Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032
CSCA - Amcan 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Mwy o blant dosbarth derbyn/plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Dangosir nifer y plant dosbarth derbyn/plant pump oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf yn y tabl isod.
Dosbath Derbyn | Ionawr 2017 | Ionawr 2018 | Ionawr 2019 | Ionawr 2020 | Ebrill 2021 | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Abertawe | 438 | 15.6% | 412 | 15.8% | 397 | 15.7% | 400 | 15.5% | 379 | 15.4% |
At ddibenion cymharu mae'r niferoedd dros yr un cyfnod yn ein dosbarthiadau Derbyn cyfrwng Saesneg fel a ganlyn:
Dosbath Derbyn | Ionawr 2017 | Ionawr 2018 | Ionawr 2019 | Ionawr 2020 | Ebrill 2021 | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Abertawe | 2358 | 84.4% | 2188 | 84.2% | 2126 | 84.3% | 2165 | 84.5% | 2092 | 84.6% |
Ar y dudalen nesaf rydym yn edrych ar y sefyllfa bresennol ar draws ein holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd pellach sy'n gysylltiedig â'n hysgolion presennol.
Ar hyn o bryd mae gennym 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar draws Abertawe gyda lefelau amrywiol o gapasiti dros ben. Yn ogystal â gwelliannau sy'n gysylltiedig â'n hysgolion presennol (a amlygir isod) byddwn yn archwilio cyfleoedd i agor o leiaf 3 math newydd o fynediad yn ystod oes y Cynllun (yn amodol at gyllid cyfalaf a phrosesau ymgynghori statudol).
Capasiti Cyfredol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Ysgol | Ionawr 2021 Nifer Plant Llawn Amser | Capasiti Cyfredol | Gwahaniaeth Cyfredol | % gwarged Cyfredol | Camau pellach arfaethedig (Yn amodol ar gymeradwyo'r buddsoddiad angenrheidiol) |
Bryniago | 184 | 222 | 38 | 17.1% | Ystyried sgôp ar gyfer darpariaeth feithrin / cofleidiol i hybu niferoedd derbyn. Adolygu'r galw am leoedd a safleoedd amgen yng ngoleuni datblygiadau Safle Strategol y CDLl a newidiadau mewn darpariaeth trawsffiniol. |
Bryn-y-mor | 224 | 260 | 36 | 13.8% | Ystyried sgôp ar gyfer gwella cyfleusterau ymhellach a chynyddu capasiti ar y safle ar gyfer disgyblion / cael gwared ar lety is-safonol yn ogystal â safleoedd amgen posibl. |
Gellionen | 218 | 305 | 87 | 28.5% | Dylai fod lle i gynyddu niferoedd yn yr ysgol. |
Llwynderw | 303 | 320 | 17 | 5.3% | Adeilad newydd sy'n briodol i'r galw presennol. |
Lon Las | 437 | 530 | 93 | 17.5% | Adeilad newydd (2.5 AB) yn briodol ar gyfer y galw presennol. |
Pontybrenin | 505 | 501 | -4 | -0.8% | Darperir ystafelloedd dosbarth ychwanegol wrth adolygu'r galw am leoedd a chyfleoedd ar gyfer adeiladu newydd / safle gwell yng ngoleuni datblygiadau Safle Strategol y CDLl. Adolygu effaith newidiadau dalgylch. |
Tan Y Lan | 161 | 420 | 259 | 61.7% | Adolygu effaith adeiladau newydd a newidiadau mewn dalgylchoedd mewn niferoedd derbyn. |
Tirdeunaw | 342 | 525 | 183 | 34.9% | Adolygu effaith adeiladau newydd a newidiadau mewn dalgylchoedd mewn niferoedd derbyn. |
Y Cwm | 137 | 197 | 60 | 30.5% | Ystyried y posibilrywdd o wneud y defnydd gorau o'r safle yn y dyfodol yng ngoleuni'r galw am leoedd. |
Y Login Fach | 208 | 214 | 6 | 2.8% | Adolygu'r galw am leoedd yn y dyfodol yng ngoleuni safle strategol y CDLl - potensial ar gyfer safle newydd mwy. Ystyried lle i wella cyfleusterau ymhellach a chynyddu capasiti ar y safle ar gyfer disgyblion. |
Strategaeth Cyffredinol | Adolyguad pellach o ddalgylchoedd i adlewyrchu newidiadau mewn capasiti / trefniadaeth ysgolion / effeithiau CDLl. Mynediad i adnoddau angenrheidiol a buddsoddiad cyfalaf i gyflawni strategaeth y tu hwnt i Fand B a darparu 2 / 3 dosbarth mynediad pellach. | ||||
Cyfanswm Cynradd | 2,719 | 3,494 | 775 | 22.2% |
Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...
