Mapiau ardal ystadegol a'r cyfrifiad
Mapiau o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach yn Abertawe.
Mae daearyddiaeth ystadegol yn darparu'r sail ar gyfer cynhyrchu ystadegau ardal leol o'r cyfrifiad cenedlaethol, ac ystadegau eraill a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), adrannau'r llywodraeth a darparwyr gwybodaeth. Maent yn darparu strwythur cyson, sefydlog er mwyn casglu, prosesu, cydgasglu a dadansoddi data'n lleol.
Defnyddiwyd Ardaloedd Cynnyrch (AC) ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE), sydd wedi'u dylunio a'u rheoli gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fel y prif unedau ar gyfer allbynnau data Cyfrifiad lleol ac ystadegau ardaloedd bach eraill ers 2001.
Mae ystadegau ar gael yn haws mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG). Cânt eu llunio o grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch (AC - yr uned leiaf, ar hyn o bryd mae 806 yn Abertawe), gyda phob un o'r haenau gwahanol yn cael ei chynnwys yn y lefel uwchben; felly mae AC yn cael eu cynnwys yn yr ACEHI sy'n cael eu cynnwys yn yr ACEHG. Mae'r holl ffiniau sy'n seiliedig ar AC yn y pen draw'n cael eu cynnwys o fewn ardaloedd awdurdodau lleol unigol. Caiff yr ardaloedd hyn eu hadolygu unwaith bob deng mlynedd, ochr yn ochr â'r cam cychwynnol i ryddhau canlyniadau'r y cyfrifiad lleol.
Ers 2021, mae Abertawe wedi cynnwys 150 ACEHI (cynnydd o 148 yn 2011). Mae 30 ACEHG bellach yn y sir (un yn llai nag yn 2011).
ACEHG yn Abertawe (2021) (PDF) [4MB]
Caiff ACEHG yn ninas a sir Abertawe eu codio rhwng 'Abertawe 001' ac 'Abertawe 032' (neu W02000168 i W02000428). Er nad oes gan ACEHG enw ffurfiol sy'n seiliedig ar yr ardal leol, ym mis Hydref 2019 lluniodd Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin gyfres o enwau ACEHG ar gyfer pob ardal â'r bwriad o ddarparu enwau adnybyddadwy ar gyfer ACEHG sy'n seiliedig ar y trefi, y pentrefi neu'r cymdogaethau maent yn eu cynnwys. Nid yw'r enwau'n rhai swyddogol ar gyfer ACEHG, ond bwriedir iddynt ddarparu adnodd i ddefnyddwyr er mwyn gwneud data ACEHG yn haws i'w ddadansoddi a'i gyflwyno.
Mae'r delweddau map sydd ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho ar y dudalen hon yn dangos y 30 ACEHG yn Abertawe a lleoliad ACEHI unigol oddi mewn iddynt. Mae map o un ACEHG newydd Abertawe (Abertawe 032) hefyd wedi'i gynnwys:
- Abertawe 001: Pontarddulais (PDF) [3MB]
- Abertawe 002: Clydach a Mawr (PDF) [4MB]
- Abertawe 003: Gogledd Treforys (PDF) [3MB]
- Abertawe 004: Llangyfelach a Thircoed (PDF) [4MB]
- Abertawe 005: Gorseinon (PDF) [3MB]
- Abertawe 006: Gellifedw (PDF) [4MB]
- Abertawe 007: Casllwchwr (PDF) [4MB]
- Abertawe 008: De Treforys (PDF) [4MB]
- Abertawe 009: Mynydd-bach (PDF) [4MB]
- Abertawe 010: Llansamlet (PDF) [4MB]
- Abertawe 011: Penderi (PDF) [4MB]
- Abertawe 012: Tregŵyr (PDF) [3MB]
- Abertawe 013: Ravenhill (PDF) [4MB]
- Abertawe 014: Bôn-y-maen (PDF) [3MB]
- Abertawe 015: Cwmbwrla (PDF) [4MB]
- Abertawe 016: Glandŵr (PDF) [4MB]
- Abertawe 017: Y Cocyd (PDF) [4MB]
- Abertawe 018: Llanmorlais a'r Crwys (PDF) [3MB]
- Abertawe 019: Townhill (PDF) [4MB]
- Abertawe 021: St Thomas (PDF) [3MB]
- Abertawe 022: Tŷ-coch (PDF) [4MB]
- Abertawe 024: Uplands (PDF) [4MB]
- Abertawe 025: Canol Abertawe (PDF) [3MB]
- Abertawe 026: Brynmill (PDF) [2MB]
- Abertawe 027: Sgeti (PDF) [3MB]
- Abertawe 028: Mayals a Llandeilo Ferwallt (PDF) [3MB]
- Abertawe 029: West Cross (PDF) [2MB]
- Abertawe 030: Gorllewin Gŵyr (PDF) [2MB]
- Abertawe 031: Mwmbwls a Newton (PDF) [2MB]
- Abertawe 032: Dyfnant a Chilâ (PDF) [3MB] *
* sylwer: enw answyddogol/dros dro am yr ACEHG newydd hon a ffurfiwyd drwy gyfuno ACEHG flaenorol yn Abertawe 020 ('Dyfnant a Chilâ Uchaf') ac Abertawe 023 ('Cilâ').
Yn y cyfamser, mae dynodwyr sy'n seiliedig ar godau ac enwau ar gyfer yr ACEHI ar gael, sy'n gyffredinol yn cyfeirio at y ward etholiadol y maent ynddynt. Mae enwau'r ACEHI a gyflwynwyd yn 2001 yn cael eu defnyddio o hyd, oni bai yr effeithiwyd arnynt gan holltau a/neu gyfuniadau (yn 2011 a 2021).
Mae'r ddaearyddiaeth ystadegol yn amodol ar adolygiad ynghyd â chyhoeddi canlyniadau newydd y Cyfrifiad pob deng mlynedd. Yn dilyn Cyfrifiad 2021, mae Abertawe wedi elwa o ddwy ACEHI ychwanegol net. Cafodd tair ACEHI yn Abertawe eu rhannu, sef ACEHI 'Gorseinon 1' (Côd SYG W01000773), 'Llansamlet 3' (côd W01000796) a 'St Thomas 2' (côd W01000850) cynt. Ar wahân i hynny, cyfunwyd dwy ACEHI Abertawe sef 'Y Castell 7E' ac 'Y Castell 7W' cynt.
Ar y pwynt hwn, nid oes gan yr ACEHG a'r ACEHI a newidiwyd enwau swyddogol yn yr ardal. Fel mesur dros dro, cyflwynwyd yr enwau ACEHI answyddogol canlynol ynghyd â'r codau SYG swyddogol i helpu i nodi ardaloedd (gall yr enwau hyn newid):
- ACEHI hollt 'Gorseinon 1': codau newydd W01001991 ('Gorseinon 1A') a W01001992 ('Gorseinon 3')
- ACEHI hollt 'Llansamlet 3': codau newydd W01001993 ('Llansamlet 3A') a W01001994 ('Llansamlet 9')
- ACEHI hollt 'St Thomas 2': codau newydd W01001995 ('St Thomas 2A') a W01001996 ('St Thomas 5')
- Mae'r ACEHI cyfunedig 'Y Castell 7E' (côd W01001938) / 'Y Castell 7W' (côd W01001957): yn dychwelyd i 'Y Castell 7' (côd newydd W01001997).
Mae'r mapiau ar y dudalen hon yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar ddaearyddiaeth ystadegol yn Abertawe, cysylltwch â ni.
Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.