Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoedd Llesol Abertawe - Gŵyr

Mae'r ardal hon yn cynnwys y wardiau canlynol: Llandeilo Ferwallt, Gŵyr, Y Mwmbwls, Penclawdd, Pennard, West Cross.

Bookshop Café Lounge (Eglwys Sant Pedr)

Neuadd Gymunedol Bentref Newton, Caswell Road, Newton SA3 4SD

https://www.facebook.com/people/Bookshop-Cafe-Lounge/100063641555751/

newtonstpeter@hotmail.com
01792 367999

11.00am - 3.00pm bob dydd

Caffi gyda lolfa a siop lyfrau ail law sy'n rhoi croeso cynnes (nid oes angen i chi brynu unrhyw beth).

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Cyfleusterau newid cewynnau
  • Mannau parcio ceir
  • Parcio i'r anabl
  • Man awyr agored
  • Mae lluniaeth ar gael
    • te, coffi, teisennau a diodydd ysgafn
  • Dŵr yfed ar gael
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau

 

Caffi Cynefin

Ysgol Gynradd Llanrhidian, Llanrhidian SA3 1EH

www.llanrhidian.swansea.sch.uk/caffi-cynefin/

caswelld5@hwbmail.net
01792 390181

Rydym ar agor bob dydd Iau yn ystod y tymor, o 9.00am i 11.45am.

Mae Caffi Cynefin yn ceisio dod â phobl at ei gilydd gan hyrwyddo pendantrwydd, caredigrwydd ac ymdeimlad o berthyn. Mae'r caffi'n cael ei redeg gan ein disgyblion gwych, sy'n cael profiad o weithio yn y 'byd gwaith go iawn'. Dewch i ymuno â ni! 

Mae Caffi Cynefin yn fan lle gall pob cenhedlaeth ddod at ei gilydd i ymlacio, mwynhau a myfyrio.  Dydyn ni ddim yn codi tâl am ein lluniaeth ond rydym yn dibynnu ar roddion er mwyn i'r caffi hwn fod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Os hoffech wirfoddoli neu roi rhodd, cysylltwch â'r ysgol.

  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Mae lluniaeth ar gael
    • rydym yn gweini te, coffi, diod ffrwythau ac amrywiaeth o deisennau, cramwyth a chacennau te, ac mae dewis iach wythnosol ar gael (ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis cael teisen!) Does dim angen talu!
    • sgôr hylendid bwyd 5 seren
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • mae ein Cydlynydd Ardal Leol a'r Heddlu lleol yn aml yn galw heibio i gynnig cymorth a chyngor

 

Memoirs

Uned 1, Campion Gardens Village, Comin Clun SA3 3JB

www.campiongardensretirementvillage.co.uk/willow-court/information/

management.services@willowcourt.co.uk
01792 235200

Yn ddyddiol, 9.00am - 4.00pm 

Croeso cynnes gyda WiFi am ddim a digon o leoedd i eistedd. Mae ein preswylwyr yn groesawgar iawn ac maent yn mwynhau sgwrsio a rhannu straeon.

  • WiFi am ddim
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Mannau parcio ceir
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae gennym fwyty/siop goffi a gallwn gynnig lluniaeth am brisiau rhesymol iawn, gan gynnwys te, coffi a diodydd meddal

 

Eglwys y Bedyddwyr y Mwmbwls

Newton Road, Y Mwmbwls SA3 4BN

www.mumblesbaptist.org.uk
https://www.facebook.com/people/Mumbles-Baptist-Church/100087392871956/

contact@mumblesbaptist.org.uk

Bore Llun, 9.15am - 11.00am: Grŵp Chatterbox i fabanod, plant bach a'u gofalwyr
Bore Gwener, 9.15am - 11.00am: Grŵp Chatterbox i fabanod, plant bach a'u gofalwyr
2il a 4ydd dydd Mercher y mis, 10.00am - 12.00pm: Boreau crefft. Dewch â'ch offer gwau, crosio neu grefft arall eich hun neu ymunwch â ni am baned a sgwrs.

Dim plant heb gwmni oedolyn.

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Cyfleusterau newid cewynnau
  • Mannau parcio ceir
  • Teganau i blant
  • Mae lluniaeth ar gael
    • te, coffi, bisgedi/teisennau a dŵr am ddim
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain

 

Canolfan Gymunedol Ostreme - Cyngor Cymuned y Mwmbwls

Castle Avenue, Y Mwmbwls SA3 4BA

mumbles.gov.uk
https://www.facebook.com/MumblesCommunityCouncil

rebecca.fogarty@mumbles.gov.uk
07724 437 865

Dydd Mawrth, 12.00pm - 2.00pm

Rydym ar agor ar gyfer coffi gyda ffrindiau - gallwch ddisgwyl croeso cynnes, diod boeth a theisen, ac mae'r cyfan am ddim. Mae cynghorwyr cymuned bob amser yn bresennol felly gallwch drafod unrhyw faterion lleol a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae'r holl luniaeth am ddim - diodydd poeth a theisen
  • Dŵr yfed ar gael
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • mae cynghorwyr cymuned yn bresennol, yn ogystal â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn aml a'r Cydlynydd Ardal Leol. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu gydag unrhyw faterion lleol trwy gysylltu pobl â'r pwynt cyswllt cywir. 

 

Llyfrgell Ystumllwynarth

Lôn Dunns, Y Mwmbwls SA3 4AA

www.abertawe.gov.uk/llyfrgellystumllwynarth
01792 368380

Dydd Llun: 9.00am - 6.00pm
Dydd Mawrth: 9.00am - 6.00pm
Dydd Mercher: 9.00am - 6.00pm
Dydd Iau: 9.00am - 6.00pm
Dydd Gwener: 9.00am - 6.00pm
Dydd Sadwrn: 10.00am - 4.00pm

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Defnydd am ddim o gyfrifiaduron / ddyfeisiau
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Cyfleusterau newid cewynnau
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau
  • Papurau newydd a chylchgronau
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • bydd staff yn chwilio am wybodaeth i gwsmeriaid, unrhyw beth o amserau bysus i lyfrau newydd
  • Cynhyrchion mislif am ddim
  • Digwyddiadau am ddim yn Llyfrgell Ystumllwynarth

 

Canolfan Gymunedol Penclawdd

2 Victoria Road, Pen-clawdd SA4 3FU

www.facebook.com/PenclawddCommunityCentre

rjgegeshidze@aol.com
01792 850162

Rydym yn cwrdd bob dydd Mawrth, 10.00am - 11.30am.

Ymunwch â ni am baned poeth, darn o dost a sgwrs! Mae gemau, cardiau a dominos ar gael neu dewch â'ch crefft gyda chi.

  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Mannau parcio ceir
  • Parcio i'r anabl
  • Man awyr agored
  • Mae lluniaeth ar gael
    • diodydd poeth, tost a bisgedi
  • Dŵr yfed ar gael
  • Banc bwyd / cynllun rhannu bwyd
    • gallwn eich cyfeirio at y banc bwyd fel y bo angen a chaiff y bwyd ei ddosbarthu i'ch cartref
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau

 

Llyfrgell Pennard

Heol Pennard, Southgate, Pennard SA3 2AD

www.abertawe.gov.uk/llyfrgellpennard
01792 233277

Dydd Llun: 9.00am - 1.00pm a 1.30pm - 5.30pm
Dydd Mawrth: Ar gau
Dydd Mercher: 9.00am - 1.00pm a 1.30pm - 5.30pm
Dydd Iau: 9.00am - 12.00pm
Dydd Gwener: 9.00am - 1.00pm a 1.30pm - 5.30pm
Dydd Sadwrn: 10.00am - 1.00pm

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Defnydd am ddim o gyfrifiaduron / ddyfeisiau
  • Mannau parcio ceir
  • Parcio i'r anabl
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau
  • Papurau newydd a chylchgronau
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • budd-daliadau, rhifau cyswllt, gwybodaeth gymunedol
  • Cynhyrchion mislif am ddim
  • Digwyddiadau am ddim yn Llyfrgell Pennard

 

Prosiect Cymunedol 'Red' - rhan o Eglwys Linden

Canolfan Gristnogol Linden, Elmgrove Road, West Cross SA3 5LD

www.redcommunityproject.org.uk
www.facebook.com/redcommunityproject

info@redcommunityproject.org.uk
01792 403777

Dydd Llun, 9.30am - 11.30am rhieni a phlant bach; 12.30pm - 2.30pm Lle cynnes (gyda chawl am ddim), Rhannu Bwyd a Banc Bwyd Abertawe; a 5.30pm - 7.00pm clwb ieuenctid blwyddyn 6 i flwyddyn 9 (yn ystod y tymor yn unig)
Dydd Mawrth, 10.00am - 11.00am Ffitrwydd Cymunedol
Dydd Mercher, 11.00am - 12.30pm Clwb brecinio;
Dydd Iau, 12.00pm - 2.00pm Pryd o Fwyd Cymunedol (dydd Iau cyntaf y mis)
Dydd Gwener, 11.00am - 3.00pm Mae'r Côr Dementia ar agor i unrhyw un sy'n mwynhau canu ac sy'n amyneddgar gyda phobl sy'n byw gyda dementia

Bydd y gwahanol weithgareddau a gynhelir ar wahanol amserau'n fwy addas i grwpiau oedran gwahanol, ond mae croeso cynnes i bawb ar unrhyw adeg.

Mae ioga am ddim ond rhowch wybod i ni drwy Facebook eich bod chi'n dod.

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Cyfleusterau newid cewynnau
  • Mannau parcio ceir
  • Parcio i'r anabl
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae diodydd poeth am ddim ar gael yn ystod y rhan fwyaf o weithgareddau
    • brecwast wedi'i goginio yw'r brecinio
    • mae'r prydau cymunedol misol yn cynnwys prif gwrs wedi'i goginio a phwdin
    • awgrymir cyfraniad ar gyfer y grŵp plant bach ond does dim disgwyl i chi wneud hyn
  • Dŵr yfed ar gael
  • Cynhyrchion mislif am ddim

 

Canolfan Gymunedol West Cross - Cyngor Cymuned y Mwmbwls

Linden Avenue, West Cross SA3 5LE

phil.keeton@mumbles.gov.uk
07724 437 865

Yr Hwb Cynnes (Amser te dydd Gwener gyda ffrindiau), ar agor o 4.30pm i 7.00pm ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis.

Yn ogystal, cynhelir Cwis Cymunedol (mynediad am ddim) ar drydydd dydd Gwener y mis o 7.30pm tan 10.00pm.

Mae'r ganolfan gymunedol ar agor i ddarparu croeso cynnes, cawl twym a rholiau a diodydd a lluniaeth. Mae pobl gyfeillgar sy'n hapus i gael sgwrs, teganau i blant a mynediad at WiFi ar gyfer y rheini y mae angen iddynt wneud gwaith neu waith cartref. Cynhelir gweithgareddau ar rai wythnosau fel crefftau, gemau bwrdd a mwy. Ar drydedd nos Wener y mis rydym yn agor i'r gymuned ar gyfer Cwis Cymunedol - mae croeso i bawb, am ddim!

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Toiledau hygyrch
  • Mannau parcio ceir
  • Parcio i'r anabl
  • Teganau i blant
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael
    • mae'r holl luniaeth am ddim - diodydd poeth a byrbrydau
  • Dŵr yfed ar gael
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • bydd cynghorwyr dinas a chynghorwyr cymuned yn bresennol a gallant gynnig cefnogaeth o ran mynd i'r afael â materion lleol. Gallwn hefyd gysylltu pobl â'r pwynt cyswllt cywir. 

 


Mae Cyngor Abertawe'n darparu'r wybodaeth a restrir yng nghyfeiriadur 'Lleoedd Llesol Abertawe' at ddibenion gwybodaeth yn unig, i roi gwybod i'r cyhoedd am leoedd sydd ar agor y gaeaf hwn. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid yw Cyngor Abertawe'n gwneud unrhyw warant, yn ddatganedig neu'n ymhlyg, am gyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd nac argaeledd yr wybodaeth yn y cyfeiriadur hwn, y nwyddau neu'r gwasanaethau yn 'Lleoedd Llesol Abertawe'. Rydych yn mynd i unrhyw 'Leoedd Llesol Abertawe' sy'n cael eu rheoli neu eu gweithredu gan unrhyw sefydliad arall ar eich menter eich hun.

Close Dewis iaith