Toglo gwelededd dewislen symudol

Adrodd

Gallwch roi gwybod am amrywiaeth o faterion a phroblemau ar-lein.

Adrodd am gerbyd wedi'i adael

Rhowch wybod i ni am gerbyd wedi'i adael er mwyn i ni allu mynd i'r afael ag ef.

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

Os ydych yn denant cyngor neu'n byw ar stad cyngor ac mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich helpu i fynd i'r afael ag ef.

Twyll neu Gamddefnyddio Bathodyn Glas

Os ydych yn amau bod bathodyn glas yn cael ei gamddefnyddio, gallwch roi gwybod i ni.

Twyll budd-dal

Cewch wybod mwy am dwyll budd-dal a sut gallwch helpu i'w atal.

Adrodd am dwyll

Os ydych yn amau bod person neu gwmni'n cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, gallwch adrodd amdano drwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.

Casgliad a gollwyd

Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu.

Adrodd am sbwriel yn y stryd

Adroddwch am sbwriel yn y stryd er mwyn i ni fynd i'r afael ag ef.

Adrodd am dipio'n anghyfreithlon

Rhowch wybod i ni am dipio gwastraff cartref neu fusnes yn anghyfreithlon. Mae tipio'n anghyfreithlon yn drosedd ac os cewch eich dal, gallech gael eich erlyn.

Adrodd am chwistrell neu nodwydd

Os ydych yn dod ar draws chwistrell neu nodwydd, peidiwch â chyffwrdd â hi ond rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib. Yna byddwn yn trefnu cael gwared arni'n ddiogel.

Adrodd am fin sbwriel sy'n orlawn

Adroddwch am fin sbwriel sy'n orlawn er mwyn i ni ei wacáu.

Adrodd am osod posteri'n anghyfreithlon

Adroddwch am osod posteri'n anghyfreithlon. Mae gosod posteri'n anghyfreithlon yn drosedd ac os cewch eich dal, gallech gael eich erlyn.

Adrodd am faw cŵn

Adroddwch am faw cŵn y mae angen cael gwared arno neu adroddwch am rywun sy'n caniatáu i'w gi faeddu ar y briffordd.

Adrodd am fin baw cŵn y mae angen ei wacáu

Adroddwch am fin baw cŵn nad yw wedi cael ei wacáu.

Ffurflen cwyno gorfodi cynllunio

Rhowch wybod i ni os hoffech i ni ymchwilio i achos posib o dorri rheolau cynllunio.

Adrodd am dwll yn y ffordd ar-lein

Rhowch wybod i ni am dwll yn y ffordd ar-lein a byddwn yn ceisio ei atgyweirio o fewn 48 awr wedi i chi adrodd amdano (os yw'r tywydd yn caniatáu).

Rhoi gwybod i ni am broblemau gyda thoiledau cyhoeddus

Os oes problem gydag un o'n toiledau cyhoeddus, rhowch wybod i ni. Os oes staff ar y safle, rhowch wybod am unrhyw broblem iddynt hwy'n gyntaf fel y gallwn ddatrys y broblem yn gyflym.

Treth y Cyngor: cofrestru am newid i'ch amgylchiadau ac adrodd amdano

Os yw'ch amgylchiadau'n newid, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith fel y gallwn addasu'ch bil a diweddaru ein cofnodion.

Adrodd am newid mewn amgylchiadau a all effeithio ar eich budd-daliadau

Os ydych yn hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor a/neu Fudd-dal Tai ac mae eich amgylchiadau'n newid, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Rhoi gwybod am broblem llygredd

Gallwch roi gwybod i ni am broblem gyda sŵn, dŵr, llygredd tir neu aer. Y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r niwsans. Mae'n bosib nad ydynt yn sylweddoli bod problem ac yn aml byddant yn helpu.

Rhoi gwybod am broblem parcio

Mae gennym gyfrifoldeb i orfodi cyfyngiadau parcio penodol. Gallwch ddweud wrthym am unrhyw broblemau parcio sy'n ymwneud â'r ardaloedd gorfodi hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.

Adrodd am broblem gyda maes parcio

Gallwch ddweud wrthym am unrhyw broblemau yn ein meysydd parcio trwy ddefnyddio'r ffurflen hon.

Adrodd am broblem gyda ffyrdd neu balmentydd

Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau ar y ffyrdd neu ar balmentydd fel y gallwn eu trwsio.

