Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Hawliau Dynol a chydraddol deb Strategol 2024-2028

Mae Abertawe'n Ddinas Hawliau Dynol. Dyma'r tro cyntaf i ni cyfuno'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) â'n hymrwymiadau Hawliau Dynol.

Adran 1 - Cyflwyniad
Adran 2 - Y Cyddestun Deddfwriaethol
Adran 3 - Amdanom Ni
Adran 4 - Sut gwnaethom ddatblygu ein hamcanion hawliau dynol a chydraddoldeb
Adran 5 - Ein Hawliau Dynol ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Adran 6 - Monitro a Gwerthuso

 

Adran 1 - Cyflwyniad

Mae Abertawe'n Ddinas Hawliau Dynol. Dyma'r tro cyntaf i ni gyfuno'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) â'n hymrwymiadau Hawliau Dynol. Bydd y cynllun yn amlinellu sut byddwn yn parhau i fodloni'n hymrwymiadau i hawliau dynol a chydraddoldeb, a sut byddwn yn bodloni'n rhwymedigaethau cyfreithiol o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Dinas Hawliau Dynol

Datganodd Cyngor Abertawe a'n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei hun yn Ddinas Hawliau Dynol ym mis Rhagfyr 2022, yn dilyn 18 mis o waith sylfaen ac ymgysylltu.

Rydym yn bwriadu cyflawni ein haddewid i fod yn Ddinas Hawliau Dynol drwy osod hawliau dynol wrth wraidd ein penderfyniadau drwy:

  • Gynnwys ein cymunedau a'r rhai rydym yn eu gwasanaethau i wireddu eu hawliau dynol.
  • Adeiladu ar waith sy'n cael ei wneud ar draws y ddinas sydd wedi'i lywio gan ymrwymiad i hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Gwneud hawliau dynol yn sail i'n gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Cydnabod bod hawliau dynol yn hanfodol i'n polisïau a'n gweithredoedd, yn unigol ac ar y cyd

Cynlluniau Ategol

Ni all y cynllun hwn sefyll ar ei ben ei hun.  Mae ganddo gysylltiadau agos iawn â nifer o feysydd gwaith allweddol y Cyngor, er enghraifft, Cynllun gwella corfforaetholy Strategaeth Trechu Tlodi, Cydlyniant Cymunedol, y Cynllun Lles Lleoly Gymraeg, y Straegaeth Cydgynhyrchu, y Cynllun Datbylygu LleolStrategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Trais Rhywiol Abertawe 2023-2026 a Strategaeth Abertawe Mwy Diogel.

Mae cydraddoldeb yn thema allweddol drwy gydol yr holl waith hwn; wrth ddatblygu'r cynllun hwn, rydym wedi ymgysylltu â chydweithwyr a phreswylwyr i sicrhau ein bod yn adeiladu ar waith presennol ac arfaethedig.

Adran 2 - Y cyd-destun Deddfwriaethol

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ('y Ddeddf'), yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, wedi'i chefnogi gan ddyletswyddau penodol.

Dyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol

Nod y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus yn ystyried sut gallant gyfrannu at gymdeithas decach yn gadarnhaol drwy ddatblygu cydraddoldeb a pherthnasoedd da yn eu gweithgareddau pob dydd. Wrth arfer eu swyddogaethau, mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyladwy i'r angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Mae'r Ddeddf yn esbonio bod rhoi ystyriaeth i hyrwyddo cyfle cyfartal yn yr ail amcan yn ymwneud â:

  • Chael gwared ar yr anawsterau a brofir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig neu eu lleihau.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig lle bo'r rhain yn wahanol i bobl eraill.
  • Annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.

Mae'r Ddeddf yn disgrifio meithrin perthnasoedd da yn y trydydd nod fel mynd i'r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai hynny nad ydynt yn ei rhannu. Gall cyflawni dyletswydd gynnwys trin pobl yn fwy ffafriol nag eraill, ar yr amod nad yw hyn yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Ddeddf.

Y Dyletswyddau Penodol

Mae'n ofynnol i bob corff cyhoeddus gyflawni'r dyletswyddau penodol hyn er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol:

  • I gael gwared ar wahaniaethu.
  • I hyrwyddo cyfle cyfartal.
  • I feithrein perthnasoedd da.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a oedd yn nodi'r gofynion ar gyfer Cymru.

Pwy a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu ar sail y nodweddion canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a phriodas a phartneriaeth sifil. Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei nodweddion gwarchodedig.

Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Mae gennym gyfraith yng Nghymru sy'n ein helpu ni i gyd i weithio gyda'n gilydd i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant. Ar gyfer pobl, ar gyfer ein planed. Ar gyfer nawr ac ar gyfer ein dyfodol. Gelwir hyn yn Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Fel Cyngor, drwy'r Ddeddf hon, mae gennym ddyletswydd i gynnal datblygiad mewn ffordd gynaliadwy a chyfrannu at y 7 nod llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru. Mae'r nodau llesiant fel a ganlyn; Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.  Mae'n rhaid i ni greu a chyhoeddi ein hamcanion lles ein hunain mewn cynllun a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hyn yn sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol o leiaf yr un ansawdd bywyd ag sydd gennym ar hyn o bryd. Mae'r ddeddf hon hefyd yn darparu ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus:

  • yn ystyried y tymor hir
  • yn gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu
  • yn mabwysiadu ymagwedd integredig
  • yn mabwysiadu ymagwedd gydweithredol
  • yn ystyried ac yn cynnwys pobl o bob oed ac amrywiaeth.

Deddf Hawliau Dynol

Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn gyfraith sy'n diogelu ein hawliau dynol yn y DU. Mae gan bawb hawliau dynol. Ni ellir eu cymryd oddi wrthych chi, ond weithiau gall rhai ohonynt gael eu cyfyngu i'ch diogelu chi neu eraill.

Fel Cyngor, mae gennym ddyletswydd i barchu, amddiffyn a chyflawni eich Hawliau Dynol. Mae gennym 16 o hawliau dynol yng nghyfraith y DU.

Mae'r hawliau hyn fel a ganlyn:

Hawl i fywyd, rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol, rhyddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol, yr hawdd i ryddid a diogelwch, hawl i brawf teg, dim cosb heb gyfraith, parch at eich bywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth, rhyddid meddwl, cred a chrefydd, rhyddid mynegiant, rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu, yr hawl i briodi a dechrau teulu, amddiffyn rhag gwahaniaethu, hawl i fwynhad heddychlon o'ch eiddo, hawl i addysg, yr hawl i gymryd rhan mewn etholiadau rhydd a diddymu'r gosb eithaf.

Ymagwedd Egwyddorol at Hawliau Dynol

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fod yn Ddinas Hawliau Dynol, rydym wedi addo rhoi Hawliau Dynol wrth wraidd ein penderfyniadau. Er mwyn cyflawni hyn, mae gennym gynllun (Ein cynllun i roi Hawliau dynol wrth wraidd ein penderfyniadau) i ddefnyddio ymagwedd egwyddorol at Hawliau Dynol. Yr egwyddorion yw:

 

  • Cyfranogi - Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod trefniadau o safon ar waith i sicrhau y gwrandewir ar bobl, a'u bod yn cael cyfle i fynegi barn ynghylch penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
  • Grymuso - Mae hyn yn golygu hyrwyddo hawliau i bobl, fel eu bod yn teimlo y gallant eu harfer.
  • Gwreiddio - Mae hyn yn golygu rhoi systemau ar waith er mwyn nodi a dangos tystiolaeth o sut rydym yn rhoi ystyriaeth i effaith penderfyniadau ar Hawliau Dynol. Byddwn yn sicrhau bod staff yn deall y Ddeddf Hawliau Dynol a sut mae eu gwaith yn effeithio ar Hawliau Dynol.
  • Atebolrwydd- Mae hyn yn golygu rhoi systemau ar waith i adrodd ar yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod hawliau preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe yn cael eu gwireddu.
  • Peidio â gwahaniaethu- Mae hyn yn golygu gwneud ymdrech benodol i sicrhau bod gan bobl sy'n fwy annhebygol o ddefnyddio'u hawliau gyfle cyfartal i wneud hynny.

