Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032

CSCA - Amcan 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Amcan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn defnyddio canfyddiadau ein hadolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i wella darpariaeth iaith Gymraeg ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn y sector anghenion dysgu ychwanegol.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Yn Abertawe, mae lefel gyfredol y galw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (ALP) drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel. Fodd bynnag, mae patrwm symud o cyfrwng Cymraeg i cyfrwng Saesneg trwy ddewis rhieni wedi'i nodi yn y sector cynradd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n dod i'r amlwg.

Mae un Cyfleuster Addysgu Arbenigol Cymraeg (STF) yn Ysgol Gyfun Gŵyr ar gyfer Oedi Dysgu Cyffredinol a sylfaen adnoddau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe sy'n darparu cefnogaeth allgymorth ar gyfer ystod o anghenion.

Mae'r sefyllfa bresennol sy'n ymwneud â darparu addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn Abertawe fel a ganlyn:

Mae nifer yr achosion o ADY yn y sector cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn is nag ar gyfer ysgolion Abertawe yn gyffredinol:
Ebrill 2021Pob ysgol% poblogaeth disgyblionYsgolion cyfrwng Cymraeg% poblogaeth disgyblion
Gweithredu gan yr Ysgol a mwy26037.202454.69
 Datganiad16174.47641.22

Trwy gydol oes y Cynllun byddwn yn:

  • Parhau i adolygu lefel y galw a'r ALP sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn flynyddol.
  • Parhau i adeiladu capasiti yn ein hysgolion prif ffrwd, yn unol â gweledigaeth gynhwysol Deddf ALNET.
  • Datblygu gwybodaeth ein hysgolion wrth nodi ADY a darparu ALP ar lefel leol, yn yr iaith o'u dewis.
  • Defnyddio dyletswyddau strategol ehangach gan gynnwys y rhai o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 os nad yw'r argaeledd ar gyfer ALP yn y Gymraeg yn ddigonol.

Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Creu gweithgor ADY cyfrwng Cymraeg i ganolbwyntio ar yr amcan hwn. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar draws y sector.
  2. Arwain gwaith clwstwr parhaus, cyngor a chefnogaeth gan staff arbenigol sy'n siarad Cymraeg a chysylltiadau ag adnoddau dwyieithog rhanbarthol/cenedlaethol i gefnogi ysgolion i nodi ADY a darparu ALP.
  3. Cyfuno adnoddau a sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol er mwyn sicrhau y gellir cyrchu ALP cyfrwng Cymraeg, yn enwedig lle mae nifer y dysgwyr sydd angen y ddarpariaeth hon yn isel iawn.
  4. Cynnal dadansoddiad manwl o'r achosion sy'n dylanwadu ar symudiadau o'r cyfrwng Cymraeg i'r cyfrwng Saesneg yn y sector cynradd (yn ystod 18 mis cyntaf y Cynllun).
  5. Sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei hadolygu fel rhan o adolygiad ehangach o ddarpariaeth arbenigol yn Abertawe.
  6. Parhau i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, e.e. Ysgolion cyfeillgar ASD.
  7. Nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu staff arbenigol sy'n siarad Cymraeg drwy adolygu sgiliau iaith y gweithlu ADY presennol a chynnig cyfleoedd hyfforddi.
  8. Archwilio cyfleoedd i gefnogi Mudiad Meithrin a darparwyr gofal plant eraill nad ydynt yn cael eu cynnal.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Parhau i gynnig darpariaeth arbenigol i ddysgwyr yn yr iaith o'u dewis, yn unol â Deddf ALNET.
  2. Datblygu model ymyrraeth gynnar iawn, gan gynorthwyo dysgwyr i aros mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle bo hynny'n briodol.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Partneriaeth
  • Ysgolion Abertawe
  • Gwasanaethau'r GIG
  • Gwasanaethau Ehangach y Cyngor

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu