Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032
CSCA - Deilliannau allweddol
Er mwyn cefnogi'r broses gynllunio, mae'n ofynnol i ni drefnu ein Cynllun o amgylch y deilliannau isod. Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu taith addysg dysgwr ac yn gyson â meysydd polisi Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol.
- Deilliant 1: Mwy o blant meithrin / plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall.
- Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.
- Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
- Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Blaen
:
CSCA - Ein targed deng mlynedd
Nesaf
:
CSCA - Amcan 1: Mwy o blant meithrin / plant 3 oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg