Digwyddiadau a gweithgareddau - am ddim, cost isel a rhatach
Cymerwch gip ar sut y gallwch chi fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau o amgylch Abertawe am ddim neu am gost isel.

Digwyddiadau COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)
Rydym yma i chi y gaeaf hwn gyda'n gweithgareddau a digwyddiadau COAST yn Abertawe.

Hwyl hanner tymor
Mae digon o bethau hwyl i'w gwneud yn ystod y gwyliau ysgol yn Abertawe.
Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at lyfrau ac adnoddau am ddim yn ogystal â channoedd o wasanaethau'r cyngor ar-lein.
Digwyddiadau'r llyfrgell
Digwyddiadau a gweithgareddau yn eich llyfrgell leol.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Oriel leol yw Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe sy'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Abertawe.
Amgueddfa Abertawe
Yr amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes diwydiannol, morol a diwylliannol Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.
Canolfan Dylan Thomas
Mae Arddangosfa Dylan Thomas yn dathlu Dylan Thomas, bardd enwocaf Abertawe.
Traethau
Mae gan Abertawe draethau gwych ar garreg ei drws.

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored
Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.

Castell Ystumllwynarth
Darganfod Castell Ystumllwynarth

Prom Abertawe
Mwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe.

Lleoedd Chwarae
Mae'r holl ardaloedd chwarae bellach ar agor i'r cyhoedd.

Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd
Mae Chwaraeon ac Iechyd yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.

Us Girls a GemauStryd
Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.

Digwyddiadau amgylcheddol
Cynhelir digwyddiadau am ddim ac am gost isel o gwmpas Abertawe a phenrhyn Gŵyr.
Campfeydd awyr agored
Mae gennym 10 gorsaf ffitrwydd o gwmpas Llyn y Fendrod a llwybr ffitrwydd ar hyd Promenâd Abertawe gyda chyfarpar am ddim i bawb ei ddefnyddio.
Gweithgareddau heneiddio'n dda
Cyfleoedd i aros yn heini a chwrdd â phobl newydd yn Abertawe.

Sioe Awyr Cymru 2025
5 - 6 Gorffennaf 2025
Pasbort i Hamdden
Cynllun gostyngiadau gan Gyngor Abertawe i drigolion Abertawe sydd ar incwm isel yw Pasbort i Hamdden (PIH).
Hynt
Mae'r cerdyn Hynt yn gwneud mynediad i wasanaethau hamdden ac adloniant yn fwy hwylus i gwsmeriaid anabl.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 15 Hydref 2024