Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032

CSCA - Amcan 1: Mwy o blant meithrin / plant 3 oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Mwy o blant meithrin/plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg Dangosir nifer y plant meithrin (M2)/plant tair oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf yn y tabl isod.

 

MeithrinIonawr 2017Ionawr 2018Ionawr 2019Ionawr 2020Ebrill 2021
Abertawe404 388 400 383 34215.2%

At ddibenion cymharu mae'r niferoedd dros yr un cyfnod yn ein darpariaeth Meithrin (M2) cyfrwng Saesneg fel a ganlyn:

MeithrinIonawr 2017Ionawr 2018Ionawr 2019Ionawr 2020Ebrill 2021
Abertawe2119 2083 2112 2008 190684.8%

Ar hyn o bryd mae un lleoliad Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, saith Cylchoedd Mudiad Meithrin a naw cylch Ti a Fi.

Mae pob un o'r 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn darparu cynnig meithrin rhan-amser. Fel y mae ar hyn o bryd mae mwy o gyfleoedd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Saesneg cyn-ysgol ac felly gall hyn effeithio ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan rieni yn gynnar yn natblygiad eu plentyn oherwydd pellter neu agosrwydd eu hysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg.

Mae'n bwysig nodi hefyd, fel y nodwyd yn gynharach yn y ddogfen hon,y gyfradd genedigaethau sy'n dirywio yn Abertawe yn ystod yr un cyfnod ac y dylai'r ffocws fod ar ganran y disgyblion yn hytrach na'r niferoedd gwirioneddol. Mae angen i ni hefyd ddeall yn llawn effaith COVID-19 a chydnabodbod angen bod yn ofalus wrth drin amcanestyniadau ar hyn o bryd.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Mae Amcan 1 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn defnyddio data sy'n deilio o'n hadolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ein hardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016) i lywio'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

Rhaid i ni hefyd esbonio'n glir sut y byddwn yn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr ynghylch argaeledd a'r math o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir, sut y byddwn yn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr sy'n nodi bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau waeth beth fo'u cefndir ieithyddol a sut y byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y buddion y gall dwyieithrwydd ac amlieithrwydd eu cynnig.

Yn olaf, mae angen datganiad arnom yn nodi sut y byddwn ni, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol eraill yn ôl yr angen, yn hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddaint drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant dysgwyr yn unol â'r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008). 

Mae ein targedau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fel y nodir yn y tabl isod:

Niferoedd a % y plant 3 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
2022-20232023-20242024-20252025-20262026-2027
35516.3%363-36717.1-17.3373-38117.1-17.5385-39717.8-18.4399-41718.5-19.4
2027-20282028-20292029-20302030-20312031-2032
415-43919.9-20.3433-46519.9-21.4455-49520.9-22.7481-52521.9-23.9507-59523%-27%

Mae'r targedau hyn yn adlewyrchu amcanestyniadau presennol disgyblion yn Abertawe ac fe'u hadolygir yn flynyddol.

Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a chynyddu nifer y lleoedd addysg feithrin cyfrwng Cymraeg o 15.4% i rhwng 23-27% o'r garfan gymwys erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd, yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Sefydlu is-grŵp blynyddoedd cynnar i fonitro gwaith yn y maes hwn o lansio'r Cynllun.
  2. Gweithio gyda Mudiad Meithrin i agor 3 lleoliad Cylch Meithrin newydd (7 lleoliad yn Abertawe ar hyn o bryd) yn nalgylchoedd ysgolion YGG Lon Las, YGG Y Login Fach ac YGG Tan-y-lan ac archwilio cyfleoedd i ddatblygu opsiynau gofal plant cofleidiol cyfrwng Cymraeg i gefnogi rhieni. Bydd hyn yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, i gynnwys pob plentyn 2 oed, fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithrediad.
  3. Gweithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin a phartneriaid eraill i gychwyn 5 Cylch Ti a Fi newydd (9 yn Abertawe ar hyn o bryd) i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio Cymraeg cynnar i rieni a'u plant.
  4. Datblygu strategaeth Cymraeg ar draws ein holl leoliadau Dechrau'n Deg i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o leoliadau Cymraeg (1 at hyn o bryd).
  5. Cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar Cymraeg fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn ardal ein hawdurdod lleol.
  6. Fel rhan o strategaeth farchnata glir ar fuddion bod yn ddwyieithog / amlieithog, creu llwyfan digidol priodol i ddarparu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel i rieni a gofalwyr. Bydd hyn ar y cyd â sefydliadau partner ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg a darpariaeth leol i hyrwyddio ymwybyddiaeth, ysgogi diddordeb a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus.
  7. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun byddwn yn cynnal adolygiad llawn o broses derbyniadau'r cyngor i sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn gwbl ymwybodol o'r cynnig Cymraeg ar bob cam o'r broses a bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
  8. Archwilio cyfleoedd gyda chydweithwyr Iechyd i gasglu gwybodaeth gan rieni wrth gofrestru genedigaeth eu plentyn er mwyn sefydlu ffordd fwy uniongyrchol o gyfathrebu â theuluoedd am ein cynnig Cymraeg a manteision bod yn ddwyieithog / amlieithog.
  9. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun byddwn yn comisiynu ymchwil mewn meysydd lle mae'r defnydd o Gymraeg yn isel a / neu o fewn grwpiau / cymunedau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol (gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) i ddeall y rhesymau dros hyn a datblygu cynllun gweithredu clir i wella'r wybodaeth sydd ar gael a'i hyrwyddo i'r grwpiau a'r ardaloedd hyn.
  10. Comisiynu ymchwil gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol ar amrywiol ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o fanteision bod yn ddwyieithog ac o addysg cyfrwng Cymraeg.
  11. Cefnogi ysgolion, Mudiad Meithrin a Choleg Gŵyr Abertawe gyda datblygu, hyrwyddo a darparu cymwysterau gofal plant i gynyddu nifer y staff sydd ar gael i weithio yn y nifer cynyddol o leoliadau.
  12. Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a hywryddo cynnig hyfforddiant pwrpasol i staff ar draws pob lleoliad gofal plant yn Abertawe i ganiatáu i bob lleoliad gynyddu eu cynnig Cymraeg.
  13. Datblygu meincnod Abertawe i nodi a hyrwyddo'r cynnig Cymraeg ar draws pob lleoliad gofal plant ac annog a hyrwyddo Cynnig Gweithredol ar draws yr holl ddarparwyr cyn-ysgol a gofal plant.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Cynyddu nifer y lleoedd addysg feithrin cyfrwng Cymraeg sy'n cyd-fynd â'r ddarpariaeth gynradd er mwyn sicrhau bod gennym allu a dosbarthiad priodol o leoedd ledled y ddinas a'r sir. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd i agor o leiaf 3 math o fynediad (yn amodol ar gyllid cyfalaf a phrosesau ymgynghori statudol). Byddai unrhyw adeiladau newydd yn ystyried lleoliad Mudiad Meithrin cefnogol.
  2. Gweithio gydag ysgolion a Mudiad Meithrin i nodi dalgylchoedd ysgolion a fyddai'n elwa a gael lleoliad ychwanegol a cheisio cyflawni hyn.
  3. Datblygu opsiynau gofal plant cofleidiol cyfrwng Cymraeg i gefnogi rhieni i gael mynediad at y cynnig 30 awr ar y cyd â'n partneriaid gan gynnwys Mudiad Meithrin trwy:
    • Archwilio dichonoldeb i gynnwys gofod a chyfleusterau ar gyfer darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg (fel darpariaeth Cylch Meithrin) i'w cynnwys ym mhob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd fel sydd wedi digwydd yn YGG Tirdeunaw ac YGG Tan-y-lan.
    • Archwilio cyfleoedd i gynnwys gofod a chyfleusterau ar gyfer darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg (fel darpariaeth Cylch Meithrin) i'w cynnwys mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol gan ddefnyddio grantiau cyfalaf Cymru.
  4. Sicrhau fod cydweithwyr iechyd a gwasanaethau cyffredinol eraill yn ymwybodol o'r CSCA ac wrthi'n hyrwyddo negeseuon cyson ynghylch buddion bod yn ddwyieithog / amlieithog ac yn gallu chwalu chwedlau a phryderon i gefnogi penderfyniadau rhieni ynghlych addysg eu plentyn.
  5. Adolygu'r sefyllfa drafnidiaeth gyfredol ar gyfer disgyblion meithrin ac, yn amodol ar unrhyw newidiadau ym Mesur Trafnidiaeth Cymru, adolygu'r hyn y gellir ei wneud i hyrwyddo ymhellach fynediad at y cynnig cyfrwng Cymraeg. Ystyrir hyn ochr yn ochr ag agenda Newid Hinsawdd Abertawe.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyrfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Mudiad Meithrin a'r Cylchoedd Meithrin
  • Ysgolion Abertawe
  • Menter Iaith Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Profysgol Bae Abertawe
  • Tîm Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Darparwyr gofal plant preifat
  • Pob Lleoliad Dechrau'n Deg
  • Partneriaeth
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu