Toglo gwelededd dewislen symudol

Beicio

Ewch ar eich beic gyda llwybrau beicio gwych yn Abertawe ar gyfer teithio a hamdden, rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybrau 4 a 43) a Lôn Geltaidd y Gorllewin.

Cyclist overlooking Mumbles.

Mae beicio'n gwella'ch iechyd a'ch lles wrth leihau eich ôl-troed carbon ac mae'n ffordd ddifyr, mwy cynaliadwy o deithio na theithiau byr mewn car.

Mae teithio ar feic yn gyflymach nag y meddyliwch ac mae'n helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd i bobl sy'n gorfod gyrru.

Hybiau beicio Hybiau beicio

 

Mapiau a llwybrau

Mae nifer o lwybrau beicio sy'n addas i deuluoedd yn ogystal â llwybrau beicio mynydd mwy heriol yn Abertawe a Gŵyr a'r cyffiniau.

Darn gwastad 5 milltir o hyd yw Promenâd Abertawe sy'n dilyn Bae Abertawe, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer beicio.

Mae llwybrau ceffyl cyhoeddus i'w defnyddio gan gerddwyr, marchogion a beicwyr. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion: Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae gan lawer o barciau a mannau awyr agored lwybrau defnydd a rennir: A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored

Rhagor o wybodaeth am feicio am hwyl ym Mae Abertawe a Gŵyr: Beicio ym Mae Abertawe (Croeso Bae Abertawe) (Yn agor ffenestr newydd)

Rydyn ni'n gweithio'n gyson i wella'r rhwydwaith teithio llesol yn Abertawe.

Map Beicio Bae Abertawe (PDF) [23MB] - map manwl o lwybrau beicio a llwybrau defnydd a rennir - er bod y map hwn yn rhoi trosolwg manwl, fe'i lluniwyd yn 2018 felly mae llwybrau teithio llesol mwy newydd ar goll.

Map Llwybrau Bae Abertawe (PDF) [1MB] - yn tynnu sylw at leoliadau a chysylltiadau allweddol â dulliau trafnidiaeth eraill fel rheilffyrdd, bysiau a hybiau llogi beiciau. 

Adrodd am broblem a rhagor o wybodaeth am gynnal a chadw llwybrau beicio a theithio llesol Cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed

 

Cynllun llogi beiciau 'Santander Cycles'

Gall myfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd logi beiciau mewn chwe gorsaf o amgylch Bae Abertawe, gan ddarparu ffordd hwyliog, iach a fforddiadwy o fynd o gwmpas y ddinas.

Gellir llogi beiciau a'u dychwelyd i orsafoedd yn y chwe lleoliad canlynol:

  1. Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe
  2. Canolfan Ddinesig
  3. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  4. Parcio a Theithio Ffordd Fabian
  5. Campws y Bae Prifysgol Abertawe
  6. Promenâd y Mwmbwls (ger Gerddi Southend)

Gallwch gael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am gofrestru ar gyfer Santander Cycles Abertawe, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'r beiciau, eu rhentu, mannau parcio a'u dychwelyd, ar wefan y cynllun: Santander Cycles Prifysgol Abertawe (nextbike.co.uk) (Yn agor ffenestr newydd)

Rheolir gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â'r darparwr rhannu beiciau, nextbike a Santander.

 

Rheolau'r Ffordd Fawr

Mae Rheolau'r Ffordd Fawr (rheolau ar gyfer beicwyr) yn darparu rheolau ar gyfer beicwyr a fydd yn helpu i'ch cadw chi a defnyddwyr eraill y ffordd yn ddiogel: Rheolau'r Ffordd Fawr - rheolau i feicwyr (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

Bydd deall yr arwyddion ar hyd llwybrau beicio yn eich helpu i gyrraedd eich cyrchfan yn ddiogel. Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn dangos llawer o'r arwyddion a ddefnyddir yn gyffredin ar lwybrau teithio llesol a phriffyrdd: Rheolau'r Ffordd Fawr - arwyddion traffig (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Gwella diogelwch

Dyma rai awgrymiadau ychwanegol a fydd hefyd yn helpu i'ch cadw'n ddiogel wrth feicio:

Byddwch yn ddiogel

  • Gwisgwch helmed a dillad amddiffynnol eraill
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn weladwy i eraill
  • Gwiriwch eich brêcs, eich teiars a'ch goleuadau'n rheolaidd

Byddwch yn wyliadwrus

  • Byddwch yn effro i beryglon posib
  • Byddwch yn barod i arafu neu stopio
  • Dylech osgoi goddiweddyd eraill yn ddiangen
  • Cadwch bellter diogel oddi wrth eraill