 

Adran 3 - Amdanom Ni

Yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer Dinas a Sir Abertawe (2021) yw 238,500, sy'n golygu mai ni yw'r ail boblogaeth uchaf o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae gennym 75 o gynghorwyr etholedig yn Abertawe sy'n cynrychioli 32 ward (ardal). Mae Cyngor Abertawe yn cyflogi tua 11,000 o bobl ar draws 5 cyfarwyddiaeth; Cyllid, Addysg, Lleoedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Corfforaethol. Ni yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo'n gryf i gydraddoldeb. Mae hyfforddiant cydraddoldeb yn orfodol i bob gweithiwr newydd, ac rydym yn cynnal hyfforddiant gloywi bob 3 blynedd. Mae ein hadran Adnoddau Dynol, ynghyd â'n tîm cydraddoldeb, yn adolygu ac yn adnewyddu cynnwys yr hyfforddiant, gan sicrhau ei fod yn gyfredol a bod unrhyw ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru neu'r DU yn cael ei chynnwys.

Yn dilyn cyhoeddi Cyfrifiad 2021 ochr yn ochr â ffynonellau data blynyddol eraill, rydym wedi crynhoi cyfres o ddangosyddion cydraddoldeb allweddol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe. Mae hyn yn ein helpu i ddeall amrywiaeth poblogaeth Abertawe. Amlinellir rhai o'r penawdau allweddol isod:

Mae penawdau allweddol Cyfrifiad 2021 yn dweud wrthym:

Oedran:
Mae gennym nifer uwch o bobl ifanc 16-24 oed (13%), na chyfartaledd Cymru a'r DU. Mae ein poblogaeth hŷn yn tyfu - mae 20.5% o bobl yn 65 oed neu'n hŷn.

Anabledd:
Yn Abertawe, mae 22.4% o bobl yn anabl, mae'r ffigur hwn yn uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU.

Ailbennu rhywedd (hunaniaeth rhywedd):
Dywedodd 864 o bobl yn Abertawe (0.4% o'r holl bobl 16 oed ac yn hŷn) nad yw'r rhywedd y maent yn uniaethu ag ef yr un peth â'r rhywedd a bennwyd iddynt adeg eu geni.

Priodas a phartneriaeth sifil:
Mae gennym gyfran uwch o oedolion (39.9%) nad ydynt erioed wedi priodi neu nad ydynt erioed wedi cofrestru partneriaeth sifil na'r cyfartaleddau cenedlaethol.

Beichiogrwydd a Mamolaeth:
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y cyfraddau beichiogi a genedigaethau wedi gostwng yn Abertawe ac yn genedlaethol.

Mae cyfraddau ffrwythlondeb ar hyn o bryd yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau oedran.

Hil:
Mae gan Abertawe gyfran uwch o bobl mewn grwpiau ethnig heb fod yn wyn (8.6%) na chyfartaledd Cymru. Y grŵp ethnig heb fod yn wyn mwyaf yn Abertawe yn 2021 oedd 'Bangladeshaidd' (tua 2,900 o bobl neu 1.2%).

Mae Cyfrifiad Ysgolion (2023), yn awgrymu bod nifer a chyfran y plant o grwpiau ethnig heb fod yn wyn wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf.

Crefydd neu gred:
Nododd ychydig dros 40% o boblogaeth Abertawe eu bod yn Gristnogion.

Cynyddodd nifer y bobl yn Abertawe a oedd yn gysylltiedig â chrefydd arall rhwng 2011 a 2021; y nifer mwyaf oedd Mwslimaidd, Bwdhaidd a Hindŵaidd yn y drefn honno.

Cynyddodd nifer y bobl a ddywedodd nad oedd gan ddynt grefydd yn sylweddol rhwng Cyfrifiadau (+39%).

Rhyw:
Mae cymarebau dynion i fenywod yn Abertawe yn newid ar wahanol gyfnodau bywyd:

  • mae mwy o ddynion na menywod yn Abertawe rhwng 0 a 15 oed
  • mae rhaniad cyfartal ar gyfer pobl 16-64 oed
  • mae mwy o fenywod na dynion yn 65 oed neu'n hŷn.

Cyfeiriadedd Rhwiol:
Casglodd Cyfrifiad 2021 ddata ar gyfeiriadedd rhywiol am y tro cyntaf, felly ni ellir gwneud cymariaethau â'r gorffennol.

Mae 3.4% o breswylwyr Abertawe dros 16 oed yn ystyried eu bod yn LHDTC+ o'u cymharu â 2.7% yng Nghymru.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am boblogaeth Abertawe ar ein gwefan: Adolygiad o Ystadegau Cydraddoldeb

Adran 4 - Sut gwnaethom ddatblygu ein hamcanion hawliau dynol a chydraddoldeb

Goruchwyliwyd datblygiad y cynllun hwn gan Fwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol y Cyngor. Diben y Bwrdd yw darparu trosolwg strategol ar gyfer cyfrifoldebau'r Cyngor o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Cytunwyd i gael ymgysylltiad cynnar ac agored, i wneud defnydd o ymgysylltu blaenorol, i fod yn onest ac yn dryloyw, i ddefnyddio tystiolaeth bresennol, yr angen i ystyried cyllidebau a chynnwys proses fonitro a gwerthuso.

Gweler ein hadroddiad ymgysylltu cysylltiedig am fanylion llawn.

Ymgysylltu'n gynnar ar gyfer y cynllun hwn

Gofynnom y ddau gwestiwn canlynol:

  • Beth rydych chi'n meddwl yw'r materion anghydraddoldeb mwyaf arwyddocael sy'n effeithio ar bobl yn Abertawe?
  • Pa gamau y gall y Cyngor eu cymryd i fynd i'r afael â materion anghydraddoldeb sylweddol yn Abertawe?

Cynhaliwyd nifer o sesiynau ymgysylltu ar-lein a chyhoeddwyd arolwg gennym, er mwyn casglu barn pobl ar y cwestiynau uchod. Cafodd y cwestiynau hyn hefyd eu cynnwys yn ein harolwg ehangach ar gyfer preswylwyr. Gwnaethom ymweld â nifer o rwydweithiau a fforymau presennol ledled y ddinas, gan gynnwys fforwm LHDTC+ y Cyngor, Grŵp Cyswllt Anabledd a grwpiau ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Themâu a chanlyniadau o'n sesiynau ymgysylltu cynnar

Y prif faterion a themâu a nodwyd yn y gweithgarwch ym gysylltu hwn yw: gwahaniaethu, tlodi, tai, cymunedau, trafnidiaeth, gwaith, addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a chynhwysiant digidol.

Ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol

Gwnaethom edrych ar ymgysylltu ac ymgynghoriadau diweddar sydd wedi digwydd yng Nghyngor Abertawe ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth. Fe'u defnyddiwyd i lywio'r cynllun hwn, gan gynnwys:

Adroddiad Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol Abertawe (2022), canlyniadau ymgynghoriad Cynllun Corfforaethol y Cyngor (2023) a'r Arolwg i Breswylwyr (2024). I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler yr adroddiad ymgysylltu.

Gwnaethom hefyd edrych ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' 2023 gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, a data Cyfrifiad 2021.

Themâu a materion o ymgysylltu ac ymgynghori blaenorol

Hawliau Dynol Abertawe:
Mynd i'r afael â thlodi, plant a theuluoedd sy'n agored i niwed, mynd i'r afael â gwahaniaethu, trais a cham-drin domestig ac ymwybyddiaeth o hawliau dynol.

Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2023-28:
Diogelu pobl rhag niwed, gwella addysg a sgiliau, trawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd, mynd i'r afael â thlodi a galluogi cymunedau, cyflawni ar adfer natur a newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid a chadernid ariannol.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2023-24:
Darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol yn hytrach na'u colli, Gwasanaethau cymdeithasol ac Addysg yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol, gofal i bobl hŷn ac oedolion anabl, atgyweirio strydoedd / ffyrdd, tai a digartrefedd, cadw plant yn ddiogel, mynd i'r afael â thlodi a pharciau a mannau Gwyrdd.

Asesiad o Les Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe:
Lles Cymdeithasol: (iechyd meddwl, iechyd corfforol, trosedd a diogelwch), lles economaidd: (cyfleoedd cyflogaeth da, incwm digonol, cyfleoedd dysgu), lles amgylcheddol: (gwastraff ac ailgylchu, natur, ansawdd aer) a lles diwylliannol: (asesdau diwylliannol gan gynnwys lleoedd a phobl, cyfranogiad cymunedol, gwirfoddoli a'r celfyddydau, treftadaeth).

Plant a Pobl Ifanc:
Diogelwch a theimlo'n ddiogel yn ein cymuned, gwell chwaraeon, cydraddoldeb a chyfleusterau, iechyd meddwl, newid yn yr hinsawdd ac ymwybyddiaaeth amgylcheddol, cydraddoldeb Pobl Ddu, Asiaidd ac eithnig leiafrifol, LHDTC+, cam-drin sylweddau a fepio ac ymwybyddiaeth o anableddau gweladwy a rhai nad ydynt yn weladwy, a chydraddoldeb.

Trechu Tlodi: 
Cynhwysiant digidol, cefnogaeth gymunedol, gwybodaeth, arweiniad a chyngor, stigma a gwahaniaethu, mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal ac iechyd a lles.

Arolwg i Breswylwyr:
Gwahaniaethu, tlodi, tai, cymunedau, trafniadiaeth a gwaith.

Adran 5 - Ein Hawliau Dynol ac Amcanion cydraddoldeb Strategol 2024-2028

Rydym wedi ymrwymo i wreiddio Hawliau Dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy bopeth a wnawn fel Cyngor.

Ein hamcanion hawliau dynol a chydraddoldeb strategol ar gyfer 2024-28 yw:

  1. Trechu Tlodi
  2. Plant a theuluoedd sy'n agored i niwed
  3. Mynd i'r afael â gwahaniaethu
  4. Cam-drin domestig a thrais
  5. Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  6. Gweithlu

Yn ein cynllun gweithredu cysylltiedig, rydym wedi nodi ar gyfer pob un o'n hamcanion a'n hymrwymiadau, y nodweddion gwarchodedig perthnasol y maent yn cyflawni o ran ymagwedd egwyddorol at Hawliau Dynol.

Amcan 1 - Mynd i'r afael â Thlodi

Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag achosion tlodi a'i effaith ar bobl a chymunedau, gan ddileu anghydraddoldebau i'r rhai yr effeithir arnynt gan dlodi.

Pam mae hwn yn amcan?

Nodwyd tlodi fel prif fater yn ein sesiynau ymgysylltu cynnar ar gyfer y cynllun hwn. Dyma'r brif flaenoriaeth yn ein gwaith fel Dinas Hawliau Dynol. Mae'n brif flaenoriaeth yn ein cynllun Corfforaethol a dywedodd adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' wrthym fod tlodi yn parhau i fod yn gyson uchel yng Nghymru.