Mae Amcan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i no osod targed sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant derbyn sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hardal yn ystod oes y Cynllun.
Rhaid i ni hefyd nodi sut y byddwn yn cyflawni'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg, sut y bydd ceisiadau a wnawn am arian grant gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'n hysgolion a gynhelir yn ystyried y targed i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a'n trefniadau o ran a ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y darperir gwybodaeth i rieni a gofalwyr.
Mae Cyngor Abertawe wedi cynyddu nifer y lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg o 1,912 o leoedd ym mis Medi 2004 i'r cyfanswm cyfredol o 3,494 o leoedd, cynnydd o 1,582 neu 82.7%. Mae hyn yn adlewyrchu'r buddsoddiad cyfalaf sylweddol parhaus mewn llety a chyfleusterau cyfrwng Cymraeg ac yn dod i gyfanswm o £36.9m hyd yma ym Mand B y Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif yn unig.
Mae ein targedau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fel y nodir yn y tabl isod:
2022-2023 | 2023-2024 | 2024-2025 | 2025-2026 | 2026-2027 | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
369 | 16.9 | 375-380 | 17.7-17.9 | 385-392 | 17.7-18.0 | 395-408 | 18.3-18.9 | 407-425 | 18.9-19.7 |
2027-2028 | 2028-2029 | 2029-2030 | 2030-2031 | 2031-2032 | |||||
421-445 | 19.5-20.6 | 437-469 | 20.1-21.6 | 457-497 | 20.9-22.8 | 481-525 | 21.9-23.9 | 507-595 | 23%-27% |
Mae'r targedau hyn yn adlewyrchu amcanestyniadau presennol disgyblion yn Abertawe ac fe'u hadolygir yn flynyddol.
Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a chynyddu canran y plant oed Derbyn sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o gymryd lleoedd addysg feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg o 15.4% i rhwng 23-27% o'r garfan gymwys erbyn diwedd y 10 mlynedd cynllun, yn y 5 mlynedd gynraf byddwn yn:
- Ceisio cynnal capasiti ledled y ddinas yn y sector cyfrwng Cymraeg cynradd ar 10% yn ychwanegol at y cymeriant a ragwelir i gefnogi twf a chaniatáu ar gyfer derbyniadau yn flwyddyn a hyblygrwydd ar gyfer trosglwyddio.
- Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun bydd adolygiadau ardal manwl ar draws y ddinas a'r sir i flaenoriaethu rhaglenni cyfalaf yn y dyfodol (ar ôl Band B y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu). Bydd yr adolygiadau hyn yn llywio lleoliad capasiti cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd (gyda meithrinfeydd) a byddant yn rhan o'n strategaeth gyfalaf a'n Cynllun Datblygu Lleol yn ogystal â chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd gwag sydd ar gael mewn rhai ardaloedd.
- Bydd unrhyw ddarpariaeth newydd yn amodol ar gymeradwyaeth wleidyddol ar gyfer y broses ymgynghori statudol a Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfalaf yn y dyfodol.
- Annog 100% o blant sy'n mynychu Cylch Meithrin i drosglwyddo i feithrinfa cyfrwng Cymraeg trwy greu partneriaethau ffurfiol sy'n cynnwys ysgolion unigol, Mudiad Meithrin a Chyngor Abertawe.
