Gofyn am wasanaeth
Gallwch wneud cais am amrywiaeth o wasanaethau ar-lein.
Trwyddedau parcio
Os oes cilfach barcio i breswyliwr ar eich stryd neu mewn stryd gerllaw, gallwch wneud cais am hawlen ddigidol.
Cyflwyno cais cynllunio
Sut i gyflwyno cais cynllunio.
Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio
Mae gallu ymholi ynghylch materion cynllunio cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ystyried y materion hyn ac, os oes angen, i ddiwygio'r cynigion cyn eu cwblhau a'u cyflwyno fel ceisiadau cynllunio.
Gwneud cais am gyngor ychwanegol neu gyfarfod dilynol ar ôl derbyn ymateb cyn ymgeisio
Os ydych wedi cyflwyno cais cyn ymgeisio ac wedi derbyn ymateb ond hoffech siarad â rhywun am eich datblygiad, yna gallwch ofyn am gyfarfod dilynol.
Gwneud cais am dai cyngor
Bydd rhaid i chi gyflwyno cais i ymuno â'n cofrestr anghenion tai.
Copi o dystysgrifau geni, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth
Gallwch cael tysytysgrifau genedigaethau, marwolaethau, priodasau neu partneriaethau sifil a gafwyd yn Abertawe'n unig.
Mabwysiadwch fainc coffa
Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli gyda'r geiriau o'ch dewis wedi'u hysgythru ar fainc yn y parc y mae'r rhoddwr wedi'i ddewis o'r lleoliadau sydd ar gael.
Mabwysiadu neu roddi coeden
Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli, wedi'i ysgythru a'r geriau o'ch dewis ar y goeden a fabwysiedir neu a roddir o'ch dewis.
Rhandiroedd
Mae 16 o randiroedd a reolir gan gymdeithasau rhandiroedd. Yn ogystal, mae 1 safle ar dir preifat sydd hefyd yn cael ei reoli'n breifat.
Cyflwyno cais i addasu enw neu rif cynllun datblygu wedi'i addasu
Dylid defnyddio'r ffurflen hon os bwriedir newid cynllun datblygu a bod y newidiadau wedi'u cymeradwyo gan yn adran gynllunio. Cynghorir datblygwyr safleoedd mawr i wneud gwaith fesul cam ac ystyried llif disgwyliedig rhifo eiddo.
Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd
Os nad ydych yn credu bod eich sgôr yn adlewyrchu amodau eich busnes bwyd pan gafodd ei archwilio, gallwch apelio yn ei erbyn.
Cais i ffilmio yn Abertawe
Gallwch wneud cais ar-lein i ffilmio yn Abertawe.
Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid.
Cyflwyno cais am drwydded i agor llety i anifeiliaid yn eich cartref
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i agor gwasanaeth lletya/gofalu am gŵn yn eich cartref.
Gwneud cais am drwydded bridiwr cŵn
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded sefydliad bridio cŵn.
Cyflwyno cais am drwydded i gadw sŵ
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt ar gyfer arddangosfa gyhoeddus.
Cyflwyno cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt peryglus
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt peryglus.
Cyflwyno cais am drwydded i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid sy'n perfformio
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i hyfforddi ac arddangos anifeiliaid sy'n perfformio.
Cyflwyno cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid.
Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad marchogaeth
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw sefydliad marchogaeth.
Gwneud cais am le mewn ysgol (Medi 2025)
Gwnewch gais am le mewn ysgol yn Abertawe ar gyfer dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2025.
Gwneud cais am le ysgol yng nghanol y flwyddyn (trosglwyddo o ysgol arall)
Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd.
Trwyddedu perfformio plant
Gofynion trwyddedau perfformio i blant a ffurflenni cais ar gyfer plant sy'n byw yn Abertawe.
Cais am brydau ysgol am ddim
Cwblhewch ffurflen i gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim i'ch plentyn.
Grant Hanfodion Ysgol (Grant Gwisg Ysgol - PDG - Mynediad yn flaenorol)
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo teuluoedd ar incymau isel.
Gostyngiadau ac eithriadau Treth y Cyngor
Darganfod a ydych yn gymwys i dalu llai o Dreth y Cyngor.
Pasbort i Hamdden
Cynllun gostyngiadau gan Gyngor Abertawe i drigolion Abertawe sydd ar incwm isel yw Pasbort i Hamdden (PIH).
Ymuno â Llyfrgelloedd Abertawe
Cofrestrwch i ddod yn aelod am ddim ar-lein neu yn unrhyw un o'n 17 o lyfrgelloedd i ddechrau mwynhau'r ystod lawn o fanteision.
Tocyn tymor meysydd parcio
Gwybodaeth am sut i brynu tocyn tymor ar gyfer maes parcio.
Trwydded safle carafanau a gwersylla
Mae angen ar safle a ddefnyddir ar gyfer carafanau a gwersylla drwydded gennym i weithredu.
Cyflwyno cais am gadarnhau cyfeiriad
Gellir defnyddio'r ffurflen hon i wirio cyfeiriad.
Hysbysiad tŵr oeri
Mae tyrau oeri'n darparu dŵr wedi'i oeri ar gyfer aerdymheru, cynhyrchu, a generadu pŵer trydan.
Tacsis
Mae angen trwydded ar bob gyrrwr a cherbyd hacni a hurio preifat sy'n gweithredu yn Abertawe.
Masnachu ar y stryd
Ystyr masnachu ar y stryd yw gwerthu neu gynnig gwerthu unrhyw eitem ar y stryd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ffordd, llwybr, traeth neu fan arall y mae gan y cyhoedd fynediad rhydd iddo.
Cais am drwydded delwyr metel sgrap
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded safle neu drwydded casglwr.
Elusennau a chodi arian
Mae trwyddedau casglu elusennol yn awdurdodi'r bobl sy'n casglu, yn sicrhau y cesglir yr arian yn ddiogel ac y rhoddir cyfrif am y cyfanswm a gesglir.
Trwyddedu Tai Amlbreswyl
Mae'n rhaid I landlordiaid rhai tai amlbreswyl (HMOs) wneud cais I drwyddedu eu heiddo.
Triniaeth arbennig
Os ydych yn gweithio mewn busnes, sy'n tyllu croen, mae'n rhaid bod trwydded gennych.
Ceisiadau priffyrdd a thrwyddedau
Gwnewch gais am drwyddedau priffordd a stryd, gan gynnwys sgipiau, hysbysfyrddau, adeiladau gordo a chaffis palmant.
Trwyddedau gamblo
Rydym yn gyfrifol am ddyrannu trwyddedau gamblo masnachol. Mae mangreoedd cynnwys casinos, neuaddau bingo, swyddfeydd betio ac arcedau difyrion.
Cofrestru triniwr gwallt
Os oes gennych gwmni trin gwallt neu farbwr, dylech fod wedi cofrestru gyda ni. Mae hyn yn wir am siopau a busnesau teithiol.
Tystysgrifau storio petrolewm
Ceir deddfwriaeth sy'n ymwneud â storio petrol yn ddiogel er mwyn atal tân a ffrwydrad a allai ddigwydd os oes ffynhonnell danio gerllaw.
Trwyddedu a chofrestru tân gwyllt a ffrwydron
Os ydych yn gwerthu neu'n storio tân gwyllt, rhaid i chi gael trwydded gennym. Dylech hefyd storio tân gwyllt yn ddiogel, gwybod eich ymarfer tân ac arddangos arwydd lle caiff tân gwyllt eu cyflenwi neu eu dangos i'w cyflenwi.
Enwi a rhifo strydoedd
Rydym yn gyfrifol am enwi'r holl ffyrdd a strydoedd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Abertawe.
Gosodiadau hyrwyddol
Mae safleoedd gosodiadau a chanfasio ar gael yng nghanol y ddinas mewn ardaloedd siopa i gerddwyr prysur sy'n cynnig cyfleoedd hyrwyddo unigryw.
Cais am drwydded bersonol
Gallwch lenwi'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded bersonol. Mae trwydded bersonol yn galluogi unigolion i werthu, neu awdurdodi gwerthu alcohol o sefydliad â thrwydded mangre.
Gwneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla ar-lein
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla. Nid oes unrhyw ffi i'w thalu ar gyfer y drwydded hon.
Hysbysiad awdurdod dros dro
Yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd, ansolfedd neu newid mewn statws mewnfudo deiliad trwydded mangre, gellir creu hysbysiad awdurdod dros dro fel nad yw'r drwydded mangre yn dod i ben.
Hysbysiad o fân amrywiad ar drwydded mangre
Os hoffech wneud newid bach i'ch trwydded mangre, gallwch wneud cais am fân amrywiad i drwydded mangre. Mae hon yn ffordd ratach a chyflymach o ddiwygio'ch trwydded.
Hysbysiad o fudd mewn mangre
Os oes gennych ddiddordeb cyfreithiol mewn adeilad trwyddedig, gallwch wneud cais i dderbyn hysbysiad am unrhyw faterion trwyddedu sy'n effeithio ar y fangre.
Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro pan rydych yn trefnu digwyddiad ar gyfer llai na 500 o bobl.
Cais i drosglwyddo trwydded mangre
Os yw mangre wedi'i gwerthu neu os yw'n newid perchnogaeth, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r drwydded mangre. Bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded.
Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig
Dim ond deiliad y drwydded mangre all wneud cais i amrywio'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Os bydd Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gadael y tŷ trwyddedig yna rhaid gwneud amrywiad ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i werthu alcohol nes bod y cais cywir wedi'i wneud.Bydd angen i chi gael caniatâd gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig newydd.
Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.
Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd ar gyfer y parth allanol
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd mewn ardal y tu allan i ganol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.
Cais am ffotograffiaeth priodasau
Gwnewch gais i dynnu ffotograffau priodas yn rhai o barciau syfrdanol Abertawe.
Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir y cyngor neu fannau agored yn Abertawe
Dylech gwblhau'r ffurflen hon os ydych am gynnal digwyddiad ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe, neu os hoffech ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe ar gyfer eich gweithgaredd grŵp/dosbarth.
Gwirfoddoli yng Nghastell Ystumllwynarth
Gwnewch gais i fod yn wirfoddolwr yng Nghastell Ystumllwynarth
Cais i gau llwybr dros dro
Rhaid derbyn ceisiadau o leiaf 6 wythnos cyn y dyddiad y mae'n rhaid cau'r llwybr.
Marchnad Abertawe - Ffurflen gais ar gyfer masnachu achlysurol
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am lain masnachu achlysurol ym Marchnad Abertawe.
Rhowch wybod i ni am eich digwyddiad arfaethedig ar dir preifat yn Abertawe
Dylech lenwi'r ffurflen hon er mwyn hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o'ch bwriad i gynnal digwyddiad sy'n cynnwys nifer mawr o bobl ar dir preifat yn Abertawe.
Gwneud cais am chwiliad tir halogedig
Gwneud cais am chwiliad tir halogedig ar gyfer eiddo.
Cronfa Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin ffurflen gais
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am gronfa grantiau bach Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin.
Gwneud cais am fenthyciad perchen-feddianwyr Llywodraeth Cymru
Llenwch y ffurflen hon i wneud cais am y benthyciad.
Hawlen barcio i breswylwyr
Mae hawlenni parcio am ddim a'r bwriad yw eu bod yn galluogi preswylwyr i barcio'n agos at eu heiddo.
Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr
Mae Hawlenni Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr am ddim ac maent yn caniatáu i breswylwyr Abertawe barcio am bris gostyngol ym meysydd parcio'r cyngor.
Cyflwyno cais am le parcio anabl ar y briffordd gyhoeddus
Llenwch y ffurflen gais hon os hoffech i ni ystyried creu lle parcio i berson anabl ar briffordd gyhoeddus.
Hawlen parcio ar gyfer Ymwelwyr ar eu Gwyliau
Gall ymwelwyr sy'n byw y tu allan i Abertawe fel arfer ac a fydd yn aros yn yr ardal ddefnyddio'r hawlen barcio hon i barcio mewn cilfach parcio i breswylwyr pan fyddant yma.
Gwneud cais am gilfachau parcio i breswylwyr
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am gynllun parcio preswylwyr ar gyfer y stryd rydych yn byw arni.
Cofrestru ar gyfer hawlenni parcio i breswylwyr tai amlfeddiannaeth
Os ydych chi'n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth ac ni allwch gael Cyfeirnod Treth y Cyngor gan eich landlord, bydd angen i chi roi gwybod i ni fel y gallwn eich cofrestru ar ein system cyn y gallwch gyflwyno cais am hawlen.
Gwneud cais am farc bar 'H' ar draws mynedfa gerbydau neu gerddwyr
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am farc bar 'H' ar gyfer y stryd rydych yn byw ynddi.
Hepgoriadau parcio
Rhoddir ildiadau hawl i adeiladwyr a masnaschwyr y mae angen mynediad arnynt i lwytho/dadlwytho cerbyd mewn ardaloedd cyfyngedig neu barthau parcio i breswylwyr at ddibenion gwaith.
Gwneud cais am chwiliad iechyd yr amgylchedd
Gwneud cais am chwiliad iechyd yr amgylchedd ar gyfer eiddo
Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du
Os ydych yn ailgylchu'r holl ddeunyddiau ymyl y ffordd a dderbynnir ac yn dal i lenwi mwy na thair sach ddu o wastraff na ellir ei ailgylchu, gallwch wneud cais am eithriad i osod sachau ychwanegol y tu allan.
Gwneud cais am y cynllun ad-daliad cewynnau golchadwy
Newidiwch i ddefnyddio cewynnau golchadwy a byddwn yn rhoi hyd at £100 i chi tuag at y gost!
Gwneud cais am hawlen fan i ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff cartref
Bydd angen i chi ddarparu dogfen gofrestru V5 wreiddiol, a phrawf cyfatebol o'ch cyfeiriad yn Ninas a Sir Abertawe e.e. bil cyfleustodau neu fil ar gyfer Treth y Cyngor diweddar, a llun o'r cerbyd wrth wneud cais.
Cyflwyno cais am benodiad fel llywodraethwr cymunedol
Os hoffech gyflwyno cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Cais i gynrychioli'r cyngor fel llywodraethwr yr awdurdod lleol
Os hoffech ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.
Cymeradwyaeth fel gwarchodwr - gwneud cais ar-lein
Gwneud cais ar-lein.
Ailgymeradwyaeth fel gwarchodwr - gwneud cais ar-lein
Gwneud cais ar-lein.
Cyflwynwch gais am larwm cymunedol (llinell bywyd)
Ffurflen gais gychwynnol llinell bywyd.
Cais am gludiant o'r cartref i'r ysgol
Mae'r ffurflen hon ar gyfer disgyblion o oed ysgol statudol y mae angen iddynt gael eu cludo o'r cartref i'r ysgol ac y maent yn gymwys ar ei gyfer (nid ywr gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig).
Cais am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol/coleg i fyfyrwyr ôl-16
Mae'r ffurflen hon ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 a myfyrwyr amser llawn dan 19 oed ar 1 Medi y flwyddyn academaidd y gwneir cais amdani. Nid yw ar gyfer myfyrwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig neu fyfyrwyr Coleg Gŵyr.
Cais am fynediad at ddarnau o ffilm CCTV
Sylwer: gallwch gyflwyno cais testun am wybodaeth lle rydych chi'n ymddangos yn bersonol yn ein darnau o ffilm CCTV yn unig.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2024