdd uchel, wedi'i hamgylchynu gan dir âr a glaswellt wedi'i wella.

Cronfeydd Dŵr Lliw Isaf ac Uchaf

Mae'r cronfeydd dŵr mewn ardal â golygfeydd mynyddig syfrdanol sy'n nodweddiadol o Fawr, i'r gogledd o Abertawe.

Cyfleusterau Chwaraeon Elba

Mae gan y parc gweithgareddau hwn nifer o gyrtiau, caeau a chyfleusterau ar gyfer nifer o chwaraeon awyr agored.

Dyffryn Llandeilo Ferwallt

Mae Dyffryn Llandeilo Ferwallt (ger pentref Llandeilo Ferwallt), yn ymestyn o Kittle yn y gogledd i Fae Pwll Du yn y de.

Gerddi Argyll

Parc trefol bach gyda choed aeddfed, meinciau, toiledau a gwelyau blodau/llwyni ger y prif safle bws yng Ngorseinon.

Gerddi Botaneg Singleton

Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.

Gerddi Clun

Mae Gerddi Clun yn cynnwys casgliadau cenedlaethol amrywiol o blanhigion mewn parcdir prydferth. Yn enwog yn rhyngwladol am ei chasgliadau ysblennydd o Rododendronau, Pieris ac Enkianthus, mae'r gerddi'n cynnig hafan o lonyddwch, plannu toreithiog a nodweddion diddorol.

Gerddi Southend

Parc cymunedol gwych yn y Mwmbwls. Eisteddwch yn ôl a mwynhau'r olygfa dros Fae Abertawe wrth i'r plant gael hwyl ar y cyfleusterau chwarae gwych

Gerddi St James

Parc cowrt trefol bach a ffurfiol gyda choed yn eu llawn dwf a seddau.

Glaswelltir Bryn Lliw a Thir Comin Mynydd Lliw

Tir comin yw Mynydd Lliw. Hen domenni rwbel yw'r brif nodwedd ond maent wedi'u gorchuddio â llystyfiant.

Glaswelltir Corsiog y Trallwn gan gynnwys Parc Halfway

Mae Glaswelltir Corsiog y Trallwn yn ardal o oddeutu 23 hectar o laswelltir wedi'i wella a'i wella'n rhannol, planhigfeydd coniffer (Coedwig y Trallwn) gyda datblygiad trefol o amgylch y corstir. Mae Rheilffordd Bro Tawe ar ymyl ogleddol y safle.

Graig y Coed

Mae'r ardal hon yn cynnwys coetir cymunedol newydd sy'n cael ei ddatblygu o dan Brosiect Coetiroedd Gogledd Gŵyr, ynghyd â meysydd chwarae.

Gwaith Brics Dyfnant

Mae safle'r hen waith brics bellach yn goetir llydanddail gyda phwll, dôl, rhostir, brigiadau creigiog ac adfeilion adeiladau'r hen waith brics.

Gwarchodfa Natur Bro Tawe

Mae Gwarchodfa Natur Bro Tawe ym Mro Tawe, maestref yng ngogledd-ddwyrain Abertawe.

Gwarchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls

Ym 1991, dynodwyd 23 hectar Bryn y Mwmbwls yn Warchodfa Natur Leol (GNL) er mwyn diogelu'r safle i fywyd gwyllt a phobl.

Gwarchodfa Natur Leol Coed Cwmllwyd

Yn bennaf mae'r warchodfa'n cynnwys coed derw sydd tua 100 mlwydd oed a gafodd eu plannu ar ôl cliriad blaenorol.

Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob

Mae Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob yn cynnwys 46 o erwau (19 hectar) o goetir a glaswelltir calchfaen.

Gwarchodfa Natur Leol Cors Cilâ

Mae Cors Cilâ yn ymestyn dros 21.3 erw (8.62 hectar), yn cynnwys mosäig o gynefinoedd ac yn meddu ar rai enghreifftiau rhagorol o lawer o gynefinoedd gwlypdir a ddiogelir ac sydd dan fygythiad.

Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du

Mae Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du yn cynnwys darn cul o dir gwastad ar ben y clogwyni a'r llethr i lawr i'r creigiau a olchir gan y môr, ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a phlanhigion pwysig.

Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle

Mae Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle yn un o'r enghreifftiau gorau o rostir trefol yn y wlad.

Gwarchodfa Natur Leol Twyni Whiteford a Morfa Heli Llanrhidian

Mae Morfa Llanrhidian a Thwyni Whiteford yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn safleoedd arbennig o ran harddwch y dirwedd a'r bywyd gwyllt.

Hardings Down

Mae Hardings Down (sy'n eiddo Llangennith Manors) yn safle rhostir agored ar lethr bryn sy'n ymestyn ar draws oddeutu 65 hectar. I raddau helaeth, nid oedd Hardings Down yn hygyrch tan yn ddiweddar, am fod y rhedyn mor uchel ac mor drwchus.

Leadfield, Ffynnon Deml

Yn wahanol i'r tirlun a ddyluniwyd gerllaw ym Mharc Treforys, mae hon yn ardal fawr o laswelltir (mae merlod yn pori yno ar hyn o bryd) gydag ardal gorsiog sy'n gynefin gwych i amffibiaid fel brogaod, llyffantod a madfallod.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • o 2
  • Nesaf tudalen