Toglo gwelededd dewislen symudol

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored

Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.

Herbaceous border in Singleton Botanical Gardens

Comin Mynydd Bach

Mae Comin Mynydd Bach ar gyrion trefol Abertawe i'r gogledd o Ysgol Mynydd Bach (Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw), dwy fynwent, tai a ffermdir.

Mynydd Bach y Cocs (wedi'i gysylltu â Chomin Fairwood)

Comin 65 hectar yw hwn wedi'i gysylltu gan lwybr troed â Choed Gelli Hir - safle sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy'n ei reoli.

Mynydd Bach Y Glo

Tir comin tua 34 hectar yw hwn, wedi'i groesi gan reilffordd, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd.

Comin Mynydd Cadle

Mae Comin Mynydd Cadle ar gyrion trefol Penderi.

Mynydd Garn Goch

Safle 182 hectar o faint ar ymyl ystâd ddiwydiannol Penllergaer yw hwn. Mae Heol Tregŵyr (A484), Heol Abertawe (B4620) a Heol yr Ysbyty yn croesi'r safle.

Mynydd Gelliwastad, Comin Rhyddwen a Choed Homelean

Mynydd hir, cul (79.4 hectar) yw Mynydd Gelliwastad sydd â golygfeydd hyfryd o ddwy ochr y cwm.

Clogwyni Newton a Chlogwyni Summerland

Mae'r tir comin 35 hectar hwn ar lethr y clogwyn rhwng Bae Langland a Bae Caswell.

Mynwent Ystumllwynarth a'r Castell gan gynnwys Coed Peel

Mae'r ardal hon yn cynnwys Coed Peel, y fynwent gan gynnwys safle claddu coetir a thiroedd y castell.

Parc Llewelyn

Parc cymunedol gwych yn nwyrain y ddinas sy'n cynnig ardal gemau amlddefnydd a lle i gicio pêl.

Parc Melin Mynach

Mae Parc Melin Mynach yn dirwedd o bwys hanesyddol, gyda nodweddion treftadaeth ddiwydiannol.

Parc Williams

Mae Parc Williams o fewn pellter cerdded i gastell Casllwchwr ac mae'n cynnig llawer o gyfleusterau ar gyfer nifer o weithgareddau awyr agored.

Parc y Werin

Gyda dwy lawnt fowlio a chae pêl-droed, mae gan Barc y Werin nifer o gyfleusterau gwych i ddenu ymwelwyr o bob oed a'u cadw'n actif.

Coed y Parc

Coetir poblogaidd yw Coed y Parc (164 hectar) yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.

Comin Pengwern a Chomin Fairwood

Mae Pengwern a Fairwood yn ddwy ardal fawr o dir comin nesaf at ei gilydd (cyfanswm o 157 hectar a 462ha yn eu tro) sy'n cynnwys glaswelltir rhostirol llaith, glaswelltir corsiog a rhedyn a phrysgwydd ar y tir uchel.

Llethrau Pen-lan

Amgylchynir llethrau Pen-lan gan ddatblygiadau trefol Pen-lan a Brynhyfryd ac yn cynnwys mosaig o rostir sych/laswelltir asidig. Ceir ardaloedd llai sy'n cynnwys prysgwydd yn bennaf a glaswelltir hamdden.

Coedwig Penllergaer

Mae Coedwig Penllergaer, sy'n eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn ardal gymharol fawr (tua 193 hectar) o goetir, yr ystyrir ei bod o werth gymunedol sylweddol.

Coed Cwm Penllergaer

Ar gyrion gogleddol Abertawe y mae Coed Cwm Penllergaer sy'n weladwy o draffordd yr M4.

Twyni Penmaen a Nicholaston

Mae nifer o olion archeolegol pwysig ar Dwyni Penmaen ac mae'r safle rhwng Bae'r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich yn golygu ei fod yn daith gerdded ddeniadol.

Clogwyni a Thwyni Pennard (Bae'r Tri Chlogwyn)

Mae Clogwyni Pennard (ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bennaf) yn ddarn o arfordir hardd gwyllt a garw yn ne Gwyr, gyda Bae'r Tri Chlogwyn, sy'n destun poblogaidd mewn ffotograffau, ar un pen, a Bae Pwll Du, sydd yr un mor hardd, ar y pen arall. Mae tua 4 milltir rhwng y ddau.

Parc Pontlliw

Mae'r parc hwn i'r gogledd o'r sir ym mhentref Pontlliw.

Parc Primrose

Parc Primrose yn barc bychan yn Llansamlet.

Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du

Mae Gwarchodfa Natur Leol Pwll Du yn cynnwys darn cul o dir gwastad ar ben y clogwyni a'r llethr i lawr i'r creigiau a olchir gan y môr, ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a phlanhigion pwysig.

Parc Ravenhill

Mae gan y parc hwn nifer o nodweddion diddorol gan gynnwys cwrt pêl fasged ac amffitheatr goncrit.

Rhos Rhosili a Chlogwyni Rhosili

Mae bae ysgubol Rhosili ar ben pellaf Penrhyn Gŵyr. Gyda sgerbwd llongddrylliad ac ynys lanw Pen Pyrod Rhosili i'w gweld ar lanw isel, y ffordd orau i weld y cyfan yw dilyn llwybr sy'n dringo uwch ben y bae i Gomin Rhosili. Cewch olygfeydd ysblennydd a syfrdanol o'r fan honno.