- Ym Mlwyddyn 1 byddwn yn cwblhau'r adolygiad o'n darpariaeth drochi sylfaenol gyfredol ac yn gosod cynllun gweithredu clir i wella'r cynnig i gefnogi caffael iaith dwys a dal i fyny. Rydym wedi llwyddo i gael grant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith cychwynnol hwn.
- Hyrwyddo'r ddarpariaeth drochi cyfrwng Cymraeg gynradd i bob ymholiad trosglwyddo newydd yn ystod y flwyddyn i'w derbyn i ysgolion Abertawe.
- Archwilio a datblygu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth hwyrddyfodiaid uwchradd i gefnogi dysgwyr sydd am drosglwyddo yn nes ymlaen yn eu taith addysg a hefyd i gefnogi disgyblion cyfredol yn ein hysgolion sydd mewn perygl o adael addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym wedi llwyddo i gael grant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith hwn.
- Hyrwyddo buddion dwyieithrwydd yn weithredol i deuluoedd sy'n ceisio lle addysg yn Abertawe gan ein gwasanaeth derbyniadau ac yn ein llenyddiaeth canllawiau derbyn.
- Comisiynu ymchwil mewn meysydd lle mae'r rhai sy'n cymryd addysg cyfrwng Cymraeg yn isel a / neu o fewn grwpiau / cymunedau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol (gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) i ddeall y rhesymau dros hyn a datblygu cynllun gweithredu clir i wella'r gwybodaeth sydd ar gael a hyrwyddo'r hyn sydd ar gael i'r grwpiau a'r ardaloedd hyn.
- Gwella ystod a hyrwyddiad gweithgareddau allgyrsiol a chyfleoedd cymdeithasol eraill o fewn a thu allan i'r ysgol ar y cyd â'n partneriaid gan gynnwys Menter Iaith Abertawe, yr Urdd, ein hysgolion, busnesau lleol a gwirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg.
- Fel rhan o'n strategaeth farchnata glir ar fuddion bod yn ddwyieithog / amlieithog, cynyddu'r llenyddiaeth a'r arweiniad sydd ar gael i gefnogu teuluoedd sy'n gwneud perderfyniadau ynghylch addysg eu plentyn gydag ystod o astudiaethau achos gwell i ddangos amrywiaeth ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a buddion i ddysgu Cymraeg waeth beth yw iaith eich cartref.
Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:
- Darparu'r capasiti pellach sydd ei angen i gyflawni cyfanswm o 3 math o fynediad i ysgolion cynradd o leiaf (yn amodol ar gyllid cyfalaf a phrosesau ymgynghori statudol) ar draws oes y cynllun.
- Creu'r cyfleoedd i bartneriaethau traws-ysgol wella ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ac annog plant i fod â mwy o awydd i ddysgu ac o bosibl ystyried trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg.
- Cefnogi bob ysgol i ddatblygu a gweithredu Cwricwlwm i Gymru 2022 i sicrhau twf yn y cyfleoedd i bob plentyn yn y ddinas a'r sir ddysgu Cymraeg a theimlo'n hyderus wrth ddatblygu eu sgiliau a siarad yr iaith. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu a gweithredu un continwwm o ddysgu Cymraeg gan Lywodraeth Cymru.
- Uwch-sgilio'r cymhwysedd ieithyddol y gweithlu addysg a dysgu cyfrwng Saesneg cyfredol i sicrhau eu bod yn teimlo'n hyderus i gefnogi gwell dysgu'r Gymraeg gyda'r holl ddisgyblion fel rhan o'r cynnig Cwricwlwm i Gymru newydd.
Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:
- Cyngor Abertawe
- Mudiad Meithrin a'r Cylchoedd Meithrin
- Ysgolion Abertawe
- Menter Iaith Abertawe
- bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Tîm Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Darparwyr gofal plant preifat
- Pob Lleoliad Dechrau'n Deg