Rhaglen Datblygu Gwledig (RDG)
Cefnogodd fusnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru rhwng 2014 a 2023.
Roedd y rhaglen yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Bu'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cefnogi Cymru wledig i:
- Cynyddu cynhyrchiant amrywiaeth ac effeithlonrwydd ffermio a busnesau coedwigaeth yng Nghymru i wella eu cystadleugarwch a'u gwydnwch a lleihau eu dibyniaeth ar gymorthdaliadau.
- Gwella amgylchedd Cymru, annog arferion rheoli tir cynaliadwy, rheolaeth gynaliadwy o'n hadnoddau naturiol a gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru.
- Hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru ac annog mwy o ddatblygiadau lleol wedi'u harwain gan gymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth gyfredol a chynhwysfawr am y Rhaglen Datblygu Gwledig a'i llinynnau gwaith amryw - Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Mae Rhwydwaith Gweldig Cymru (Yn agor ffenestr newydd) yn siop-un-stop ar gyfer newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth am ddatblygu gwledig. Mae o gymorth i bobl feithrin cysylltiadau â phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau eraill ar draws Cymru a'r tu hwnt.
Yn Abertawe, cyflwynodd y RhDG y rhaglen LEADER, a arweinir gan y gymuned, yn 8 ward cwbl gymwys Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr; a chefnogir y rhaglen yn rhannol yn nhair ward gwasanaeth Clydach, Gorseinon a Thre-gŵyr.
Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe
Er mwyn cefnogi rhoi'r RhDG ar waith yn ein wardiau gwledig, sefydlodd RhDG Abertawe grŵp gweithredu lleol (GGLl) sy'n cynnwys pobl o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.
Cyflwynodd y GGLl ei Strategaeth Rhaglen Datblygu Gwledig LEADER 2014-2020 (PDF, 2 MB) i Lywodraeth Cymru a bu'n llwyddiannus wrth sicrhau cyllid o raglen LEADER RhDG y mae bellach yn ei reoli.
Roedd Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe wedi adfywio'i ddogfen lywodraethu, sef y 'Strategaeth Gyflawni Leol' (SGL) i gynnwys ymagwedd newydd at y ffordd yr oedd gwaith yn cael ei gyflawni yn ein cymunedau gwledig. Ymgorfforodd y SGL egwyddorion 'Un Blaned' i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy sicrhau bod cynaladwyedd a chadernid cymunedol yn elfennau hanfodol o'n gwaith.
Dyma oedd y tro cyntaf i Grŵp Gweithredu Lleol unrhyw awdurdod lleol ddefnyddio'r ymagwedd 'Un Blaned' yng Nghymru i ddylanwadu ar strategaeth a phenderfyniadau ynghylch grantiau. Roedd yn ffordd newydd o weithio ac o feddwl, a oedd yn mynnu i'r rheini a ddymunai bartneru â Phartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe weithio a meddwl yn yr un ffordd. Roedd yn cyd-fynd â'i chydnabyddiaeth o gyhoeddiad Cyngor Abertawe sef bod argyfwng hinsawdd a bod angen dybryd i bawb newid o'r ymagwedd 'busnes fel arfer' i ffordd o wneud pethau i ddiogelu bywydau cenedlaethau'r dyfodol.
Gweledigaeth PDG Abertawe oedd dyfodol 'Un Blaned' ar gyfer Abertawe wledig a oedd yn:
- cynyddu cadernid a hunanddibyniaeth gymunedol trwy gynhyrchu mwy o'r hyn y mae'n ei ddefnyddio
- gwneud hyn mewn ffordd a oedd yn llai niweidiol i iechyd pobl a'r amgylchedd
- cefnogi adnoddau naturiol a bioamrywiaeth fwy toreithiog
- annog rhoi terfyn ar wastraff diangen
- creu rhagor o swyddi lleol ac ystyrlon
- rhoi gwell amddiffyniad rhag unrhyw darfu posib ar yr amgylchedd, masnach a'r economi yng ngweddill y byd
- lleihau ôl-troed ecolegol a charbon yr ardal
Dyma oedd y 3 nod strategol a gwmpaswyd yn yr SGL:
- Gwella lles a chydnerthedd ecosystemau trwy gynnal adnoddau naturiol a diwylliannol ac ychwanegu gwerth atynt
- Datblygu cludiant cynaliadwy a mentrau ynni sy'n lleihau allyriadau ac sy'n lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd
- Cryfhau hunangynhaliaeth yr economi leol a chefnogi cymunedau gweithredol, cydnerth a chysylltiedig