Mapiau ward
Mapiau o wardiau ac ardaloedd daearyddol gweinyddol yn Abertawe.
Ar hyn o bryd mae Cymru'n cynnwys 22 awdurdod unedol neu leol, sydd yn eu tro wedi'u rhannu'n wardiau etholiadol a chymunedau. Wardiau Etholiadol yw'r blociau adeiladu allweddol ar gyfer ardaloedd daearyddol gweinyddol lleol yng Nghymru, a'r unedau a ddefnyddir i ethol cynghorwyr llywodraeth leol.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys map ward cyffredinol (PDF) [4MB] o ardal Dinas a Sir Abertawe a mapiau unigol o bob un o 32 o wardiau etholiadol Abertawe - ar gael i'w gweld trwy'r adran Lawrlwytho isod. Mae'r mapiau ar y dudalen hon yn adlewyrchu'r wardiau presennol yn Abertawe.
Newidiodd y ffiniau wardiau yn Abertawe yn dilyn yr adolygiad diweddaraf gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a'r Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. I grynhoi, roedd y newidiadau'n ymwneud â'r ardaloedd canlynol:
- Gŵyr a Phennard - newid ffin
- 'Y Mwmbwls' (ward newydd sy'n cyfuno hen wardiau Newton ac Ystumllwynarth) a newid ffin West Cross / y Mwmbwls
- 'Dyfnant a Chilâ' (ward newydd sy'n cyfuno tair hen ward - Dyfnant, Gogledd Cilâ, De Cilâ)
- Y Cocyd (wedi newid) a 'Waunarlwydd' (ward newydd)
- 'Llwchwr' (ward newydd sy'n cyfuno tair hen ward - Pontybrenin, Llwchwr Isaf, Llwchwr Uchaf)
- 'Gorseinon a Phenyrheol' - yn cyfuno dwy hen ward
- Ardal y gogledd - newidiadau i wardiau Clydach, Llangyfelach a Phontarddulais (yn ymgyfuno hen ward Mawr) a ward newydd 'Pontlliw a Thircoed'
- Y ddinas / ardal y de-ddwyrain - newidiadau i wardiau'r Castell a St Thomas a ward newydd 'y Glannau'.
Mae ein proffiliau wardiau hefyd ar gael. Mae'r rhain yn dod ag ystod o ystadegau allweddol, mapiau a gwybodaeth arall at ei gilydd am yr holl wardiau etholiadol yn Abertawe.
Ardaloedd daearyddol gweinyddol eraill
Etholaethau seneddol yw'r ardaloedd a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol (ASau) i Senedd y DU yn Llundain, ac Aelodau'r Senedd (ASau) i'r Senedd (Senedd Cymru) yng Nghaerdydd. Ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn 2019, roedd 650 o etholaethau, yr oedd 40 ohonynt yng Nghymru, a thair yn ardal dinas a sir Abertawe - Gŵyr, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe. Ymladdwyd etholiad diweddaraf Senedd Cymru (2021) ar gyfer yr un 40 o ardaloedd etholaethol yng Nghymru.
Fodd bynnag, bydd ffiniau ardaloedd etholaethau seneddol y DU (AESau) yn newid yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ym mis Gorffennaf 2024, gyda chyfanswm o 32 o ardaloedd yng Nghymru. Yn ardal Abertawe, bydd y newidiadau hyn yn creu'r etholaethau newydd neu'r rhai sydd wedi'u newid a restrir isod. Mae delweddau map sy'n dangos ffiniau'r ardaloedd newydd hyn a sut maent yn perthyn i hen ardaloedd etholaethol y DU, hefyd ar gael.
- Gŵyr (PDF) [1MB]
- Castell-nedd a Dwyrain Abertawe (PDF) [3MB] (yn rhannol o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot)
- Gorllewin Abertawe (PDF) [3MB]
Ar hyn o bryd nid yw ardaloedd etholaethol y Senedd yn debygol o newid.
Y mathau lleiaf o ardaloedd gweinyddol yng Nghymru yw'r Cymunedau - sy'n gyfwerth â phlwyfi yn Lloegr. Mae cynghorau cymuned neu gynghorau tref yn gweithredu ledled Cymru. Mae 39 o ardaloedd cymunedol sydd wedi'u diffinio yn Abertawe ar hyn o bryd, y mae 24 ohonynt yn weithredol fel cynghorau - yn bennaf y tu allan i'r prif ardal drefol. Mae map cyffredinol o'r ardaloedd hyn yn Abertawe, a chyfres o fapiau unigol, ar gael yma. Fodd bynnag, mae'r ffiniau cymunedol yn destun adolygiad ar hyn o bryd gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch ar ddaearyddiaeth leol neu ffiniau ardal, cysylltwch â ni.
Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.