Oherwydd tywydd rhewllyd sy'n effeithio ar rannau mawr o Abertawe o hyd, NI FYDD UNRHYW GASGLIADAU AILGYLCHU NA GWASTRAFF heddiw (dydd Llun 25 Ionawr).
Cynhelir casgliad heddiw yfory (dydd Mawrth 26 Ionawr), a bydd yr HOLL gasgliadau eraill ar gyfer yr wythnos hon 1 DIWRNOD YN HWYRACH nag arfer fel wrth i'r criwiau ddal i fyny â'u gwaith.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich dealltwriaeth.
Bydd rhai criwiau casglu'n dechrau eu gwaith yn gynharach nag arfer yn ystod yr amgylchiadau presennol. Sicrhewch felly eich bod chi'n rhoi eich holl ailgylchu a'ch sachau du ar ymyl y ffordd yn barod i'w casglu erbyn 6.00am ar eich diwrnod casglu.

Casglu ymyl y ffordd
Mae ein casgliadau ymyl y ffordd yn cynnwys papur, cardbord, gwydr, caniau, plastig, gwastraff cegin, gwastraff gardd a gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Gwahenir eich casgliadau'n rhai 'Wythnos Werdd' ac 'Wythnos Binc'. Gofynnir i chi ddidoli'ch gwastraff a'i roi yn y sach briodol/bin priodol. Cofiwch ddefnyddio'n Teclyn Chwilio am Gasgliadau Ailgylchu i gael gwybod ar ba ddiwrnodau y casglwn beth.
Arweiniad defnyddiol i gasglu gwastraff o ymyl y ffordd (PDF, 2MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Os oes angen arnoch i eitemau o Wastraff Swmpus gael eu casglu, gallwch drefnu casgliad ar gyfer hyd at 3 eitem am £20, neu 6 eitem am £40.
Mae'r gwasanaethau ymyl y ffordd ar gyfer eiddo domestig yn unig. Os ydych yn rheoli busnes yn Abertawe a hoffech ailgylchu'ch sbwriel, mae gwybodaeth ar ein tudalennau Gwastraff masnachol, busnes ac ailgylchu.
Os ydych am roi gwybod nad yw'ch gwastraff wedi'i gasglu, arhoswch tan ar ôl 1.00pm ar eich diwrnod casglu er mwyn rhoi digon o amser i'r criwiau gwblhau casgliadau yn eich ardal.

Casglu sachau gwyrdd
Gallwch ddefnyddio sachau gwyrdd ar gyfer caniau, gwydr, papur, a cherdyn. Byddwn yn eu casglu yn ystod eich wythnos werdd.

Casglu sachau pinc
Gallwch ddefnyddio sachau pinc ar gyfer plastigion. Rydym yn eu casglu yn ystod eich wythnos binc.

Casglu gwastraff bwyd
Defnyddiwch eich bin gwyrdd ar gyfer eich casgliad gwastraff bwyd wythnosol.

Casgliad gwastraff gardd
Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu ar eich wythnos werdd.

Casglu sachau du - Cadwch at 3
Cesglir gwastraff cartref o ymyl y palmant mewn sach ddu. Caniateir i bob cartref roi hyd at 3 sach ddu allan bob pythefnos.