Ryers Down

Ardal o dir comin 68ha yw Ryers Down (sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Coetir Cymunedol Shaw

Meithrinfa Goed Fictoraidd a Gardd Farchnad (1870-1918) oedd Coetir Shaw a sefydlwyd gan ddau frawd o Swydd Efrog, John a William Shaw.

Gerddi Botaneg Singleton

Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.

Parc Singleton

Ymweliad hanfodol i deuluoedd o bob oedran. Mae gan Barc Singleton erwau o wyrddni diaddurn syml.

Coed Parc Sgeti

Mae Coed Parc Sgeti'n cwmpasu grŵp o bum coedwig fach leol yn ardal Sgeti yn Abertawe, y mae dwy ohonynt yn hawdd mynd iddynt.

Arfordir De Gŵyr, Rhosili i Oxwich

Mae'r darn hwn o arfordir yn doreithiog o fywyd gwyllt a hanes ac yn dirwedd amrywiol a thrawiadol o olygfeydd clogwyni, coetiroedd a thwyni tywod.

Gerddi Southend

Parc cymunedol gwych yn y Mwmbwls. Eisteddwch yn ôl a mwynhau'r olygfa dros Fae Abertawe wrth i'r plant gael hwyl ar y cyfleusterau chwarae gwych.

Gerddi St James

Parc cowrt trefol bach a ffurfiol gyda choed yn eu llawn dwf a seddau.

Comin Stafford

Mae'r comin hwn yn glytwaith o rostir isel a glaswelltir corsiog. Mae'r gwair ar ran o'r safle'n cael ei dorri'n rheolaidd a cheir rhai meysydd chwaraeon.

Camlas Abertawe

Mae Camlas Abertawe'n goridor gwyrdd deniadol ac yn lle hyfryd i fynd am dro.

Bae Abertawe

Mae bywyd gwyllt a nodweddion naturiol a hanesyddol Bae Abertawe'n creu amgylchedd o safon eithriadol i fyw, gweithio a datblygu twristiaeth gynaliadwy ynddo.

Gwarchodfa Natur Bro Tawe

Mae Gwarchodfa Natur Bro Tawe ym Mro Tawe, maestref yng ngogledd-ddwyrain Abertawe.

Camlas Tennant

Mae camlas Tennant yn 8 milltir o hyd o Bort Tennant, Abertawe i'w chyffordd â Chamlas Nedd yn Aberdulais ac mae'n daith gerdded hyfryd a hamddenol drwy dirweddau heb eu difetha er gwaethaf ei chysylltiadau diwydiannol.

Y Wern a'r Allt

Mae pum darn bach o tir comin ar wahân yn ardal Llanmorlais/Blue Anchor.

Ardal Gêmau Amlddefnydd Townhill

Man agored yn Townhill.

Glaswelltir Corsiog y Trallwn gan gynnwys Parc Halfway

Mae Glaswelltir Corsiog y Trallwn yn ardal o oddeutu 23 hectar o laswelltir wedi'i wella a'i wella'n rhannol, planhigfeydd coniffer (Coedwig y Trallwn) gyda datblygiad trefol o amgylch y corstir. Mae Rheilffordd Bro Tawe ar ymyl ogleddol y safle.

Llethrau Trewyddfa

Mae rhan ogleddol y safle'n cynnwys brith o laswelltir corsiog a phrysgwydd.

Parc Underhill

Mae'r parc hwn yng nghanol y Mwmbwls yn lle perffaith i'r teulu gicio pêl a chwarae neu ymlacio wrth fynd â'r ci am dro.

Parc Victoria

Parc trefol twt a hardd rhwng canol y ddinas a'r Mwmbwls.

Washinghouse Brook (coetiroedd)

Mae'r nant yn rhedeg drwy'r coetir deniadol hwn o dderw a chyll yn bennaf sy'n gartref i adar megis y dylluan frech, y gnocell werdd, llwyd y gwrych, y fronfraith, y llinos werdd, yr eurbinc a choch y berllan.

Parc Waverley

Parc trefol gyda choetir a chae criced ar gyrion Clydach.

Welsh Moor a Chomin y Fforest

Mae'r cominau hyn yn fosaig o laswelltir llaith asid a rhostir sychach. Maent yn gominau tawel iawn ar y cyfan, ychydig yn ddiarffordd, wedi'u cuddio gan brysgwydd a choed.

Coetir West Cross

Parc coediog canolig ei faint yw hwn gyda nant ddymunol yn rhedeg drwyddo.

Gwarchodfa Natur Leol Twyni Whiteford a Morfa Heli Llanrhidian

Mae Morfa Llanrhidian a Thwyni Whiteford yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn safleoedd arbennig o ran harddwch y dirwedd a'r bywyd gwyllt.

Parc Ynystawe

Mae gan barc gwyrdd a hyfryd Ynystawe, sydd ger glannau'r afon Tawe, amrywiaeth o gyfleusterau i bobl o bob oed.
Close Dewis iaith