Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoedd Llesol Abertawe - Gogledd

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Y Cocyd, Cwmbwrla, Glandŵr, Mynyddbach, Penderi.

Canolfan Gymunedol y Clâs

Heol Longview, y Clâs, Abertawe, SA6 7HH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.

Cwtsh Cymunedol Teilo Sant - Ffydd mewn Teuluoedd, Portmead

Yn cefnogi plant, teuluoedd ac unigolion yng nghanol eu cymuned.

Cwtsh Cymunedol y Clâs - Ffydd mewn Teuluoedd

Mae'n darparu cyfleoedd i blant a'u teuluoedd gael hwyl, rhoi cynnig ar bethau newydd, gwneud ffrindiau, dysgu, tyfu a datblygu mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Ogof Adullam yn Eglwys Fethodistaidd Pen-lan

Canolfan galw heibio sy'n cynnig lloches i unigolion sy'n profi digartrefedd a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â darparu pwynt cyswllt ar gyfer y rheini sy'n gadael y carchar a cheiswyr lloches. Gweinir prydau poeth a lluniaeth hefyd.

Stadiwm Swansea.com - Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Fel elusen gofrestredig Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, mae Sefydliad yr Elyrch yn ganolog i'r clwb ac yn ganolog i'n cymunedau lleol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Ionawr 2025