Adrodd am broblem gydag arwyddion terfyn cyflymder 20 mya

Rhowch wybod i ni os oes problem gydag unrhyw arwyddion terfyn amser yn Abertawe, yn benodol mewn perthynas â'r terfyn cyflymder 20mya.

Rhybuddion ac adroddiadau am weithredoedd twyllodrus

Os ydych wedi gweld gweithred dwyllodrus yn ddiweddar gallwch roi gwybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch hefyd weld y rhybuddion am y weithredoedd twyllodrus diweddaraf.

Adrodd am ddiffyg golau

Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau gyda goleuadau stryd fel y gallwn eu trwsio.

Plant ar goll o'r system addysg

Os ydych yn meddwl bod plentyn a/neu berson ifanc ar goll o'r system addysg (mewn unrhyw ffordd o gwbl), rhowch wybod i'r adran addysg drwy gyfeirio'r plentyn.

Archwiliad i amheuaeth o wenwyn bwyd

Mae gwenwyn bwyd yn salwch a achosir gan fwyta bwyd halogedig. Nid yw fel arfer yn ddifrifol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella ymhen rhai diwrnodau heb driniaeth.

Gwneud cwyn

Llenwch y ffurflen hon os hoffech wneud cwyn am wasanaeth y cyngor.

Cyflwyno sylw neu gŵyn

Rydym am wybod sut y gallwn wneud pethau'n well a hoffem wybod pan rydym yn gwneud pethau'n dda.

Oes gennych bwnc yr hoffech i ni graffu arno?

Gall pawb sy'n bwy neu'n gweithio yn ein dinas a sir wneud cais i'r tîm Craffu ystyried materion sy'n effeithio ar ein cymuned.

Cais i weld darn o ffilm CCTV (ffurflen ar-lein)

Os ydych chi am wneud cwyn am ddefnydd y cyngor o'i gamerâu CCTV, defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon.

Rhoi gwybod am broblem gyda llwybr cyhoeddus neu lwybr ceffyl

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n gweld problem ag unrhyw un o'r llwybrau cyhoeddus neu lwybrau ceffyl yn Abertawe neu Benrhyn Gŵyr.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am waith gan bartner heb ei ddatgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sydd â phartner nad yw wedi'i ddatgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - Rhoi gwybod am fath arall o dwyll

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n cyflawni math arall o dwyll er enghraifft incwm heb ei ddatgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - Rhoi gwybod am rywun sy'n byw yn rhywle arall

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n hawlio budd-dal mewn un cyfeiriad ac yn byw yn rhywle arall.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am dir neu eiddo heb ei ddatgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n berchen ar dir neu eiddo nad ydynt wedi'i ddatgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am arbedion heb eu datgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sydd â chynilion ond nad yw wedi'u datgan.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor - dweud am waith heb ei ddatgan

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac sy'n gweithio ond nad yw wedi'i ddatgan.

Prydau ysgol am ddim - rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Dywedwch wrthym os yw eich amgylchiadau'n newid.

Adborth a sylwadau am y gwasanaeth tai

Rhowch wybod i ni am eich barn am y gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn neu os ydych yn meddwl y gallwn wneud unrhyw welliannau.

Adrodd am ddiffyngion yn arwyneb y ffordd ar-lein

Rhowch wybod i ni am ddiffygion yn arwyneb y ffordd neu lwybr troed, gan gynnwys tyllau.

Adrodd am gerrig palmant sydd wedi'u difrodi neu sydd wedi torri ar-lein

Rhowch wybod i ni am unrhyw gerrig palmant sydd wedi difrodi neu dorri fel y gallwn drefnu i'w trwsio neu eu hailosod.

Adrodd am broblemau eraill gyda ffyrdd a phalmentydd

Rhowch wybod am unrhyw broblemau eraill gyda ffyrdd a phalmentydd gan gynnwys meinciau a rheiliau wedi'u difrodi, graffiti, goleuadau traffig, canghennau sy'n hongian drosodd a chwyn.

Adrodd am eira neu iâ ar y ffordd / palmant ar-lein

Gall eira ac iâ fod yn beryglus ar y ffyrdd a'r palmentydd, felly rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau.

Rhowch wybod os ydych yn symud neu'n gadael eiddo fel y gallwn ddiweddaru'ch cofnodion ardrethi busnes

Os ydych yn symud eiddo o fewn Abertawe, neu'n gadael eich eiddo, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru'ch manylion.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2024