Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032

CSCA - Ein targed deng mlynedd

Ein targed deng mlynedd yn amlinellu'r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i ni osod targed deng mlynedd yn amlinellu'r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal Abertawe yn ystod oes y Cynllun. Dyma'r targed deng mlynedd cyffredinol ar gyfer CSCA 2022 - 2032.

Bydd nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio ym mhob grŵp blwyddyn, felly mae'r targed yn seiliedig ar nifer y dysgwyr Blwyddyn 1 ( plant 5 a 6 oed), sy'n cynrychioli dechrau addysg statudol. Mae data PLASC ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 1 yn cynrychioli'r set ddata fwyaf cynhwysfawr sydd as gael i ddysgwyr ar gamau cynharaf addysg ysgol gynradd.

Yn ogystal, mae awdurdodau lleol wedi'u grwpio i wahanol gategorïau sy'n adlewyrchu'r gwahaniaethau (ac yn cydnabod elfennau tebyg) rhwng y 22 awdurdod lleol. Roedd y ffactorau a ystyriwyd wrth grwpio yn cynnwys canran y dysgwyr a addysgwyd yn Gymraeg yn ein hardal; modelau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a fabwysiadwyd gennym ni a natur ieithyddol ein hardal. At y diben hwn mae Abertawe wedi'i gosod yng Ngrŵp 3.

Grŵp 3: Roedd rhwng 14% a 19% o blant Blwyddyn 1 yn yr awdurdodau lleol hyn yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2019/2020. Efallai mai addysg gymunedol cyfrwng Cymraeg yw'r norm mewn un/nifer fach iawn o feysydd, ond dyma'r eithriad nid y rheol. Fel arfer mae dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg.

Targed Abertawe
2019/2020Targed 2030/2031
  Ystod IsafYstod Uchaf
NiferCanranNiferCanranNiferCanran
39015.4%59023%69527%

Mae'r ystod isaf wedi'i gosod fel bod y targed cenedlaethol o 30% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2030/2031. Ni ddylid ystyried bod yr ystod uchaf yn derfyn uchaf - fe'n hanogir i ragori ar y targedau lle bo hynny'n bosibl.

Wrth i ni baratoi'r cynllun10 mlynedd hwn, nifer y plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng Gymraeg (Ionawr 2021) yw 388, sy'n cynrychioli 15.1% o garfan y flwyddyn honno yn Abertawe ac erbyn Ebrill 2021 yr oedd yn 383 - 14.9%.

Y rhif derbyn ar gyfer ein hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2021 yw 495. Mae hyn yn golygu bod lle ar hyn o bryd i 107 o blant ychwanegol gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngharfan Blwyddyn 1. Byddai hyn yn cynrychioli 19.2% o'r garfan gyfredol.

Mae'r Cyngor yn anelu at gynyddu nifer y disgyblion a'r teuluoedd sy'n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn sylweddol. Ar sail y cynnydd % targed a ragnodir gan Llywodraeth Cymru, a'n rhagolwg o'r boblogaeth disgyblion dros y 10 mlynedd nesaf, bydd angen i ni:

  • Bynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 200 a 400 o ddisgyblion (yn seiliedig ar ffigurau cyfredol y garfan). O ystyried lleoliad a chyfansoddiad ieithyddol ein hysgolion ar hyn o bryd, mae gennym y strategaethau cyflenwol canlynol i gyflawni'r cynnydd targed mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg:

→ Cynyddu'r cynnig cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg fel rhan o strategaeth farchnata ehangach i hyrwyddo buddion bod yn ddwyieithog. Bydd hyn yn cynnwys o leiaf yn Cylch Meithrin sy'n gysylltiedig â phob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu ardaloedd yn eu dalgylch ac edrych ar gyfleoedd i gynyddu'r cynnig Cymraeg Dechrau'n Deg yn ein lleoliadau presennol.
→ Llenwi'r tua 107 lle cyfrwng Cymraeg Blwyddyn 1 ychwanegol sydd eisoes ar gael yn ein hysgolion trwy hyrwyddo'n effeithiol fuddion darpariaeth ddwyieithog.
→ Sefydlu ysgol(ion) cyfrwng Cymraeg newydd/cynyddu capasiti mewn ardaloedd lle mae galw mawr a/neu nodi ardaloedd lle mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llai hygyrch ar hyn o bryd. Mewn achosion o'r fath, efallai y bydd angen cynnwys prosiectau mewn rhaglen gyfalaf yn y dyfodol.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu