Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032

CSCA - Amcan 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Amcan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi ein hymrwymiad i nodi'r gweithlu sydd ei angen arnom i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y Cynllun yn unol â thargedau'r Cynllun, a chyfrifo unrhyw ddiffyg a ragwelir yn ein gweithlu.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Rhaid i ni hefyd nodi ein hymrwymiad i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill trwy arfer ein swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cefnogaeth i wella sgiliau iaith Gymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu ysgolion mewn ysgolion a gynhelir yn ein hardal ac i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ein hardal.

Rydym wedi defnyddio'r data a gasglwyd am sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu yng Nghyfrifiad y Gweithlu Ysgolion i nodi bylchau sgiliau cyfredol a lle mae'r bylchau yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol. Bydd newidiadau yn faint o Gymraeg a addysgir yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg yn effeithio ar anghenion sgiliau staff a'r gefnogaeth ieithyddol sy'n ofynnol. Mae'r siart isod yn rhoi syniad o lefelau gallu.

Er bod hyfedredd sylfweddol yn y Gymraeg ymhlith gweithlu'r ysgol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd staff i gyd yn hyderus wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n ymddangos bod nifer y staff sy'n ofynnol yn y dyfodol i gyflawni'r dyhead cenedlaethol ar gyfer twf parhaus mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn dipyn o her.

Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion 2020: Gallu yn y Gymraeg
Pob ysgolCyfrif pennauCanran cyfrif pennau
LefelAthrawonCynorthwywyr AddysguCyfanswmAthrawonCynorthwywyr AddysguCyfanswm
Lefel Hyfedredd36421357718.2%8.9%13.2%
Lefel Uwch77371143.9%1.5%2.6%
Lefel Canolradd176582349.1%2.1%5.4%
Lefel Sylfaen41619260821.1%7.7%13.9%
Lefel Mynediad509750125926.0%31.3%28.9%
Dim sgiliau iaith4241139156321.5%48.3%35.9%
Nichafwyd y wybodaeth eto2570.1%0.2%0.2%
Cyfanswm terfynol196823944362100.0%100.0%100.0%
Cyfrwng Saesneg yn unigCyfrif pennauCanran cyfrif pennau
LefelAthrawonStaff CymorthCyfanswmAthrawonStaff CymorthCyfanswm
Lefel Hyfedredd109381476.4%1.7%3.8%
Lefel Uwch7020904.1%0.9%2.3%
Lefel Canolradd1765222810.3%2.4%5.8%
Lefel Sylfaen41619260824.4%8.8%15.6%
Lefel Mynediad509750125929.8%34.2%32.3%
Dim sgiliau iaith4241135155924.9%51.8%40.0%
Ni chafwyd y wybodaeth eto2570.1%0.2%0.2%
Cyfanswm terfynol170621923898100.0%100.0%100.0%
Cyfrwng Cymraeg yn unigCyfrif pennauCanran cyfrif pennau
LefelAthrawonStaff CymorthCyfanswmAthrawonStaff CymorthCyfanswm
Lefel Hyfedredd25517543097.3%86.6%92.7%
Lefel Uwch717242.7%8.4%5.2%
Lefel Canolradd 660.0%3.0%1.3%
Lefel Sylfaen   0.0%0.0%0.0%
Lefel Mynediad   0.0%0.0%0.0%
Dim sgiliau iaith 440.0%2.0%0.9%
Ni chafwyd y wybodaeth eto   0.0%0.0%0.0%
Cyfanswm terfynol262202464100.0%100.0%100.0%

 

Staff mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd (SWAC 2021)
 AthrawonCymorth
YsgolNiferFTENiferFTE
YGG Bryniago108.92139.33
YGG Bryn-y-Mor1513.2086.41
YGG Gellionnen1110.80119.58
YGG Llwynderw1713.091411.93
YGG Lonlas2219.612520.09
YGG Pontybrenin3025.372421.30
YGG Tan-y-Lan108.161310.31
YGG Tirdeunaw1817.20159.15
YGG Y Cwm74.9885.98
YGG Y Login Fach1310.2597.25

Mae twf sylweddol yn y gweithlu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn i Abertawe lwyddo i sicrhau twf siaradwyr Cymraeg trwy addysg yn ein hysgolion a chyfleoedd dysgu ehangach.

Er mwyn nodi targed cychwynnol ar gyfer yr hyn y bydd ei angen arnom yn ystod oes y cynllun, rydym yn mesur y nifer tebygol o staff sydd eu hangen ar gyfer 3 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall. At y diben hwn credwn y byddai angen 40 aelod o staff addysgu a 40 aelod o staff cymorth ychwanegol arnom. Pe bai'r ddarpariaeth yn cael ei darparu ar draws 3 ysgol newydd gallai hyn olygu'r angen am 3 phennaeth newydd. Caiff hyn ei fodelu yn erbyn un o'n hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol.

Yn ystod dwy flynedd gyntaf y cynllun byddwn yn gwneud rhywfaint o fodelu pellach gyda'n hysgolion uwchradd, ein cydweithwyr rhanbarthol a chenedlaethol i fodelu'r gofyniad staffio wrth i'r carfannau cynyddol hyn symud trwy'r system.

Er mwyn cyflawni'r deilliant hwn a chynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pum mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Cynnal archwiliad gweithlu canolog (yn 2 flynedd gyntaf y Cynllun) i adolygu staffio presennol ynghyd ag ystyried swyddi gwag staff addysgu a chymorth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i gefnogi recriwtio a chadw staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg gan gynnwys staff addysgu a dysgu cwbl rugl.
  2. Dadansoddi canlyniad data cyfrifiad gweithlu ysgolion a ffynonellau tystiolaeth ansoddol (ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun) i gefnogi cynllunio'r gweithlu i lywio dyluniad rhaglenni dysgu proffesiynol sy'n adlewyrchu anghenion ein gweithlu lleol sy'n benodol i wella'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob ysgol.
  3. Rhoi cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion ar sut i adlewyrchu sgiliau iaith Gymraeg staff yn gywir.
  4. Bydd ein Swyddogion Datblygu Cymraeg mewn Addysg yn darparu cefnogaeth ôl-gwrs i ymarferwyr sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Sabothol. Byddwn hefyd yn gweithredu rhaglen fentora Hyrwyddwyr Iaith lle, ar ôl cwblhau'r Cynllun Sabothol, bydd yr ymarferwyr hyn yn dod yn Hyrwyddwyr Iaith ac yn mentora ymarferwyr eraill i gynyddu eu hyder i siarad Cymraeg, addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu ddysgu'r Gymraeg fel pwnc mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a rhannu arfer da.
  5. Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn targedu datblygu sgiliau iaith Gymraeg mewn Cynlluniau Datblygu Ysgol yng nghyd-destun gwella safonau er mwyn sicrhau bod ffocws cryf ar flaenoriaethu datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cynnwys gwella sgiliau iaith.
  6. Gwella hyder y gweithlu sy'n gallu addysgu yn Gymraeg ond heb wneud hynny ar hyn o bryd drwy gynnig cyrsiau Cymraeg pellach mewn partneriaeth â sefydliadau AB/AU.
  7. Mae Cynghorwyr Gwella Ysgolion (SIAs) yn monitro Cynlluniau Datblygu Ysgol a Chynlluniau Iaith Newydd i sicrhau bod arweinwyr yn cynllunio i wella sgiliau ieithyddol y gweithlu. Bydd canlyniadau'r gweithlu hefyd yn cael eu rhannu ag SIAs i gynorthwyo gyda monitro.
  8. Sicrhau bod pob tîm arweinyddiaeth ysgol a llywodraethwr yn cael gwybod am y CSCA a'r angen am sgiliau dwyieithog a bod monitro uwchsgilio eu staff yn allweddol fel rhan o'u hyfforddiant llywodraethwr a DPP.
  9. Annog llywodraethwyr pob ysgol i gynnwys adroddiad ar y Gymraeg yn eu hadroddiad blynyddol i rieni a chynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.