Byddwch yn ystyriol

  • Cadw i'r chwith lle bo'n bosib 
  • Dylech osgoi gwyro'n sydyn 
  • Byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill 
  • Ildiwch i gerddwyr 
  • Defnyddiwch eich cloch neu gweiddwch i rybuddio eraill  
  • Defnyddiwch ein llwybrau mewn ffordd sy'n dangos ystyriaeth i'r holl ddefnyddwyr 

 

Mae gofalu am eich beic mor hawdd ag A-B-C

Mae A ar gyfer aer
Sicrhewch fod digon o aer yn eich teiars ar bob adeg a gwiriwch fod yr olwynion yn troi heb unrhyw rwystrau. Os nad ydyn nhw, gwiriwch a yw'r brêcs neu'r giardau olwynion yn rhwbio.

Mae B ar gyfer brêcs
Y rhan bwysicaf o feic! I wirio'r brêc blaen, gwthiwch y beic ymlaen ac yna defnyddiwch y lifer (yr un ar y llaw dde fel arfer). Dylai'r beic stopio. Ar gyfer y brêc cefn, gwnewch yr un peth ond gwthiwch y beic am yn ôl. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i rywun arall ei wirio.

Mae C ar gyfer cadwyni, ceblau a chocos
Chwiliwch am geblau sydd wedi'u treulio, irwch y gadwyn a gwiriwch nad yw cyrn y beic na'r sêt yn symud. 

 

Prynu beic

Mae sawl ffordd y gallwch chi gael gafael ar feic. Os ydych am brynu beic, mae digon o siopau arbenigol yn Abertawe sy'n darparu gwasanaeth gwych, gan eich helpu i gael eich beic perffaith! Dod o hyd i siop (The Cycling Experts) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Cynlluniau 'Beicio i'r Gwaith' hefyd yn ffordd wych o brynu beic drwy eich gweithle. Sicrhewch eich bod yn gwirio gyda'ch cyflogwr a ydyw eisoes wedi cofrestru, gan y gallai arbed arian i chi ar feic gwaith newydd.

 

Llogi beic

Gallwch rentu beic drwy gynllun llogi beiciau. Mae'r cynllun poblogaidd Santander Cycles (Yn agor ffenestr newydd) a grybwyllwyd uchod yn cynnig llogi beiciau o chwe gorsaf o amgylch Bae Abertawe ac mae Tawe Bikes (Yn agor ffenestr newydd) yn cynnig gwasanaeth llogi o dri hwb ar hyd Llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Cwm Tawe). Yn ogystal â hyn, mae BikeAbility Wales (Yn agor ffenestr newydd) yn cynnig amrywiaeth o feiciau i'w llogi sy'n galluogi pobl o bob oed a gallu i gael mynediad at feicio. Mae hyn yn cynnwys llogi beiciau arbenigol, llogi beiciau dwy olwyn, a hyfforddiant beicio.

 

Cynnal a chadw'ch beic

Bydd angen cynnal a chadw ac atgyweirio beiciau ar ôl llawer o ddefnydd ac mae'n bwysig sicrhau bod eich beic yn gweithio'n dda. Diolch byth, mae digon o ddarparwyr atgyweirio beiciau yn Abertawe a fydd yn gallu sicrhau bod eich beic yn barod i'w ddefnyddio eto.

Darparwyr cyrsiau cynnal a chadw beiciau

 

Parcio beiciau'n ddiogel

Mae llawer o bethau hawdd y gallwch chi eu gwneud i sicrhau bod eich beic wedi'i barcio'n ddiogel. Gall hyn amrywio o ddewis clo beic da i barcio mewn lleoliad sydd wedi'i oleuo'n dda.

Cycle hubs

 

Hyfforddiant beicio

Rydym yn darparu hyfforddiant beicio i blant ysgol i Safon Genedlaethol Lefel 1, 2 a 3 ac yn helpu i'w paratoi i fod yn ddefnyddwyr ffyrdd annibynnol, ond mae cyrsiau sgiliau beicio yn ffordd wych o fagu hyder mewn beicio ar unrhyw gam o'ch bywyd. Caiff rhai darparwyr yn ardal Abertawe eu nodi isod:

 

Grwpiau beicio

Mae digon o grwpiau a chlybiau beicio yn Abertawe - dyma rai ohonynt:

Hybiau beicio

Gadewch eich beic mewn lle diogel drwy gydol y dydd neu dros nos. Mae gennym loceri diogel ym maes parcio'r Cwadrant yng nghanol y ddinas ac ar safle parcio a theithio Fabian Way.
Close Dewis iaith