Er mwn cyflawni'r amcan hwn:

Byddwn yn...
Cyflawni'r Strategaeth Tegwch mewn Addysg a fydd yn cymryd camau gweithredu i leihau'r effaith y mae tlodi yn ei chael ar ddysgwyr, ac yn cyflawni'n cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol.

Byddwn yn...
Cyflawni Strategaeth Trechu Tlodi'r Cyngor, a fydd yn mynd i'r afael ag achosion tlodi a'i effaith ar bobl a chymunedau.

Byddwn yn...
Darparu rhaglen amrywiol a chynhwysol ar gyfer digwyddiadau celfyddydol, diwylliannol, chwaraeon a threftadaeth ar draws y ddinas a chymunedau, a fydd yn cefnogi cyfranogiad, twf economaid ac yn annog cynhwysiad.

Byddwn yn...
Cynyddu argaeledd ac ansawdd tai cymdeithasol syn addas ar gyfer anghenion pobl drwy ein Rhaglen Cyflwyno Rhagor o Gartrefi a gweithio gyda'n partneriaid Landlordiad Cymdeithasol Cofrestredig.

Amcan 2 - Plant a Theuluoedd sy'n agored i niwed

Deall yr hyn sy'n bwysig i blant a theuluoedd a gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion creadigol.

Pam mae hwn yn amcan?

Dywedodd adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' wrthym fod nifer y plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'n flaenoriaeth i'n gwaith fel Dinas Hawliau Dynol. Roedd addysg yn brif thema a nodwyd yn ein sesiynau ymgysylltu cynnar a diogelu pobl rhag niwed yw'r brif flaenoriaeth i ni yn ei cynllun Corfforaethol.

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn:

Byddwn yn...
Cefnogi plant a phobl ifanc i fyw'n ddiogel gartref gyda'u teulu, drwy weithio mewn partneriaeth â phobl a darparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.

Byddwn yn...
Cyflawni'r Strategaeth Cynhwysiad Addysg a fydd yn cefnogi'n dysgwyr mwyaf diamddiffyn.

Byddwn yn...
Cydgynhyrchu atebion creadigol gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal er mwyn cyflawni'n haddweidion rhiant corfforaethol.

Byddwn yn...
Datblygu ac yn cyflawni'r Strategaeth Hygyrchedd Addysg er mwyn gwneud ein hysgolion yn fwy hygyrch i ddisgyblion anabl.

Byddwn yn...
Cynnal Hawliau Plant fel rhan o waith beunyddiol y Cyngor, gan ymgorffori'r ymagwedd 'Y Ffordd Gywir'.

Amcan 3 - Mynd i'r Afael â Gwhaniaethu

Lleihau anghydraddoldebau a rhwystrau sy'n bodoli o fewn ein cymunedau a'n gwasanaethau.

Pam mae hwn yn amcan?

Mae mynd i'r afael â gwahaniaethu yn fater eang a chymhleth sy'n effeithio ar bawb sydd â nodweddion gwarchodedig. Hon oedd y brif thema yn ein sesiynau ymgysylltu cynnar ac roedd hefyd yn flaenoriaeth yn ein gwaith fel Dinas Hawliau Dynol. Dywedodd adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' wrthym fod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o droseddau casineb yr adroddwyd amdanynt.

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn:

Byddwn yn...
Rhoi'r camau gweithredu perthnasol ar waith ar gyfer y Cyngor o fewn Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+.

Byddwn yn...
Deall ac yn dileu'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'n gwasanaethau drwy archwilio'r galw am wasanaethau, anghenion cwsmeriaid ac unrhyw fylchau ar draws y Cyngor.

Byddwn yn...
Cyflawni Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru drwy ganolbwyntio ar ddatblygu cydlyniant cymunedol, ymgysylltu â'r gymuned ac adeiladu cymunedau cadarn.

Byddwn yn...
Datblygu ac yn cyflwyno'r Strategaeth Cydraddoldeb Addysg i ddod â gwaith at ei gilydd ar Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol ysgolion, gwrth-hiliaeth a gwrth-fwlio i gryfhau ein hymagwedd at gydraddoldeb mewn ysgolion.

Byddwn yn...
Cyflawni'r blaenoriaethau Mynd i'r afael â Throseddau Casineb, Tyndra Cymunedol ac Eithafiaeth a nodir yn Strategaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel 2023-2026.

Amcan 4 - Camdrin Domestig a Thrais

Rhydym am i bawb sy'n byw yn Abertawe fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach. Rydym am iddyn nhw fod yn rhydd o bob math o gam-drin.

Pam maw hwn yn amcan?

Mae mynd i'r afael â chamdrin domestig a thrais yn flaeanoriaeth yn ein gwaith fel Dinas Hawliau Dynol. Mae diogelu pobl rhag niwed hefyd yn flaenoraeth yn ein cynllun Corfforaethol ac roedd pryder am ddiogelwch pobl yn Abertawe yn uchel ym mhob gweithgarwch ymgysylltu.

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn:

Byddwn yn...
Cyflawni'r Strategaeth Abertawe Mwy Diogel, gan ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl o drais a cham-fanteisio.

Byddwn yn...
Cyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Amcan 5 - Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Gweithio gyda'n partneriaid i greu a choroesawu gweledigaeth ar gyfer dignas fywiog, amrywiol, deg a diogel lle mae pawb yn bwysig.

Pam mae hwn yn amcan?

Wrth i ni ddod yn Ddinas Hawliau Dynol dywedodd ein gweithgareddau ymgysylltu wrthym ei bod yn bwysig gweithio gyda'n partneriaid a'n preswylwyr i gynyddu ymwybyddiaeth o beth yw Hawliau Dynol a beth maent yn ei golygu i bobl yn eu bywydau bob dydd. Mae ymgorffori Hawliau Dynol yn rhan o'n Cynllun Corfforaethol a Chynllun Lles ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a thrwy wneud hyn rydym yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau y mae pobl yn eu hwynebu yn Abertawe.

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn:

Byddwn yn...
Datblygu gwell dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o hawliau diwylliannol, gan gefnogi lles, cyfleoedd a pherthnasau rhwng pobl a chanddynt nodweddion gwarchodedig.

Byddwn yn...
Gwreiddio egwyddorion hawliau dynol ar draws ein gwaith, gan rymuso preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe i gefnogi eu hawliau.

Byddwn yn...
Ymgynghori, yn ymgysylltu, ac yn cynnwys ein cymunedau yn effeithiol wrth lunio a chyflawni ein polisïau a'n gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl.

Byddwn yn...
Datblygu ac yn cyflawni Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau dysgwyr, fel y gallant siarad Cymraeg yn hyderus pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Amcan 6 - Gweithlu

Er mwyn bod yn weithlu cynhwysol ac amrywiol.

Pam mae hwn yn amcan?

Fel sefydliad, mae'n rhaid i ni adrodd ar ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chymryd camau i leihau'r bwlch. Rydym yn cydnabod bod angen i'n gweithlu adlewyrchu nodweddion gwarchodedig ein cymunedau. Mae anghydraddoldebau yn nodwedd amlwg yn ein gweithgarwch ymgysylltu cynnar ac mae'n thema drwy gydol yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?'

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn:

Byddwn yn...
Adrodd am fwlch cyflog rhwng y rhywiau'r Cyngor, yn nodi camau gweithredu ac yn lleihau unrhyw fwlch sy'n dod i'r amlwg.

Byddwn yn...
Cyflawni thema Cydraddoldeb yn y Gweithle Strategaeth y Gweithlu i greu amgylchedd sy'n creu amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb, ac yn sicrhau gweithlu amrywiol a chynhwysol ar draws y Cyngor.

Byddwn yn...
Datblygu ac yn hyrwyddo'n rhwydweithiau cydraddoldeb staff i sicrhau bod ein staff yn cael y cyfle i ddylanwadu ar ddatblygu polisïau.

Byddwn yn...
Casglu data'n gweithlu ac yn cymryd camau gweithredu i sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Adran 6 - Monitro a Gwerthuso

Bydd y cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol hwn yn cael ei asesu'n flynyddol gan adrannau a fydd yn adrodd ar y cynnydd a wneir yn erbyn eu gweithredoedd. Bydd cyflwyniad y cynllun hwn hefyd yn cael ei asesu gan Fwrdd Cydraddoldeb Strategol a Chenedlaethau'r Dyfodol y Cyngor, a fydd yn nodi meysydd yn y polisi i'w hadolygu a'u datblygu.

Fel rhan o'n hymrwymiadau fel Dinas Hawliau Dynol, byddwn yn adrodd ar gynnydd ein Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe bob tri mis. Rydym hefyd wedi sefydlu Panel Rhanddeiliaid Hawliau Dynol. Mae'r panel hwn ar agor i unrhyw aelod o'r cynhoedd neu gynrychiolwyr sefydliad yn Abertawe ymuno ag ef. Byddant yn derbyn newyddion a diweddariadau am waith y Cyngor a'n partneriaid ar Hawliau Dynol a bydd cyfle iddynt ofyn cwestiynau i ni a'n helpu i nodi unrhyw fylchau yn ein gwaith mewn cyfarfod ar-lein blynyddol.

Asesiadau Effaith Integredig

Mae'n ofyniad cyfreithiol i asesu'r effaith debygol ar bobl sy'n rhannu pob nodwedd warchodedig yn erbyn penderfyniadau a wnawn fel Cyngor. Rydym yn gwneud hyn drwy broses o'r enw Asesiadau Effaith Integredig (AEI). Rydym yn archwilio a yw swyddogaeth, gwasanaeth, polisi, gweithdrefn, strategaeth, cynllun neu brosiect newydd neu bresennol y mae'r Cyngor yn ei gyflawni neu'n ei gaffael, yn effeithio ar unrhyw berson neu grŵp o bobl mewn ffordd negyddol neu gadarnhaol.

Drwy gynnal y broses AEI hon, rydym yn bodloni ein gofynion cyfreithiol o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol), Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Mesur y Gymraeg (Cymru). Fel Cyngor, rydym wedi cymryd camau ychwanegol i gryfhau'r broses hon drwy gynnwys yr effeithiau ar Hawliau Dynol, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, gofalwyr a Chydlyniant Cymunedol. Rydym hefyd yn edrych ar groestoriad pobl â nodweddion gwarchodedig ac effaith gronnol ein penderfyniadau.

Mae rhai manteision o ymgymryd â AEI fel a ganlyn:

Mae hwn yn offeryn allweddol i'n galluogi i fonitro a gwerthuso ein gwaith ym maes Hawliau Dynol a chydraddoldeb. Mae AEI yn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o'r rhai y gall y polisi neu'r arfer effeithio arnynt, gan ddefnyddio gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb i sicrhau bod gwasanaethau'n dod yn fwy hygyrch a chynhwysol. Drwy'r broses AEI gallwn nodi problemau posib a chanlyniadau anfwriadol yn ogystal â thynnu sylw at arfer teg a chyfartal. Maent hefyd yn gwella'r broses gynllunio a fydd yn gwneud penderfyiadau'n rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol, gan leihau risgiau ariannol a risgiau i enw da. Bydd hyn yn ei dro yn dangos bod penderfyniadau wedi'u cynllunio'n dda a bod barn y rhai yr effeithir arnynt wedi'i hystyried. Mae'r broses hefyd yn ein galluogi i nodi a dileu unrhyw arferion amhriodol a gwahaniaethu sefydliadol. Yn olaf, mae'r broses AEI yn sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n diogelu ac yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-2028 (Word)

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol 2024-2028.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Hydref 2024