Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032
CSCA - Amcan 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall.
Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall. Yn Abertawe mae gennym hanes da iawn o gadw disgyblion wrth iddynt drosglwyddo o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3.
Dros y tair blynedd diwethaf mae hyn wedi gweld 99.7%, 98.7% a 97.5% yn y drefn honno yn trosgwlyddo o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.
Rhifau Trosglwyddo Cyfrwng Cymraeg
Ymadawyr Blwyddyn 6 yn... | Derbyniad Blwyddyn 7 yn... | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Sefydliad | Ysgol | 2018 | 2019 | 2020 | 2018 | 2019 | 2020 |
2189 | YGG Bryniago | 19 | 34 | 24 | |||
2098 | YGG Bryn Y Mor | 31 | 33 | 44 | |||
2133 | YGG Felindre | 0 | 6 | 0 | |||
2232 | YGG Gellionnen | 29 | 28 | 43 | |||
2235 | YGG Llwynderw | 40 | 42 | 43 | |||
2036 | YGG Lonlas | 77 | 68 | 51 | |||
2212 | YGG Pontybrenin | 49 | 70 | 53 | |||
2242 | YGG Tan-y-lan | 7 | 14 | 19 | |||
2231 | YGG Tirdeunaw | 53 | 61 | 56 | |||
2229 | YGG Y Login Fach | 30 | 30 | 30 | |||
2245 | YG Y Cwm | 0 | 2 | 3 | |||
4078 | Ysgol Gyfun Bryn Tawe | 164 | 169 | 164 | |||
4074 | Ysgol Gyfun Gŵyr | 170 | 214 | 193 | |||
Cyfansymiau | 335 | 388 | 366 | 334 | 383 | 357 | |
Canran Cadw | 99.7% | 98.7% | 97.5% |
Ar y dudalen nesaf rydym yn edrych ar y sefyllfa bresennol ar draws ein holl ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd pellach sy'n gysylltiedig â'n hysgolion presennol.
Ar hyn o bryd mae gennym 2 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyda phrosiectau cyfalaf wedi'u cynllunio neu'n digwydd ar hyn o bryd yn y ddau safle. Byddai hyn yn cynyddu'r capasiti i sicrhau bod y ddwy ysgol yn cael eu diogelu yn y dyfodol yn y tymor byr i ganolig. Wrth i ni ddechrau cyrraedd ein targedau ar gyfar cynyddu nifer y disgyblion sy'n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg, bydd angen i ni ystyried y posibilrywdd o gynyddu ein capasiti ymhellach i wasanaethu'r dysgwyr ychwanegol.
Capasiti Cyfredol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Ysgol | Ionawr 2021 Nifer Plant Llawn Amser | Capasiti Cyfredol | Gwahaniaeth Cyfredol | % Gwarged Cyfredol | Camau pellach arfaethedig (Yn amodol ar gymeradwyo'r buddsoddiad angenrheidiol) |
Bryn Tawe | 882 | 1,243 | 361 | 29.0% | Adolygu'r galw am leoedd a chyfleoedd yng ngoleuni datblygiadau / cyfraniadau Safle Strategol y CDLl. Sicrhau bod y llety presennol yn briodol ar gyfer y niferoedd a gynllunnir a bod unrhyw gyfle yn cael ei nodi i wella capasiti ymhellach yn y dyfodol (cyflwynwyd achos busnes Band B). Adolygu ymhellach y cysylltiadau partner cynradd presennol i gyfateb yn well y galw am leoedd a chapasiti ysgol yn oystal ag optimeiddio costau cludiant o'r cartref i'r ysgol. |
Gŵyr | 1,102 | 1,069 | -33 | -3.1% | Ystyried ynrhyw sgôp pellach ar gyfer gwella cyfleusterau ar y safle i ddisgyblion (cynllun Band B bron wedi ei gwblhau). Ystyried adolygiad pellach o'r ysgolion cynradd partner sy'n bwydo ar hyn o bryd er mwyn ail-gydbwyso'r galw a'r capasiti ymhellahch. |
Strategaeth Cyffredinol | Adolygiad pellach o ddalgylchoedd i adlewyrchu newdiadau mewn capasiti / trefniadaeth ysgolion / effeithiau CDLl. Mynediad i adnoddau angenrheidiol a buddsoddiad cyfalaf i gyflawni strategaeth y tu hwnt i Fand B a modelau ar gyfer trefniadaeth ysgolion uwchradd yn y dyfodol. | ||||
Cyfanswm Uwchradd | 1,984 | 2,312 | 328 | 14.2% | |
Cyfanswm Ysgolion Cymraeg | 4,703 | 5,806 | 1,103 | 19.0% |
Bydd y gwaith cyfredol sy'n digwydd ar safle Ysgol Gyfun Gŵyr yn gweld y capasiti yn cynyddu i 1273.
Dilyniant ieithyddol rhwng grwpiau blwyddyn
Mae'r data isod yn dangos y ganran a aseswyd yn y Gymraeg (Iaith Gyntaf) bob blwyddyn, ac eithrio 2020 a 2021 lle rydym wedi defnyddio data PLASC gan na chasglwyd asesiadau diwedd cyfnod allweddol.
Blwyddyn | CS | CA2 | CA3 | CA4 |
---|---|---|---|---|
2021 | 15.0% | 14.7% | 12.4% | 12.1% |
2020 | 14.4% | 13.6% | 13.1% | 10.8% |
2019 | 15.6% | 13.8% | 12.1% | 11.8% |
2018 | 14.7% | 12.7% | 11.0% | 10.7% |
2017 | 15.7% | 13.5% | 11.5% | 9.7% |
2016 | 15.3% | 12.4% | 10.7% | 10.4% |
2015 | 14.6% | 11.2% | 9.7% | 9.3% |
Mae'r ganran cyfrwng Cymraeg yn dangos tuedd ar i fyny ym mhob cyfnod allweddol dros y 7 mlynedd diwethaf.
Wrth olrhain carfannau, mae'r canrannau'n tueddu i fod yn debyg, gyda gostyngiad bach o'r cyfrwng Cymraeg (fel y gwelir yn y data cenedlaethol). Er enghraifft, roedd CS yn 2015 yn 14.6% ac yna roedd y grŵp eleni yn 13.8% yn 2019 pan ar ddiwedd CA2. Yna mae yna gwymp back arall o CA2 i CA3, ond o CA3 i CA4 nid oes fawr ddim wedi gadael ar gyfer pob grŵp blwyddyn.
Gan ein bod wedi ychwanegu mwy o gapasiti mewn ysgolion cynradd, mae'n cymryd amser i'r niferoedd cynyddol weithio drwodd i gyfnodau allweddol diweddarach, a gellir gweld hyn yn y data.
Mae angen gweld ffigurau mwy diweddar ar gyfer mynediad i ysgolion cynradd yng nghyd-destun y cyfraddau genedigaeth isel iawn ar hyn o bryd.
Mae peth tystiolaeth y gallai'r pandemig fod wedi arwain at gynnydd bach yn y cyfraddau gadael o addysg cyfrwng Cymraeg. Mae angen ymchwil pellach i hyn pan fydd mwy o ddata ar gael yn genedlaethol.
Mae'r sefyllfa sy'n ymwneud â phlant sy'n trosglwyddo o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf fel a ganlyn:
2018-2019 | 2019-2020 | 2020-2021 | ||||
---|---|---|---|---|---|---|
Wedi symud allan o Abertawe | 33 | 20.9% | 23 | 20.4% | 33 | 18.1% |
Wedi trosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg arall yn Abertawe | 17 | 10.8% | 8 | 7.1% | 10 | 5.5% |
Wedi trosglwyddo i ysgol cyfrwng Saesneg yn Abertawe | 45 | 28.5% | 32 | 28.3% | 74 | 40.7% |
Arall | 63 | 39.9% | 50 | 44.2% | 65 | 35.7% |
Cyfansymiau | 158 | 100.0% | 113 | 100.0% | 182 | 100.0% |
Byddwn yn parhau i fonitor'r data uchod yn y blynyddoedd i ddod i asesu a yw'r cynnydd yn y rhai sy'n symud o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg i'r ysgolion cyfrwng Saesneg yn ddigwyddiad ynysig sy'n deilio o heriau'r pandemig neu batrwm cylchol.
Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...
Mae Amcan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn sicrhau parhad unigolion a addysgir yn Gymraeg wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i'r llall a chynllunio yn unol â hynny os yw cyfraddau cadw yn destun pryder.
Rhaid i ni hefyd osod targed sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y Cynllun yn y swm o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ein hysgolion a gynhelir sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan egluro sut y byddwn yn cyflawni'r cynnydd disgwyliedig o ran faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ein hysgolion a gynhelir sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg a sut y byddwn yn gweithio ar y cyd ad awdurdodau lleol eraill trwy arfer ein swyddogaethau ar y cyd i sicrhau parhad yn y trefniadau ar gyfer pobl sy'n cyrchu addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i'n hardal.
Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a chynyddu nifer y plant sy'n parhau i wella'u sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall, yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:
- Archwilio, datblygu a darparu darpariaeth / capasiti cyfrwng Cymraeg uwchradd ychwanegol i sicrhau trosglwyddiad di-dor o niferoedd cynyddol yn y sector cynradd yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys trafodaehau gyda'n hawdurdodau lleol cyfagos.
- Sicrhau bod 100% o blant (a'u teuluoedd) sy'n mynychu cyfnod pontio ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg i leoliad uwchradd cyfrwng Cymraeg trwy weithio gyda'n holl ysgolion ar bontio fel rhan o'n strategaeth farchnata ehangach.
- Gweithio gyda Mudiad Meithrin i sicrhau bod 100% o blant (a'u teuluoedd) sy'n mynychu eu lleoliadau yn trosglwyddo i'n hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac yn ymwybodol o'r llwybr dilyniant cyfrwng Cymraeg llawn.
- Ceisio sicrhau cyllid i ehangu'r ddarpariaeth drochi cynradd i gefnogi dal i fyny caffael iaith dwys yn ôl yr angen i wella hyder dysgwyr a rhoi mwy o sicrwydd i rieni sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg y bydd eu plentyn yn cael cyfle i gael cymorth os bydd angen. Bydd hyn yn adeiladu ar waith a wnaed mewn peilot yn 2022 a ariannwyd gan Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun peilot hwn yn parhau i flwyddyn academaidd 2022/23 i ddarparu blwyddyn academaidd lawn o ddata ansoddol. Wrth i'r cynllun peilot fynd rhagddo, byddwn yn ceisio cael gafael ar gyllid pellach i ddatblygu strategaeth farchnata gref a chael mynediad at hyfforddiant pellach i staff ar draws ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.
- Byddwn hefyd, yn ceisio defnyddio'r cyllid i dreialu darpariaeth drochi uwchradd i ddarparu adnodd i'r rheini sy'n dymuno trosglwyddo o ysgolion cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg wrth drosglwyddo i'r uwchradd.
- Gweithio gyda'r holl ysgolion a phartneriaid ehangach i gynorthwyo pob dysgwyr i ddod yn amlieithog, i'w galluogi i ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol, a datblygu natur agored a chwilfrydedd am bob iaith a diwylliant yn y byd.
- Datblygu a darparu templed Cynllun Iaith ar gyfer pob ysgol i gefnogi dilyniannau ieithyddol pob plentyn yn y Gymraeg ac ieithoedd eraill ar draws ein holl ysgolion. Defnyddio Cynghorwyr Gwella Ysgolion i gefnogi ysgolion i lunio cynlluniau iaith cadarn ar gyfer gwella'r Gymraeg gyda ffocws clir ar argymhellion Estyn ysgolion unigol a'r siwnai ieithyddol a nodir yn y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn ystyried sefydlu a gweithredu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg gan Lywodraeth Cymru.
- Gweithio mewn partneriaeth agos ag ysgolion i wella'r wybodaeth sydd ar gael fel safonol ar wefannau ysgolion unigol i esbonio'r gwerth a roddir ar ddatblygu sgiliau ieithyddol Cymraeg, y buddion o fod yn ddwyieithog a gwybodaeth gyfoes ynghylch sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi yn eu dysgu.
- Cynyddu cyfeiriadau at gyfleoedd dysgu a chymdeithasu y tu allan i'r ysgol i normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i amgylchedd dysgu ffurfiol yr ysgol.
- Nodi a darparu cefnogaeth â ffocws i ysgolion lle gallai cyfraddau trosglwyddo fod yn destun pryder a chyhoeddi adnoddau i gynyddu hyder disgyblion, ynghyd â chefnogi a rhoi sicrwydd i rieni / gofalwyr ynghylch trosglwyddo rhwng cyfnodau i annog cadw. Yn ogystal, byddwn yn monitro ceisiadau am drosglwyddo o ysgolion cyfrwng Cymraeg i'r sector cyfrwng Saesneg yn y ddinas a'r sir ac yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu cefnogaeth a sicrwydd gyda'r bwriad o ailystyriaeth ar gyfer aros.
- Gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth i ddarparu cyngor, dysgu proffesiynol ac adnoddau i ysgolion cyfrwng Saesneg i gynyddu canran y cwricwlwm a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu faint o ddarpariaeth ddysgu a gynigir a chyfleoedd gwell ar gyfer defnyddio'r Gymraeg.
- Cefnogi cydweithredu rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd i gynhyrchu adnoddau sy'n hyrwyddo dilyniant ieithyddol i rieni / gofalwyr ac sy'n rhoi sicrywdd i gefnogi cadw.
- Sicrhau fod y siwrnai addysgol gyfan o'r meithrin i ôl-16 yn glir i deuluoedd er mwyn datblygu hyder pellach wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg gan gynnwys tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i'w plentyn ddatblygu a magu hyder wrth defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
- Dathlu a rhannu arfer da ar draws Abertawe a'r Bartneriaeth ehangach.
Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:
- Mynd ymlaen â chynlluniau strategol i gynyddu gallu parhaol darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg.
- Cynyddu capasiti darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg gan gynnwys ceisio sefydlu capasiti dinas a sir ledled y sector cyfrwng Cymraeg ar 10% yn ychwanegol at y cymeriant a ragwelir.
- Gweithio gyda Partneriaeth i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau i ysgolion, gan gynnwys:
- Darparu cefnogaeth unigol a chlwstwr i wella safonau addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sector cynradd,
- Darparu dysgu a chefnogaeth broffesiynol i wella safonau addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd. Gweithio gydag arweinwyr ysgolion a'r system ehangach i ddyfnhau dealltwriaeth o addysgeg iaith effeithiol,
- Rhannu arfer da a datblygu adnoddau newydd i gefnogi dysgu ac addysgu'r Gymraeg.
- Yn Abertawe rydym yn dyheu am o leiaf un aelod o staff o bob dosbarth Blynyddoedd Cynnar / Cyfnod Sylfaen ysgolion cynradd cyfrwng Seasneg i fynychu'r cwrs sabothol cenedlaethol. Byddwn yn ceisio cyllid a chyfleoedd ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i genfogi'r dyhead hwn.
Mae'r prof bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:
- Cyngor Abertawe
- Partneriaeth
- Ysgolion Abertawe
- Menter Iaith Abertawe
- Coleg Gŵyr Abertawe
- RhAG
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Urdd Gobaith Cymru
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Abertawe
- Cyngor y Gweithlu Addysg