Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoedd Llesol Abertawe

Lleoedd yn Abertawe sy'n cynnig croeso cynnes i breswylwyr.

Rydym wedi rhestru'r lleoliadau yn Abertawe a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ymweld â nhw. Ni fydd angen i chi roi rheswm dros eich ymweliad, dewch i fwynhau'r hyn sydd ar gynnig mewn lle diogel, cynnes a chroesawgar.

Cofiwch wirio'r hyn sydd ar gynnig yn eich archfarchnadoedd a'ch caffis lleol hefyd.

Gallwch ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd ar gyfer sefydliadau sy'n darparu bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Cyngor Abertawe'n darparu'r wybodaeth a restrir yng nghyfeiriadur 'Lleoedd Llesol Abertawe' at ddibenion gwybodaeth yn unig, i roi gwybod i'r cyhoedd am leoedd sydd ar agor y gaeaf hwn. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid yw Cyngor Abertawe'n gwneud unrhyw warant, yn ddatganedig neu'n ymhlyg, am gyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd nac argaeledd yr wybodaeth yn y cyfeiriadur hwn, y nwyddau neu'r gwasanaethau yn 'Lleoedd Llesol Abertawe'. Rydych yn mynd i unrhyw 'Leoedd Llesol Abertawe' sy'n cael eu rheoli neu eu gweithredu gan unrhyw sefydliad arall ar eich menter eich hun.

Sesiynau gweithgareddau

Yn ogystal â'r lleoliadau Lleoedd Llesol Abertawe a restrir isod (y mae rhai ohonynt yn cynnig sesiynau gweithgareddau), cymerwch gip ar y gweithgareddau a'r cyfleoedd cymdeithasu canlynol sydd ar gael ar gyfer pobl o bob oed, y mae llawer ohonynt am ddim:

Gweithgareddau heneiddio'n dda Gweithgareddau heneiddio'n dda

Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd

Rhestr o Leoedd Llesol Abertawe a'r hyn sydd ar gynnig

Map o Leoedd Llesol Abertawe

Map sy'n dangos lleoliadau holl Leoedd Llesol Abertawe.

Amgueddfa Abertawe

Yr amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes diwydiannol, morol a diwylliannol Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.

Byddin yr Iachawdwriaeth - Abertawe

Eglwys Gristnogol ac elusen yng nghanol y ddinas.

Byddin yr Iachawdwriaeth - Treforys

Eglwys ac elusen Gristnogol yn Nhreforys sy'n darparu banc bwyd a Lle Llesol Abertawe croesawgar.

CETMA Abertawe

Mae CETMA (Ymgysylltu â'r Gymuned, Technoleg, y Cyfryngau a'r Celfyddydau) yn fenter gymdeithasol sy'n darparu cyfleoedd ymgysylltu cymdeithasol, hyfforddiant, iechyd a lles drwy ddatblygu prosiectau cynaliadwy unigryw ar gyfer unigolion, sefydliadau a busnesau. Maent hefyd yn darparu pecynnau bwyd mewn argyfwng.

Caffi Cynefin

Mae Caffi Cynefin yn ceisio dod â phobl at ei gilydd gan hyrwyddo pendantrwydd, caredigrwydd ac ymdeimlad o berthyn.

Canolfan Dylan Thomas

Mae Arddangosfa Dylan Thomas yn dathlu Dylan Thomas, bardd enwocaf Abertawe.

Canolfan Gymdeithasol Dyfnant

Mae Canolfan Gymdeithasol Dyfnant yn cael ei rhedeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned.

Canolfan Gymunedol Bôn-y-maen

Heol Bôn-y-maen, Bôn-y-maen Abertawe, SA1 7AW. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol Llandeilo Ferwallt

Mae'r ganolfan gymunedol hon yn gartref i gyfleuster sied gymunedol / Lle Llesol Abertawe cyfeillgar, sy'n cynnig y cyfle i ddysgu sgiliau a chwrdd â phobl eraill yn y gymuned.

Canolfan Gymunedol Mayhill

Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe, SA1 6TD. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol Ostreme

Canolfan sy'n canolbwyntio ar gelf a chrefft, hanes a theatr yng nghanol y Mwmbwls.

Canolfan Gymunedol Parc Brynmill

Parc Brynmill, Brynmill, Abertawe SA2 0JQ. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol Port Tennant

Heol Wern Fawr, Port Tennant, Abertawe, SA1 8LQ. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol Trallwn

Heol Bethel, Trallwn, Abertawe, SA7 9QP. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol Waun Wen a Brynmelyn

Teras y Parc, Brynmelyn, Abertawe, SA1 2BY. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol Waunarlwydd

Heol Victoria, Waunarlwydd, Abertawe, SA5 4SY. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol West Cross

Rhodfa Linden, West Cross, Abertawe, SA3 5LE. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol y Clâs

Heol Longview, y Clâs, Abertawe, SA6 7HH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Les Abertawe

Cwmni buddiannau cymunedol brwdfrydig ac arloesol sy'n credu bod pawb yn haeddu'r cyfle i ddod o hyd i gysur mewn lle tawel, llonydd.

Canolfan y Bont

Canolfan gymunedol sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd a chefnogaeth i gymuned Pontarddulais. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.

Canolfan y Ffenics

Y ganolfan gymunedol ar gyfer Townhill, Mayhill a'r Gors. Gwneud y bryn yn lle cyfoethocach, iachach, hapusach a mwy diogel i fyw ynddo - siop dan yr unto ar gyfer datblygu ein cymuned leol. Cynigir cymorth bwyd trwy'r siop gymunedol.

Cefnogaeth Iechyd Meddwl i gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol

Hwb cymunedol i bawb, gan gynnwys cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sy'n newydd i Abertawe.

Clwb Llewod Gŵyr a Llwchwr

Mae Clwb Rhyngwladol y Llewod yn un o'r sefydliadau gwasanaeth mwyaf ledled y byd. Mae pob ceiniog a godir yn mynd i elusen. Mae'r gangen leol yn glwb bach sy'n helpu nifer o achosion da.

Cwtch Craigfelen

Lle yng nghalon y gymuned, sy'n cael ei redeg gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Craigfelen.

Cwtsh Cymunedol Teilo Sant - Ffydd mewn Teuluoedd, Portmead

Yn cefnogi plant, teuluoedd ac unigolion yng nghanol eu cymuned.

Cwtsh Cymunedol y Clâs - Ffydd mewn Teuluoedd

Mae'n darparu cyfleoedd i blant a'u teuluoedd gael hwyl, rhoi cynnig ar bethau newydd, gwneud ffrindiau, dysgu, tyfu a datblygu mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru

Mae'r Gymdeithas Tsienieaidd yng Nghymru (CIWA) yn sefydliad elusennol sy'n ceisio darparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieneaidd ethnig yng Nghymru.

Eglwys Adfentydd y Seithfed Dydd Abertawe

Eglwys Adfentydd y Seithfed Dydd ar Gower Road, Sgeti.

Eglwys Bedyddwyr Ebeneser

Eglwys Bedyddwyr efengylaidd annibynnol sy'n cynnwys unigolion o bob oed o lawer o wahanol gefndiroedd a gwledydd.

Eglwys Dewi Sant, Casllwchwr

Cynhelir un o Leoedd Llesol Abertawe yn yr eglwys hon yng Nghasllwchwr.

Eglwys Dewi Sant, Treforys

Eglwys Dewi Sant yw Eglwys Anglicanaidd Treforys, sy'n cynnig croeso i bawb.

Eglwys Gymunedol Bont Elim

Mae Eglwys Gymunedol Bont Elim yn estyn croeso cynnes i bawb, waeth beth bynnag fo'ch cefndir, o ble rydych chi'n dod a beth bynnag rydych chi'n ei gredu. Mae modd rhannu bwyd yn yr eglwys hefyd.

Eglwys Gymunedol Penyrheol

Eglwys gymunedol leol lle mae croeso cynnes i bawb.

Eglwys Gymunedol Sgeti

Eglwys gymunedol yn ardal Tŷ Coch sy'n darparu rhywbeth i bob grŵp oedran, gyda chyfle i gwrdd â phobl o bob grŵp cymdeithasol.

Eglwys Linden

Fe'i lleolir yn West Cross, ac mae'r eglwys yn gartref i Brosiect Cymunedol Red, sy'n cynnal amrywiaeth o brosiectau i bobl ar draws y ddinas. Mae hefyd yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe croesawgar.

Eglwys Parklands

Fe'i lleolir yn Sgeti ac mae'r eglwys yn gartref i Fanc Bwyd Sgeti. Mae hefyd yn Lle Llesol Abertawe.

Eglwys Sant Ioan

Mae'r eglwys hon yn Nhregŵyr ac mae'n cynnig croeso cynnes i bawb.

Eglwys St Catherine, Gorseinon

Mae'r eglwys, a leolir yn ardal Gorseinon, yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe.

Eglwys St Thomas

Eglwys yn ardal St Thomas yn nwyrain y ddinas. Mae'n cynnig pryd cymunedol wythnosol a Lle Llesol Abertawe croesawgar.

Eglwys y Bedyddwyr Pantygwydr

Eglwys agored a chyfeillgar â chymysgedd gwych o oedrannau, yng nghymuned Uplands a Brynmill.

Eglwys y Bedyddwyr y Mwmbwls

Eglwys gyfeillgar ar gornel Newton Road a Langland Road yn y Mwmbwls.

Eglwys y Santes Fair, Canol Abertawe

Eglwys yng nghanol y ddinas. Mae croeso i bawb. Mae'r eglwys hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe ac mae'n cynnig prydau'n wythnosol.

Fferm Gymunedol Abertawe

Fferm Gymunedol Abertawe yw'r unig fferm ddinesig yng Nghymru, a chaiff ei chynnal gan y gymuned, i'r gymuned. Mae pantri cymunedol bach hefyd ar gael i'r rheini mewn angen.

Goleudy

Elusen tai sy'n helpu i atal digartrefedd, darparu tai a chreu cyfleoedd. Mae hefyd yn darparu oergell gymunedol ym Marina Abertawe.

Hub on the Hill

Mae Hub on the Hill yn lle clyd a arweinir gan y gymuned sydd â chalon fawr.

Lolfa'r Pabïau

Teras Golwg y Parc, Sgeti, Abertawe, SA2 9AR. Mae'r ganolfan gymunedol hon hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe.

MAD Abertawe (Cerddoriaeth, Celf, Digidol)

Maent yn darparu man diogel, cynhwysol i bobl gael mynediad at eiriolaeth, celfyddydau creadigol, technoleg ddigidol, addysg, cymorth cyflogaeth, hyfforddiant, gweithgareddau ymgyrchu a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar degwch a pherthyn.

Marchnad Abertawe

Marchnad Abertawe yw'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Mae'n farchnad arobryn, hanesyddol sy'n cynnig profiad siopa unigryw i ymwelwyr a phreswylwyr.

Memoirs

Caffi croesawgar ym mhentref ymddeol Campion Gardens.

Men's Shed Llansamlet

Mae croeso i unrhyw un ddod i gael paned o de neu goffi a bisgedi a sgwrs. Fel Men's Shed rydym yn gwneud pob math o waith coed a gwaith crefft.

Men's Shed Victoria Saints

Mae Men's Shed Victoria Saints yn darparu lle cynnes a chroesawgar i ddynion gymdeithasu a mwynhau sgyrsiau da.

Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti

Mae Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti yn cynnig cymysgedd o leoedd modern a thraddodiadol wedi'u clustnodi ar gyfer gweithgareddau Islamaidd a chymdeithasol.

Neuadd Christchurch, Abertawe

Mae Christchurch, yng nghanol Abertawe, yn eglwys gyfeillgar sy'n tyfu. Rhoddir croeso cynnes i bawb. Mae hefyd yn gartref i Hwb Cyn-filwyr Abertawe.

Neuadd Les Casllwchwr

Cynhelir y Neuadd Les gan Gyngor Tref Casllwchwr ac mae'n lleoliad poblogaidd iawn ar gyfer ystod eang o weithgareddau.

Ogof Adullam yn Eglwys Fethodistaidd Pen-lan

Canolfan galw heibio sy'n cynnig lloches i unigolion sy'n profi digartrefedd a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â darparu pwynt cyswllt ar gyfer y rheini sy'n gadael y carchar a cheiswyr lloches. Gweinir prydau poeth a lluniaeth hefyd.

Oriel Gelf Glynn Vivian

Oriel leol yw Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe sy'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Abertawe.

Parc Coed Gwilym

Mae'r parc yng ngogledd-ddwyrain y sir ac yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae ganddo amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau yn ogystal â llwybrau cerdded hardd a gardd flodau.

Parc Pontlliw

Mae'r parc hwn i'r gogledd o'r sir ym mhentref Pontlliw.

Prosiect Datblygu Congolaidd

Mae Prosiect Datblygu Congolaidd yn cynorthwyo newydd-ddyfodiaid yn Abertawe - gan hwyluso eu proses bontio a hwyluso'r broses o'u hintegreiddio i fywyd newydd.

Stadiwm Swansea.com - Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Fel elusen gofrestredig Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, mae Sefydliad yr Elyrch yn ganolog i'r clwb ac yn ganolog i'n cymunedau lleol.

The Old Blacksmiths - Men's Shed Clydach

Croeso cynnes i bawb. Gallwch gymryd rhan mewn gwaith coed, garddio, crefftau neu dewch am gwmni a sgwrs.

Tŷ Matthew

Adeilad cynnes a chroesawgar yng nghanol Abertawe yw Tŷ Matthew, ac mae'n hygyrch i'r rheini sy'n ddigartref neu'n agored i niwed yn Abertawe. Darperir prydau twym ar gyfer y rheini sydd mewn angen.

Y Ganolfan Ddinesig

Mae'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.

Y Ganolfan Ddinesig

Mae'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Chwefror 2025