Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais

Beth gallaf gyflwyno cais amdano ar-lein?

Gwastraff swmpus

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu ymyl y ffordd ar gyfer eitemau cartref fel gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad.

Gwneud cais am fwy o finiau a sachau ailgylchu

Os nad ydych yn gallu casglu sachau a biniau o un o'n cyflenwyr lleol, gallwch ofyn iddynt gael eu cludo i'ch cartref.

Casglu â chymorth

Os ydych yn cael problemau yn cario'ch ailgylchu a'ch sbwriel i ymyl y ffordd, gallwch wneud cais am gasgliad â chymorth.

Herio PCN

Gallwch apelio yn erbyn PCN os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael un yn anghywir.

Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd

Os nad ydych yn credu bod eich sgôr yn adlewyrchu amodau eich busnes bwyd pan gafodd ei archwilio, gallwch apelio yn ei erbyn.

Gwnewch gais ar-lein i'ch busnes bwyd gael ail arolygiad

Os ydych wedi gwneud gwelliannau ers eich ymweliad diwethaf, gallwch ofyn am ail arolygiad. Codir tâl o £180 i wneud hyn.

Trwyddedau parcio

Os oes cilfach barcio i breswyliwr ar eich stryd neu mewn stryd gerllaw, gallwch wneud cais am hawlen ddigidol.

Cais Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol

Gwnewch gais am wybodaeth a gedwir gan Gyngor Cyngor Abertawe o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Cewch gyngor ar dai rhent preifat

Os ydych yn byw mewn tai rhent preifat, neu'n landlord, gallwch gysylltu â ni am gyngor.

Chwilio cofnodion mynwentydd ac amlosgfeydd dinesig

Rydym yn gallu derbyn ceisiadau er mwyn chwilio'n cofnodion mynwentydd ac amlosgfeydd dinesig i gael manylion claddedigaethau a gafwyd.

Gallwch chwilio, adnewyddu a gofyn am eitemau'r llyfrgell ar-lein

Gallwch reoli eich cyfrif llyfrgell, adnewyddu'ch benthyciadau, dewis llyfrau ac eitemau eraill a'u rhoi ar gadw drwy'r catalog ar-lein.

Gwneud cais am atgyweiriad

Gallwch ofyn am atgyweiriad i'ch cartref drwy ein ffurflen ar-lein.

Gofyn am gopi o'ch bil trethi busnes

Cysylltwch â ni os hoffech gael copi o'ch bil Trethi Busnes fel y gallwn ei anfon atoch.

Gofyn am gopi o'ch bil Treth y Cyngor

Defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn am gopi o'ch bil Treth y Cyngor.

Gwneud cais i ail-lenwi bin graean ar-lein

Rhowch wybod i ni os oes angen ail-lenwi'ch bin graeanu.

Cyflwyno cais am Orchymyn Cadw Coed newydd

Gallwch ddefnyddio'n ffurflen ar-lein i wneud cais am GCC newydd i warchod coeden unigol benodol, grŵp o goed neu goetir.

Gofyn am help gan yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Cwblhewch y ffurflen ar-lein a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i wneud cyfeiriad.

Gwasanaeth ymchwil

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwilio ar gyfer y rheiny na all ddod yn bersonol i'r Gwasanaeth Archifau.

Cais am asesiad risg o lwybr cerdded

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein os hoffech wneud cais am asesiad risg o'ch llwybr cerdded i ysgol.

Cyhoeddi'r sgôr yn gynnar

Ar ôl arolygiad, bydd y sgôr yn cael ei lanlwytho gan yr awdurdod lleol er mwyn ei chyhoeddi ar wefan www.food.gov.uk/sgoriau. Ar gyfer busnesau gall perchennog neu reolwr y busnes ofyn i gael cyhoeddi'r sgôr cyn diwedd y cyfnod apelio.

Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd

Mae gennych yr hawl i ddweud eich dweud os oedd unrhyw amgylchiadau arbennig dros yr amodau a ganfuwyd yn ystod yr archwiliad a/neu eglurhad o unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd i unioni'r sefyllfa ers yr archwiliad. Caiff hwn ei arddangos ochr yn ochr â'ch sgôr ar y wefan.

Cyngor i fusnesau bwyd newydd yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe'n cynnig gwasanaeth cyngor i fusnesau bwyd newydd sy'n agor yn Abertawe. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu busnesau i fynegi pryderon i swyddogion arbenigol yn y tîm Diogelwch Bwyd a derbyn cyngor penodol am arfer gorau.

Bwyd mwy diogel, busnes gwell - copïau caled bellach ar gael

Pecyn rheoli diogelwch bwyd yw 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell' sydd ar gael i fwytai, caffis, siopau cludfwyd a busnesau arlwyo bach eraill fel y gallant gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.

Cysylltwch â thîm

Os ydych am wneud cais am arian ac angen cymorth, cwblhewch y ffurflen ymholiad a byddwn yn cysylltu â chi.

Datganiad ar gyfer tystysgrif mangre clwb

Mae'r ffurflen hon yn ddatganiad bod eich clwb yn bodloni statws clwb cymwys a rhaid i'r ffurflen fod ynghlwm wrth eich cais ar gyfer tystysgrif mangre clwb.

Holwch am fuddsoddi yn Abertawe

Dewch i fod yn rhan o ddinas sy'n tyfu a phrofi safon byw unigryw.

Gwneud cais am gyngor rheoleiddio busnes gennym ni

I ofyn am gyngor llenwch ein ffurflen ymholiadau. Yna byddwn yn gallu cynnig dyfynbris gan fanylu ar ba feysydd cyngor y gallwn eu cynnwys ynghyd ag amcangyfrif o ba mor hir y byddai hyn yn ei gymryd.

Pryniannau'r Gofrestr Etholiadol

Gall etholwyr brynu'r gofrestr agored.

Ceisiadau adolygu gwybodaeth

Mae gan bawb sy'n gofyn am adolygiad hawl i gwyno os ydynt yn anhapus gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'r cais am wybodaeth o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR)), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (RhGA).

Hoffech chi ofyn cwestiwn i Aelod y Cabinet

Mae'r tîm craffu'n cynnal sesiynau holi ac ateb rheolaidd ag Aelodau Cabinet.

Cais i weld darn o ffilm CCTV ar gyfer yswiriant a chyfreithwyr

Sylwer bod y ffurflen hon at ddefnydd cwmniau yswiriant a chyfreithwyr yn unig.

Gwnewch addewid

Cefnogwch Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru!

Talu am ffïoedd ymchwil masnachol

Ymchwil archifau ar gyfer busnesau masnachol.

Gwasanaeth gwybodaeth y Llinell Llyfrgelloedd

Gall gwasanaeth gwybodaeth y Llinell Llyfrgelloedd eich helpu ag unrhyw gwestiynau sydd gennych gan gynnwys ble i ddod o hyd i wybodaeth.

Archebu llyfr ar-lein

Archebwch lyfrau neu lyfrau llafar ar-lein i'w casglu o'ch llyfrgell leol.

Ffurflen ymholiad rheoli plâu

I drefnu triniaeth, llenwch ein ffurflen ymholiad rheoli plâu.

Cofrestrwch eich lleoliad ar gyfer ein rhestr o Leoedd Llesol Abertawe

Os ydych yn sefydliad neu'n fusnes sydd am helpu pobl Abertawe drwy gynnig lleoliad cynnes, diogel rhowch wybod i ni a byddwn yn eich ychwanegu at ein cyfeiriadur.

Ydych chi'n cael trafferth i ddod o hyd i ofal plant

Rhowch wybod i ni os nad ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i'r gofal plant y mae ei angen arnoch.

Cysylltu ag adran Treth y Cyngor

Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar-lein.

Gwasanaeth Ymgynghorol Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Os ydych yn berchen ar eiddo, neu os ydych yn meddwl am brynu eiddo, ac rydych yn bwriadu ei drawsnewid i fod yn Dŷ Amlbreswyl rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol.

Cysylltu ag Opsiynau Tai ar-lein

Cysylltwch â ni os oes angen help arnoch i aros yn eich llety presennol neu os oes angen help arnoch i ddod o hyd i rywle newydd i fyw.

Ymholiadau cyffredinol am dai

Rhowch wybod i ni a oes gennych ymholiad penodol am dai neu os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth neu'r cyswllt rydych chi'n chwilio amdano ar-lein.

Llogi cerbyd symudedd

I osgoi cael eich siomi, gallwch logi cerbyd symudedd gennym ymlaen llaw.

Gwneud cais am gopi o'ch rhif PCN

Os ydych chi wedi derbyn dirwy parcio ond wedi colli'ch tocyn, gallwch wneud cais am gopi o'ch rhif PCN.

Cyflwyno diwygiad i gais cynllunio

Rhowch wybod i ni os gwnaed unrhyw newidiadau i'ch cais cyfredol ers i chi ei gyflwyno (mae hyn yn berthnasol i geisiadau arferol, gan gynnwys: ceisiadau llawn, amlinellol, hysbysebion, GCC, rhyddhau amodau, amrywio amodau etc).

Cyflwyno diwygiad i gais cynllunio (cais mawr)

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth wedi newid yn eich cais cynllunio cyfredol ers i chi ei gyflwyno (mae hyn yn berthnasol i ddatblygiadau cynllunio mawr).

Cysylltu â gwastraff masnachol

Os oes gennych gwestiynau am ein gwasanaeth gwastraff masnachol ac ailgylchu, cysylltwch â ni.

Atgyfeiriad Cynllun Datblygu Unigol

Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn gynllun sy'n cael ei greu a'i gytuno gan y bobl hynny sy'n ymwneud agosaf â chefnogi plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys rheini / gofalwyr.

Cymorth i fynd ar-lein

Angen cymorth i fynd ar-lein? Gwnewch gais am alwad ac fe allwn ni eich cynorthwyo chi.

Cais am gymorth teithio

Gwneud cais ar-lein am gymorth teithio i blentyn neu brson ifanc.

Newid manylion busnes siopwch yn lleol

Cwblhewch y ffurflen hon os oes unrhyw fanylion busnes ar y dudalen Siopwch yn Lleol yn anghywir.

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - ffurflen ar-lein

Gellir defnyddio'r ffurflen ar-lein hon i wneud cais am asesiad o angen gofal cymdeithasol i oedolion.

Mynegai Anabledd Plant - cofrestru ar-lein

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gofrestru gyda'r Mynegai Plant Anabl Abertawe.

Ydych chi'n chwilio am agenda, llythyr neu adroddiad?

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i'n gwefan cynghorwyr, cyfarfodydd ac agendâu. Mae holl agendâu ac adroddiadau'r cyfarfodydd a phwyllgorau ar gael ar y dudalen hon, gan gynnwys pob pwyllgor Craffu.

Atgyfeiriad gan ymarferydd/ gweithiwr proffesiynol - Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

Cais gan ymarferydd am wybodaeth, cyngor a chymorth gan y Canolfannau Cymorth Cynnar neu'r Pwynt Cyswllt Unigol yng Nghyngor Abertawe.

Panel rhanddeiliaid hawliau dynol

Hoffech chi fod yn rhan o'n panel rhanddeiliaid? Cofrestrwch yma i'n helpu i lunio'r agenda hawliau dynol yn Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2024