Gweithredu ar yr hinsawdd - ynni
Mae rheoli ynni a charbon yn effeithiol yn hanfodol er mwyn lleihau allyriadau a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Arweinir camau gweithredu Cyngor Abertawe drwy Gynllun Strategol Rheoli Ynni a Charbon. Mae hyn yn nodi ac yn dadansoddi ynni ac allyriadau carbon o feysydd gwasanaeth gweithredol y cyngor ac mae'n dod â'r holl ddeddfwriaethau a pholisïau sy'n ymwneud ag ynni, rheoli carbon a newid yn yr hinsawdd ynghyd. Mae'n helpu holl wasanaethau'r cyngor i addasu i ffyrdd carbon isel o weithio a defnyddio technolegau adnewyddadwy.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i dalu biliau tanwydd, ynni a biliau eraill y cartref.
Mae pob tŷ cyngor newydd yn cael ei adeiladu gydag effeithlonrwydd ynni fel un o'r prif flaenoriaethau.
Cyngor a chyllid i helpu i arbed ynni ac arian yn eich cartref.
Mae arweinwyr prifysgolion yn Abertawe yn dweud bod datblygiad £1.7m Eden Las yn brosiect trawsnewidiol a fydd yn sicrhau statws y ddinas fel canolfan ar gyfer arloesedd mewn ynni adnewyddadwy a fydd yn arwyddocaol drwy'r byd i gyd.
Bydd gan brosiect Eden Las gwerth £1.7bn Abertawe fanteision sylweddol i fusnesau cadwyni cyflenwi lleol a siopau, bwytai, gwestai a thafarndai'r ddinas.
Mae Ynni Morol Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad am y prosiect Eden Las arfaethedig gwerth £1.7bn yn Abertawe.
Mae gan ganol dinas Abertawe hwb gwybodaeth newydd ar gyfer preswylwyr lleol sy'n awyddus i leihau eu biliau tanwydd.
Bydd Cyngor Abertawe yn annog Llywodraeth y DU i weithredu'n gyflym i amddiffyn aelwydydd rhag cynnydd mewn prisiau ynni.
Mae cynlluniau ar gyfer ffatri gynhyrchu newydd pwysig yn Abertawe, a fydd yn creu cannoedd o swyddi â chyflog da, yn gwneud cynnydd sylweddol.
Dros £3.35m - dyna faint sydd wedi cael ei dalu i deuluoedd ar draws Abertawe yn yr wythnosau diweddar fel rhan o gynllun i helpu pobl wresogi'u cartrefi'r gaeaf hwn.
Bydd Cyngor Abertawe yn cyflwyno cynllun a fydd yn ei helpu i fod yn garbon sero net erbyn 2030.
Addaswyd diwethaf ar 19 Rhagfyr 2022