Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032
CSCA - Amcan 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol
Mae Amcan 5 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn gwella sgiliau iaith Gymraeg pobl sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhaliwn er mwyn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg.
Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...
Mae gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau yn lleol yn Abertawe a thu hwnt yn allweddol i lwyddiant ein strategaeth. Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg, sef Mudiad Meithrin, yr Urdd, Menter Iaith Abertawe, Rhagoriaith, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cymraeg i Blant. Byddwn yn gwella'r berthynas waith rhwng ein hysgolion a'n partneriaid i gyflawni'r deilliant hwn a sicrhau bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.
Yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:
- Cynnwys Siarter Iaith, a gweithgareddau Cymraeg eraill ym mhob Cynllun Datblygu Ysgol.
- Datblygu a lansio Gwobrau Shwmae blynyddol gyda'r nod o ddathlu cyfraniadau unigolion a grwpiau wrth hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg mewn ysgolion a chymunedau ynghyd â chyflawniadau dysgwyr Cymraeg.
- Cefnogi holl ysgolion Abertawe i gynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc gan ddefnyddio'r Siarter Iaith. Byddwn yn cefnogi pob ysgol i gael mynediad at y Siarter Iaith ac i ddangos gwelliant yn ystod oes ein cynllun.
- Cefnogi pob ysgol cyfrwng Cymraeg i gyrraedd, fel isafswm, gwobr Arian y Siarter Iaith.
- Cefnogi pob ysgol cyfrwng Saesneg i gyrraedd, fel isafswm, gwobr Efydd y Siarter Iaith.
- Gweithio gyda'n hysgolion (Cymraeg a Seasneg) i gwmpasu faint o amser sy'n cael ei neilltuo i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol.
- Defnyddio'r data o'n harchwiliad sgiliau ieithyddol gweithlu i nodi ysgolion cyfrwng Saesneg sydd â'r potensial a'r awydd i gryfhau'r amser cyswllt y mae eu dysgwyr yn ei dderbyn yn Gymraeg.
- Sefydlu banc o adnoddau ar-lein i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm newydd ynghyd ag adnoddau i gyflawni y Fframwaith Siarter Iaith.
- Sicrhau bod adnoddau ar gael i hyrwyddo gwerth a buddion dwyieithrwydd ymhellach er mwyn cryfhau cymhelliant disgyblion i ddod yn siaradwyr hyderus o'r ddwy iaith swyddogol yng Nghymru.
- Ymgymryd â mapio diweddar o'r ddarpariaeth y tu allan i'r ysgol ar y cyd â darparwyr eraill i nodi bylchau a thanategu trafodaethau sy'n ymwneud â chydweithio/partneriaethau newydd er mwyn cynyddu/ehangu'r ddarpariaeth i ateb y galw. Bydd hyn yn bwydo i mewn i'r Llwyfan Digidol, i roi map clir i'r cyhoedd o'r cynnig cyfredol ledled y ddinas a'r sir.
- Fel rhan o'n hymarfer, byddwn yn ystyried sut mae cyfleoedd a ddarperir drwy'r Fenter Iaith, yr Urdd, Partneriaeth ac ati yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd o'r Gymraeg ymhlith dysgwyr (o ran caffael, hyder ac ymwybyddiaeth).
- Ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu â ffocws (ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun) gyda phobl ifanc ynghylch pa gyfleoedd dysgu a chymdeithasu Cymraeg yr hoffent eu gweld fwyaf.
- Archwilio a chynyddu cwmpas ar gyfer cydweithredu o fewn yr awdurdod lleol rhwng y Gwasanaeth Ieuenctid a sefydliadau partner gan gynnwys Menter Iaith Abertawe a'r Urdd i uwchraddio'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ledled y ddinas a'r sir. Bydd hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd ar gyfer cael gafael ar gyllid priodol i sicrhau partneriaeth gynaliadwy gyda Menter Iaith Abertawe.
- Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun, ymgymryd ag ymchwil gyda phobl ifanc ac oedolion sydd wedi cyflawni rhuglder yn y Gymraeg yn flaenorol ond sydd wedi colli hyder i'w defnyddio er mwyn deall yn well a mynd i'r afael â'r her o gadw iaith y tu hwnt i addysg statudol.
- Archwilio cyfleoedd gyda'n partneriaid i ddatblygu darpariaeth gwyliau pellach i gynnal a gwella sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr. Gallai hyn gynnwys cyfleoedd trwy Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Llywodraeth Cymru.
- Fel rhan o Gynlluniau Iaith ysgolion, nodi a gweithredu ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
- Wrth i Abertawe ddatblygu ei Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2022-2027 nesaf byddwn yn archwilio cyfleoedd y tu hwnt i'n cymunedau ysgol i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd ddysgu a defnyddio'r Gymraeg ar draws cymunedau amrywiol Abertawe.
Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:
- Darparu cefnogaeth i ysgolion yn y defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion sydd â chyfleoedd dysgu proffesiynol Cymraeg, Llythrennedd a Chyfathrebu o ansawdd uchel gan gynnwys cefnogaeth bwrpasol ar gyfer ysgolion/clystyrau unigol a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu ysgol-i-ysgol a phartneriaethau cymheiriaid fel sy'n briodol.
- Gweithio gyda'r Bartneriaeth i ddarparu cefnogaeth ddynodedig i bob ysgol ar gyfer cynnydd gyda'r Siarter Iaith a Cymraeg Campus gan ganolbwyntio ar hyrwyddo, cefnogi, herio ac achredu holl ysgolion Abertawe i wneud cynnydd gyda Gwobrau Siarter Iaith a Cymraeg Campus.
- Cefnogi pob ysgol cyfrwng Cymraeg i gyrraedd gwobr Aur y Siarter Iaith.
- Cefnogi pob ysgol cyfrwng Saesneg i gyrraedd gwobr Arian y Siarter Iaith.
- Gwerthuso effaith y Siarter Iaith a Cymraeg Campus i gefnogi mireinio'r cynlluniau dros amser, yn enwedig ochr yn ochr â gweithredu'r cwricwlwm newydd.
Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:
- Cyngor Abertawe
- Partneriaeth
- Ysgolion Abertawe
- Menter Iaith Abertawe
- Urdd Gobaith Cymru
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Abertawe