  10. Cefnogi a darparu cyngor i lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion ar benodi a datblygu staff.
  11. Sicrhau bod staff o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ceisio am raglenni datblygu arweinyddiaeth cenedlaethol perthnasol a chyfleoedd dysgu proffesiynol gan gynnwys y Rhaglen Darpar Bennaeth sy'n arwain at gymhwyster NPQH.
  12. Archwilio cwmpas i ddatblygu ymgyrch hyrwyddo a recriwtio leol i dargedu'r angen am amrywiaeth bellach ar draws y gweithlu addysgu a dysgu, yn enwedig yn y gweithlu sy'n siarad Cymraeg i gefnogi arallgyfeirio'r defnydd tymor hir o'r Gymraeg a sicrhau bod pob teulu a disgybl yn teimlo bod eu hysgol yn adlewyrchu eu cymuned leol.
  13. Annog a monitro'r defnydd o gwrs newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan staff addysgu fel llwybr arall ar gyfer datblygu hyder iaith o fewn y gweithlu addysgu a dysgu.
  14. Gweithio gyda Mudiad Meithrin trwy'r Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol (prentisiaeth) a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam sy'n cynnig ystod lawn o gymwysterau Gofal Plant, Dysgu Chwarae a Datblygiad Plant cyfrwng Cymraeg mewn addysg ôl-14/ôl-16.
  15. Modelu (yn ystod 3 blynedd gyntaf y Cynllun) y gofynion staffio yn y sector uwchradd wrth i'r carfannau cynyddol hyn symud drwy'r system.
  16. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill i gynnal dadansoddiad rheolaidd o'r holl ffynonellau data er mwyn deall tueddiadau yn y galw am athrawon cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn gofyn am ragamcanu cyfraddau pontio blynyddol dysgwyr o addysg gynradd i addysg uwchradd ac edrych ar dueddiadau o ran nifer yr athrawon sy'n symud i rolau arwain, symud ysgolion neu adael / ymddeol o'r proffesiwn, er enghraifft.
  17. Yn seiliedig ar y dadansoddiad data o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu byddwn yn gosod targedau ar gyfer cynyddu cyfran ein gweithlu sydd â sgiliau iaith ar lefel sylfaen, ac ar lefel ganolradd neu uwch ac yn adrodd ar y rhain fel rhan o'n gwaith monitro blynyddol o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Ei gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr pob ysgol gynnwys adroddiad ar y Gymraeg i ddathlu a myfyrio ar ddefnydd a datblygiad gwell sgiliau Cymraeg disgyblion a chyfleoedd caffael iaith â ffocws eu staff addysgu a dysgu yn eu hadroddiad blynyddol i rieni.
  2. Sicrhau bod ysgolion yn gosod ac yn adrodd ar dargedau datblygu sgiliau Cymraeg o fewn cynlluniau datblygu ysgol yng nghyd-destun gwella safonau i sicrhau bod ffocws cryf ar flaenoriaethu datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cynnwys gwella sgiliau ieithyddol.
  3. Targedu athrawon a staff cymorth ym mhob un o brif leoliadau cyfrwng Saesneg y sir i fynychu cyrsiau dwyieithog/iaith achlysurol. Yn ogystal,
    byddwn yn anelu at gael un aelod o staff o bob ysgol yn mynychu'r cwrs sabothol yn ystod oes y Cynllun.

Mae'r prif barterniaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Ysgolion Abertawe
  • Darparwyr AGA gan gynnwys - Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Y Brifysgol Agored, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Llywodraeth Cymru
  • Mudiad Meithrin

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu